Helo helo.
Huw yma, gobeithio bo chi'n iawn. Wedi bod yn rhedeg o gwmpas fel ryw ffŵl sili bili yn ddiweddar yn trefu gŵyl yng Nghaerdydd sy'n digwydd mewn ryw wthnos - Sŵn ydi'r ŵyl, a mae dros 120 o fandiau'n chware. Edrych mlaen yn fawr!
Ar ôl bod ym Manceinion yng ngŵyl In the City lle oedd Jakokoyak a Radio Luxembourg yn chware a cael lot fawr o hwyl a a sbri yn gweld llwythi o fandiau newydd, es i fyny i Gricieth i ffilmio Bandit. Roedd Cyrion a Mr Huw mewn ar y dydd yn swnio'n wych iawn, gyda Mared Swci Boscawen yn canu gyda Mr Huw ei hun. Roedd hi newydd ddod o Gaerdydd lle nath hi ganu ar lwyfan gyda Rufus Wainwright neb llai. Da.
Neithiwr es i i weld Arcade Fire yn chware. Fi di bod yn dilyn y band ers dipyn a di bod yn lwcus i weld nhw sawl gwaith mewn gigs gwahanol a gwylie mawr. Roedd gig neithiwr yn y CIA yn dda (mae genddyn nhw ganeuon gwych wrth gwrs) ond mae'r CIA yne mor fawr fi'n poeni bod bands yn colli bach o'i agosatrwydd gyda'r gynulleidfa.
Wrth fy modd yn grando ar Welsh Rare Beat 2 ar hyn o bryd - fyddai'n chware mwy oddi ar rhein ar C2 wthnos nesa yn sicr.
Hwyl am y tro,
Huw.
Nath Trystan, Ifan ac Erin o'r rhaglen deledu newydd Mosgito ddod mewn i'r stiwdio neithiwr i sôn am y rhaglen. Nethon nhw hefyd ddewis cwpwl o dracie i ni hefyd.
Nath Trystan ddewis Daniel Lloyd a Mr Pinc - Goleuadau Llundain, Frizbee oedd dewis Ifan a sengl newydd band ei chariad - The New 192, Torpedo Libido oedd y gân nath Erin ddewis. Roedden nhw yn griw hyfryd a dwi'n siwr fydd y rhaglen yn llwyddiant ysgubol. Ewch i weld ei safle gwe newydd nhw - bbc.co.uk/mosgito
Cyn i fi fynd - edychwch ar be weles i wrth gerdded i gwaith heddi! Cigydd ym Mhontcanna wedi ymuno yn yr ymgyrch i ddathlu'r nadolig yn gynnar eleni! Gobl gobl! Hwre!

Ma tafarn yng Nghaerdydd wedi ymuno yn f'ymgyrch i ddechre dathlu'r dolig yn gynnar leni!

Edrychwch be weles i ar ei silff-ben-tân ar nos sadwrn! Ie - garland dolig! Hwre!
Cofiwch - os ych chi'n gweld rhywun arall sy wedi dechre'r dathlu - ebostiwch neu txtiwch eich llunie mewn!
Allai just ddweud LLONGYFARCHIADAU i fois Radio Lux am eu perfformiad gwych yn yr Electric Ballroom fel rhan o ŵyl Proms Trydanol/Electric Proms y BBC!
Roedden nhw'n swnio'n anhygoel - ac yn llawn haeddu eu lle ar y llwyfan gyda rhai o brif grwpie Prydain.
Nice one bois!
(Elli di wrando arnyn nhw'n chwarae fan hyn)
Hydref 24, 2007 a ma fy nathliadau nadolig i wedi dechrau yn swyddogol am leni.
Hwre! Fi'n caru Nadolig!
Fi'n gwbod falle bo rhai ohonoch chi yn meddwl fod Hydref yn rhy gynnar (Daf Du - fi'n siarad da ti!) ond dyw e ddim...
