Archifau Tachwedd 2007

Gwobrau'r Ffatri Bop 2007

Categorïau:

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 17:05, Dydd Gwener, 30 Tachwedd 2007

Sylwadau (0)

Noson fawr, noson dda, noson hwyr!

Mae'r gwobre yn ei seithfed flwyddyn, ac eleni, o'dd y seremoni yn cael ei chynnal yn y Neuadd Fawr ym Mhrifysgol Caerdydd. Digon o win, fodca, a chwrw ar y byrdde, ond o'n i gefn llwyfan efo Mr Glyn Wise, yn siarad efo hwn a'r llall!

Mi gafon ni'r fraint o gael mynd ar y llwyfan hefyd, efo Alex Zane (sy'n hyfryd gyda llaw!) i gyflwyno gwobr C2 i'r band Cymraeg gore. Categori poeth iawn, a 4 o'n hoff grwpie i ar y rhestr fer - Euros Childs, Radio Luxembourg, Genod Droog, a'r Sibrydion. A'r Sibrydion nath ennill! Mor falch drosta nhw, ond doedd Daf druan, y drymiwr, ddim yn gwbod be i ddeud pan ddoth o ar y llwyfan i dderbyn y wobr! Er, wedi meddwl, di drymars byth yn deud lot! Ond eniwe, yn ddiddorol iawn, mi oedd Mei Gwynedd yn bresennol neithiwr, ond doedd na'm golwg ohona fo ar y foment dyngedfenol, achos o'dd o tu allan yn cael ffag! Gath Glyn a fi air efo'r ddau ohonyn nhw wedyn, ac oedde nhw'n amlwg yn hapus iawn.

Hef, Daf a Mei yn dathlu

Hefin Mattoidz yn helpu Daf a Mei o Sibrydion i ddathlu eu gwobr!

O ran perfformadiadau byw y noson, gafon ni un gan gan Funeral For a Friend. Nes i fethu nhw'n anffodus, ond yn ôl y sôn, doedde nhw'm yn dda iawn, ac yn sicr ddim yn haeddu ennill categori band byw y flwyddyn ar y perfformiad yne. Trafodwch!

O 'na ferch ifanc yne yn chware'r delyn - Georgia Ruth Williams - o Aberystwyth yn wreiddiol, ac yn astudio'n Caergrawnt ar y funud. Hogan lyfli, sy'n chware stwff gwerin eitha traddodiadol a diddorol, ac yn canu 'fyd. Di ddim 'di recordio dim byd Cymraeg eto, ond yn gobeithio gwneud yn y dyfodol agos, a dwi 'di son wrthi am sesiwn acwstic. Wedyn i gloi'r noson, y grwp boncyrs gwych o Lerpwl, y Wombats! Mond un gân yn anffodus, "Lets dance to Joy Division", ond oedde nhw'n bril a llawn egni.

Felly, y pethe pwysig, y canlyniade. Wel da chi'n gwbod bod y Sibrydion 'di ennill gwobr C2, band Cymraeg y flwyddyn, a bod Funeral For a Friend di ennill band byw y flwyddyn. Y Manics nath ennill band y flwyddyn, Kids in Glass Houses - band newydd y flwyddyn, a'r Automatic nath ennill band sy di llwyddo'n ryngwladol.

Prif wobr y noson, cyfraniad oes i gerddoriaeth yma yng Nghymru, yn mynd i Mike Peters. Dyn annwyl, diymhongar, a normal iawn! A nath o ddeud wrthai wedyn bod o wrth ei fodd efo'r wobr (er bod o 'di torri!), yn enwedig o ystyried 'chydig o flynyddoedd nôl, doedd o'm yn meddwl bod o'n mynd i fyw lot hirach. Felly oedd hi'n noson arbennig iawn idda fo'n amlwg. Ac o leia odd o'n haeddu ei wobr! Sori, ond dwi jyst braidd yn siomedig bod albym y flwyddyn 'di mynd i'r Stereophonics! Esboniad plis? Sut nath "Pull the Pin" guro "Hey Venus" gan y Super Furry Animals?

Erbyn tua deg o'r gloch, o'dd y seremoni 'di dod i ben, o'dd Glyn a fi 'di gorffen ein gwaith gefn llwyfan, ac o'dd y ddau ohonom angen diod! Felly, mynd i chwilio am bawb arall, a dechre cymdeithasu! A fel dwi 'di deud yn barod, o'dd hi'n noson fawr, noson dda, a noson hwyr!

Reit, dwi ffwrdd i'n ngwely am cwpwl o orie cyn rhaglen heno, felly welai chi am ddeg! Hwyl!

