O Blaenau i Ynys Y Barri!
Nes i dreulio dechrau wythnos yma adre ym Mlaenau Ffestiniog. Nes i fawr ddim byd, ond gorffen gwylio fideos ohona fy hun ar Big Brother. Erbyn hyn dwi di gwylio pob un pennod o BB7, felly mi fydd criw C2 yn falch iawn na fydd angen i fi fynd ar Youtube byth eto yn y swyddfa i wylio clips ohonaf fy hun ar y rhaglen!
Dydd Mercher wnes i'r siwrne afiach yna ar y tren o 'Llandudno Junction' nol i Gaerdydd, ar gyfer gwneud C2 nos Fercher.
Bore dydd Iau, o ni wedi bwriadu mynd i Ikea am dro i brynu ychydig o bethau i'r fflat. Ar y ffordd yna, nath na ddwy ferch basio fi yn y car, canu corn, a stopio i ddweud helo! Ei henwau nhw oedd Kiera a Stephanie, dwy ferch ddel iawn. Natho nhw ofyn i fi lle oeddwn i'n mynd, a nes i ofyn iddyn nhw os fasa ganddyn nhw ddiddordeb dod am dro efo fi i Ynys y Barri!
Off a ni yn y car, mynd ar yr holl reids gwahanol oedd yno, gwario lot o bres yn yr amusments cyn dod nôl adre i Gaerdydd. Mi gafon ni mega hwyl, felly nathon ni benderfynu cario mlaen a mynd fewn i ganol y ddinas i glybio! Diwrnod da iawn, a cyn i chi ofyn, do nes i fynhafio!!
Dydd Gwener nes i benderfynu mynd i weld chiropractor gan fod y marathon ond wythnos i ffwrdd bellach. Wel am brofiad, dwi erioed wedi cael fy manhandlo fel yna o'r blaen! Mi ges i fy mhlygu a fy mwnio mewn i sawl siap gwahanol, ges i hyd yn oed nodwydd yn fy mhen ôl i gael gwared o 'stress'! Yn y p'nawn wedyn es i nofio gyda fy ffrindiau newydd Kiera a Stephanie, cyn mynd nôl i dy Kiera i wylio'r ffilm Skeleton Key!
Dwi'n sgwennu hwn cyn mynd i stiwdio bore Sadwrn efo Magi. Ar ôl y rhaglen dwi'n mynd am run efo fy 'personal trainer'. Dwi'n gwybod fod hi braidd yn hwyr i ddechrau cymeryd y busnes rhedeg yma o ddifri - ond fel ma nhw'n dweud, gwell hwyr na hwyrach!
Tan tro nesaf!
Hwyl
Glyn
x


Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.