Dyma'r rhesymau fy mod yn dechre fy mharatoadau Nadolig nawr:
* Daeth Emma adre gyda catalog Nadolig Boots a Marks'n'Spencers
* Fi di gweld oleia 3 hysbyseb ar y teledu gyda Sion Corn ynddyn nhw
* Nath 2 o ddisgyblion Ysgol Tryfan, Bangor ofyn i fi chware Sion Corn gan Gola Ola ar fy rhaglen
* Nes i weld dynion y cyngor yn rhoi goleuadau dolig Caerdydd lan
* Fi di gweld Robin Goch
A wedyn y geiriosen ar y gacen - neu falle y celyn ar y log-nadolig oedd gweld y tŷ hwn yn Grangetown….

Ie - roedden nhw wedi addurno'i ty a rhoi eu coeden dolig lan yn barod! Parch!
Ac os nad yw hynny'n ddigon - edrychwch be weles i yn cael eu gwerthu mewn siop fara yng Nghaerdydd!

Felly - gyfeillion - ymunwch â fi yn y dathlu! Mae'n amser dathlu'r dolig! Os ych chi'n gweld unrhyw arwyddion Nadolig o gwmpas eich tref/bentref/ysgol/coleg anfonwch y llun aton ni a newn ni roi nhw lan ar y safle!
Anfonwch lun yn syth o'ch ffôn i 07786 20 10 30, neu ebostiwch c2@bbc.co.uk
Nadolig Llawen i chi gyd!
Ma nhw'n dweud bod amser yn hedfan pan ych chi'n cael amser da - ac ma'r tair wythnos dwetha yn brawf o hynny.
Nethon ni ddechre ar "home turf" - ysgolion y de gafodd y pleser o gwmni Taith C2 Bandit yr wythnos gynta. Ysgol Rhydywaun yn sefyll mas i fi gan mai dyma f'ardal. Roedd y disgyblion mor frwdfrydig a hoffus. Roeddwn ni wrth fy modd yn eu cwmni - nath y profiad fynd â fi nol i fy nyddiau ysgol i yn Rhydfelen... dyddie gore'ch bywyd and all that...
Nes i a Glyn deithio lan i'r gogledd ar gyfer ail a thrydedd wythnos y daith. Gethon ni groeso arbennig ym mhob un ysgol a licen ni ddiolch yn fawr i'r staff a'r disgyblion am neud i ni deimlo mor gartrefol yn eu hysgolion. Un peth bach - dyma Glyn yn dweud wrthai fod rhai o ddisgyblion y gogs ddim yn deall fy acen! Ddim yn deall fy valleys twang?? Pwy sa'n meddwl? Ond ware teg nath Glyn job dda iawn yn cyfieithu ar y pryd i fi mewn mwy nag un ysgol.
Ma cael y fraint o wylio Y Rei - band y daith yn perfformio bob pnawn wedi bod yn anygoel. Ma'r tri aelod, Aron, Rich ac Alex yn gerddorion ac yn berfformwyr arbennig iawn. Ma nhw'n mynd i fod yn ANFERTH! Bandiau eraill y daith fel Amlder, Creision Hud ac yr anhygoel Frizzbee yn profi bo' gymaint o dalent cerddorol yng Nghymru ar hyn o bryd.
Wythnos arall i fynd ac fe fydd Taith C2 Bandit 2007 wedi dod i ben - ond dwi ddim yn meddwl fod hi'n rhy gynnar i ddweud, mai dyma'r daith ore' erioed! Taith C2 Bandit 2008? Co ni off de!
