Gwyl y Pontydd!
Dwi ddim di bod yn hanner da wythnos yma, dal efo tonsilitis. Es i weld y doctor dydd Llun a nath o ddweud wrthai fy mod i'n dioddef o exhaustion! Esgus da felly i wneud dim byd ond gwylio Wimbledon (pan di ddim yn bwrw) a gwrando ar C2!
Y peth mwyaf cyffrous dwi di wneud wythnos yma, ydi cael cwrdd a'r cogydd Anthony Warrell Thompson. Dydd Iau o ni'n ffilmio BBLB yng Nghaerfarddon, mewn gwyl fwyd, a mi oedd rhaid i fi holi AWT a nifer o bobl eraill os oedden nhw eisiau prynu 'slop' Big Brother. Oedd y peth ei hun yn blasu'n afiach, a nath AWT ddweud yr unig beth y basa fo'n gallu ei wneud efo'r slop ydi ei ddefnyddio i ddal papur wal i fyny yn ei dy!!
Doeddwn ni erioed di bod yng Nghaerfaddon o'r blaen, a ges i sioc o sylwi fod yn gymaint o bobl posh a chefnog yn byw yno!
Ers i fi ddechrau gwethio ar y rhaglen Swn Sadwrn, mae fy naearyddiaeth i wedi gwella'n aruthrol, dwi di bod i lefydd doeddwn ni ddim yn gwybod oedd yn bodoli! Wythnos diwethaf mi oedden ni'n Nhrimsaran, dydd Sadwrn yma mi oeddwn i yn y glaw efo Daf Du ym Mhontrhydfendigaid. Pan wnaeth Sian y cynhyrchydd ddweud wrthai fy mod i'n mynd i Wyl Fawr Bont, mi oeddwn i ar fy marw yn meddwl bo ni'n mynd i wyl i astudio pontydd! Na Boring medda fi - ond wrth gwrs fatha arfer mi oeddwn ni wedi camddallt!
Er y tywydd gwael nes i really fwynhau fy hun, a bechod bo ni'n gorfod gadael cyn i'r digwyddiadau ar y prif lwyfan ddechrau!
Edrych mlaen i fynd i Felinheli dydd Sadwrn nesaf rwan!
Tan tro nesaf!
Hwyl
Glyn
x


Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.