Dyn Nath Ddwyn y Nadolig

Categorïau:

Huw Stephens Huw Stephens | 17:36, Dydd Mercher, 28 Tachwedd 2007

Sylwadau (0)

Helo helo. Roedd Robin y cynhyrchydd yn canu tiwns o Dyn Nath Ddwyn y Nadolig ar raglen neithiwr. Roedd hyn yn gneud fi'n hapus. Mae'n glasur o raglen, ac mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn dangos y glasur yma ar Ragfyr y 4ydd am ddim am 7.30pm. Ond mae angen i S4C ddangos e hefyd. Da gweld bod grwp Facebook wedi dechre yn barod i gael y sianel i ddangos y ffilm - ymunwch os chi heb yn barod!

Artist yr wthnos ydi Iron and Wine. Sam Beam yw e, a gwych ydi eu cerddoriaeth. Albym newydd MC Mabon, Jonez Williams yn swnio'n flasus, cyffrous ydi cal Radio Crymi Playlist Vol 2 ar cd, a rhyfedd ydi derbyn albym Perthyn gan Emyr a Sian Wyn Gibson. Ond neis oedd chware darn drws nesa i'r rapwyr gwych Plastic Little ar raglen neithiwr.

Gwersi canu

Categorïau:

Magi Dodd Magi Dodd | 17:42, Dydd Llun, 26 Tachwedd 2007

Sylwadau (0)

Helo bobol.

Amser hir ddim siarad! Sori am beidio sgwennu ers sbel ond wedi bod yn hectic iawn!

Wedi bod yn brysur iawn iawn iawn dros yr wythnos ne ddwy ddwetha. Nes i a Glyn a Jeni Lyn fynd lan i stiwdio Sain i gyfrannu at sengl Nadolig Gwibdaith Hen Frân. Roedden ni'n tri wrth ein bodd - ond druan â bois Gwibdaith - sain credu o'n nhw'n deall pa mor ofnadwy oedd lleisiau fi a Glyn. Ma Jeni yn ffab ar ei chornet felly ma'i darn hi yn dda iawn - ond ma darn fi a Glyn yn... Wel... Sut allai weud hyn… doji i weud y lleia.

Ond gethon ni groeso gwych gan bawb yn Sain a chan fois Gwibdaith - felly diolch i bawb!

Mi fydd y sengl mas ddechre Rhagfyr… rhedwch am eich bywydau!!

Tŷ efo addurniadau

A diolch i Sian am anfon y llun nadoligaidd hyfryd 'ma ata i!

Tra xx

Penwythnos prysur

Categorïau:

Huw Stephens Huw Stephens | 14:12, Dydd Mercher, 14 Tachwedd 2007

Sylwadau (0)

Penwythnos dwytha oedd y prysura yn fy mywyd siwr o fod!

Roedd gŵyl Sŵn mlaen yng Nghaerdydd a gan mai fi oedd un o'r trefnwyr roedd ne lot o redeg o gwmpas i neud. Weles i ryw ddwy gân gan rhan fwyaf o fandie dros y pewnthnos, yn cynnwys - Eitha Tal Ffranco, Pappy, Edwyn Collins, Hot Puppies, Cribs, Shrag, Llan Clan, Gentle Good, Bobby Mcgees, a fyswn i yn cario mlaen ond fyse ni yma tan fory.

Diolch i bawb nath ddod - fi 'di dechre gweithio ar y plan i Sŵn flwyddyn nesa yn barod!

Ymgyrch Dathlu'r Nadolig yn Gynnar

Categorïau:

Magi Dodd Magi Dodd | 16:49, Dydd Iau, 8 Tachwedd 2007

Sylwadau (0)

Ma f'ymgyrch Dathlu'r Nadolig yn Gynnar (oes rhywun yn gallu meddwl am enw mwy catchy??) yn mynd o nerth i nerth... Mae'n debyg bo cantîn y BBC wedi dechre gwerthu mins peis yn barod! (Diolch i Iwan C2 Bangor am y llun!)

Mins pei

A heeeeefyd - edrychwch ar y goeden Nadolig ANFERTH sy tu fas Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd. Da iawn Mr Ian Cottrell am sylwi arni ac anfon y llun draw! Gyda llaw - Ian fydd mewn yn cyflwyno ar c2 nos Lun am 8 - pawb i wrando - fydd e'n fab!

Coeden dolig

Cyn fi fynd - just ise dweud pob lwc i Huw S a'r bandiau gyd sy'n chware yng Ngŵyl Sŵn dros y penwythnos. Mae'n mynd i fod yn ŵyl i'w chofio ac os ellwch chi fynychu cwpwl o gigs neu ddigwyddiadau erill sy'n cael eu cynnal, dwi'n argymell yn gryf i chi neud. Mmmm… sgwn i os fydd Llwybr Llaethog yn fodlon chware chunes Dolig yn gig C2 yng Nghlwb Ifor Bach nos Sadwrn???