Diwrnod hyfryd o Hydref, a'r haul yn tywynu'n braf ar Ysgol Glan y Môr Pwllheli! Job fi bore 'ma oedd cynnal gweithdy radio efo Glyn Wise! Gafon ni lot o hwyl, a tri rhaglen radio gret erbyn diwedd y sesiwn. Os da chi'sio gw'bod mwy am yr hyn da ni'n ei wneud mewn gweithdy o'r fath, darllenwch blog ddoe. Ond ie, cymeriadau eto heddiw, dychymyg da, a lot ohonynt yn licio canu! Deuawd pop perffaith - "Sam ac Amanda o Big Brother 8" efo'u fersiwn Gymraeg o "Barbie Girl" gan Aqua! Gafon ni fersiyne eitha unigryw o "Pishyn" a "Mi welai jac y do..." hefyd! Heb anghofio, y "John ac Alun" ifanc, sef Sion a Gruffudd, o'dd yn hilariws efo'u hiwmor naturiol. Do, nes i chwerthin lot efo Glyn a criw Glan y Mor!
Mae'r daith yn Ysgol Dyffryn Nantlle 'fory, a dwi'n ail ymuno efo'r criw yn Ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch bore dydd Mawrth. Sy'n golygu bod fi'n rhydd am y dyddie nesa 'ma i ganolbwyntio ar fy rhaglen newydd ar C2, a dwi'n rili edrych mlaen, achos nos fory, mae gen i sesiwn acwstic ola erioed Kentucky AFC a cwpwl o ganeuon newydd gan Radio Luxembourg! Gwych! Felly welai chi am ddeg nos fory - hwyl! x
Ysgol Ardudwy, Harlech, oedd lleoliad taith C2 Bandit heddiw, a mi gawsom ni ddiwrnod gret arall! Mae'r ysgol yn dechre'n gynnar am 08.15, felly roedd rhaid codi am chwech bore 'ma i gyrraedd yr ysgol mewn pryd! Dwi'm yn cofio'r tro d'wetha i mi neud hynny, ond chware teg, gafon ni sawl paned o goffi gan yr ysgol, a chacennau neis i gadw ni fynd drwy'r bore, felly diolch yn fawr am rheini!
Ond ie, bore 'ma, o'dd Magi a Glyn yn cynnal gweithdy radio efo tua 30 o ddisgyblion blwyddyn 10 ac 11. Job fi bore 'ma oedd arsylwi achos o ni erioed 'di bod mewn gweithdy o'r fath o'r blaen. Nath y ddau esbonio be oedd C2, pwy sy'n cyflwyno a phryd, esbonio manylion technegol, a rhoi cyngor ar sut mae mynd ati i greu rhaglenni da ayyb. Ar ol rhannu'r disgyblion i dri grwp, roedd rhaid penderfynnu pwy oedd y cyflwynwyr, cynhyrchwyr, a'r technegwyr, a roedd gweddill y grwp yn cael smalio bod mewn band enwog! Pawb wedyn i fynd ati i greu rhaglen, ac erbyn diwedd y sesiwn, mi gafon ni dair rhaglen gret gan y tri grwp. Lot o hiwmor yn Harlech!
Cinio ysgol, a wedyn sioe yn y pnawn! Y Rei a Frizbee oedd wrthi eto heddiw, a fel ddoe, pawb yn mwynhau'r gerddoriaeth! Lot o swn a sgrechian! Er gwybodaeth, mae Alex Moller, drymiwr arbennig y Rei, yn gyn-ddisgybl Ysgol Ardudwy.
'Mlaen a ni i Bwllheli, a dwi'm angen codi tan tua saith bore fory... Hwyl! x
Mae taith C2 Bandit di dechre ers wythnos, ond heddiw oedd fy niwrnod cynta' i, ac Ysgol Tywyn oedd y lleoliad! Gret gweld hogie Frizbee a'r Rei - nhw oedd wrthi pnawn 'ma! A'th y sioe yn dda, gafon ni cymeriade yn cystadlu yn y cwis pop a'r carioci, a mi gafodd y bandie ymateb gwych. Lot o sgrechian, neidio a chadw sŵn! Boncyrs! Cymer olwg ar y lluniau fan hyn.
Ysgol Harlech 'fory... Hwyl!