Lipstick, Powder and Paint!
Gyda llai na mis, i fynd rwan tan y Briodas Fawr, wythnos yma, dwi wedi cael fy hyffordiant cyntaf mewn coluro. Rhag ofn bod rhai ohonoch chi ddim yn gwybod, mi ydwi wedi cael fy newis fel rhan o dim y Briodas Fawr ar gyfer 2007. Fy rol i ar y diwrnod fydd rhoi colur ar y briodferch.
Ddechrau'r wythnos ges i gyfle i arbrofi gyda 'foundations', 'blusher' a lipstics o bob lliw. Fy model ar gyfer fy aseiniad cyntaf oedd neb llai na trefnydd y briodas Heledd Cynwal. Mi 'o ni'n meddwl fy mod i wedi cael hwyl reit dda ar fy nghynnig cyntaf, ond yn ol Heledd mi oedd hi'n edrych fel clown!
Dwi dal wedi bod yn gwylio eitha' tipyn o Big Brother, mi oeddwn i'n un or bobl hynny oedd eisiau cadw Charley i fewn yn y ty, gan ei bod hi'n gwneud y rhaglen yn ddiddorol.
Dydd Iau mi ddaeth Lisa oedd yn Big Brother hefo fi lawr i Gaerdydd o Fanceinion i aros am rai dyddiau. Ar y nos Iau mi aethon ni i premier y sioe gerdd 'Never Forget' yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd. Er fod nifer o bobl sydd wedi gweld y sioe yn siomedig iawn efo fo, mi wnes i fwynhau.
Hefyd wythnos yma, mi es i i'r sinema i weld ffilm newydd y Simpsons. Oedd o'n eitha da, er mae'n rhaid i fi ddweud, mae'n well gen i wylio rhaglenni hanner o'r Simpsons yn hytrach na ffilm cyfan.
Dydd Sadwrn, diwrnod Swn Sadwrn, ac am y tro cyntaf ers dechrau'r haf mi oedd Magi a Fi yn y stiwdio. Mi wnes i fwynhau'r rhaglen yn fawr, mi oedd yna lot o chwerthin a lot o hwyl yn ystod y dair awr.
Gyda'r nos wedyn mi aeth Lisa a fi allan i Gaerdydd, mi aethon ni i'r clwb nos newydd yn y dre' or enw 'Oceana. Doedd hi ddim yn noson hwyr ofnadwy gan fod yn rhaid i fi ddal tren fore Sul i Brighton ar gyfer ffilmio Big Brother's Little Brother. Gewch chi'r hanes i gyd gennai wythnos nesaf!
Tan tro nesaf!
Hwyl
Glyn
x