Rhyng-gol

Categorïau:

Magi Dodd Magi Dodd | 14:39, Dydd Iau, 8 Tachwedd 2007

Sylwadau (0)

Hellloooo chi…

Allai ddweud jiolch yn dalpie i Bethan Griffiths, Taid a gweddill criw UMCA am y croeso gethon ni yn y Ddawns Ryng-golegol dros y penwythnos. Ges i a Glyn a Robin amser gwych yn Aberystwyth. Roedd y bandiau yn arbennig o dda - or cynta - Amheus i'r ola' - Sibrydion. Roedd hi'n gig a hanner. Nath Derwyddon set gwych ond band y noson i fi oedd Yr Ods - ma nhw'n mynd i fod yn fawr!

Gethon ni lot o hwyl yn y grîn-rwm hefyd. Gyda Robin C2 a Fflos o Sibrydion yn cael cystadleuaeth "pwy sy'n gallu dal eich llaw mewn bwced o iâ am yr amser hiraf" ac Amheus, Derwyddon a Plant Duw yn cael cystadleuaeth taflu pizza. Roc-a-Rol!

Paratoi i wneud lot o sŵn

Categorïau:

Huw Stephens Huw Stephens | 13:18, Dydd Iau, 8 Tachwedd 2007

Sylwadau (0)

Helo helo. Sili bili Stephens sydd yma eto (falle nai gadw hwna fel enw dj newydd i fi? Falle ddim), gyda fy mlog.

Gyda gŵyl Sŵn yn digwydd ar y penwthnos yng Nghaerdydd mae lot o drefnu i neud - dros 120 o fandiau, llwythi o leoliadau ag ati. Mae popeth yn dod at ei gilydd.

Os chi yng Nghaerdydd ar y penwthnos a methu dod i un o'r gigs, ewch i weld y celf! Mae am ddim, gyda arddangosfa Bandit llawr top marchnad Jacobs (bwys y gwesty nath losgi lawr bwys steshon trens Caerdydd). Mae gwaith celf gwych Jon Clee, artist y Green Man fuodd farw eleni, yn g39 (ar Mill Lane) a wal enfawr Pete Fowler yn Chapter yn ardal Canton y ddinas. Fydd hwna lan tan Ionawr. Pete sy'n gneud y bwystfilod gwych yna ar gloriau Super Furry Animals.

Es i weld SFA wthnos dwytha yn Llunden. Gig gwych a llwyth o ganeuon oni heb glywed ers hir fel She's Got Spies a Keep the Cosmic Trigger Happy!

Tan toc

H

Diolch i Ray Gravell

Categorïau:

Huw Stephens Huw Stephens | 21:02, Dydd Gwener, 2 Tachwedd 2007

Sylwadau (0)

Fel mae Magi yn son isod, allai ddim ond ategu at yr hyn mae'n dweud am y newyddion trist am Ray Gravell. Roedd e'n arwr o ddyn ym mhob ystyr o'r gair.

Tro cynta I fi gwrdd â fe oedd ar raglen ar S4C roedd e'n cyflwyno o'r enw Tip Top (un o'i ddywediadau wrth gwrs). Ro'n i ar y rhaglen yn gneud tricie hud pan on i'n ryw bymtheg oed, a'r dyn hyfyrd o glen a cyfeillgar yma yn llawn egni a charedigrwydd.

Flynyddoedd wedyn yn swyddfa Radio Cymru, roedd e'n son gymaint roedd e'n hoff o Bandit, ac roedd hwnne yn gompliment enfawr i'r rhaglen. Naethon ni roi poster ohonno fe ar y set, a daeth e ar y rhaglen unwaith gyda fi a Huw Evans.

Roedd e'n ffan enfawr o Brigyn ac o Fflur Dafydd a llu o fandiau eraill. Nath e recordio brawddeg neu ddwy i fy rhaglen ar Radio Cymru hefyd, yn dweud 'Hip Hop - Tip Top'; perffaith i chware cyn trac rap gan y Tystion neu Pep le Pew ar y pryd!

Diolch am bopeth Ray.

Os dydych chi heb glywed sesiwn un o fandiau mwyaf doniol, lliwgar a diddorol Cymru, Eitha Tal Ffranco eto, mae'n werth gneud. Cliciwch fan hyn i glywed sesiwn C2.

Hwyl am y tro, h.

Cofio Grav

Categorïau:

Magi Dodd Magi Dodd | 21:11, Dydd Iau, 1 Tachwedd 2007

Sylwadau (0)

Ray

Mae'r newyddion trist am farwolaeth Ray Gravell wedi taro ni gyd yn galed iawn. Fel nifer ohonoch chi dwi'n siwr, pan glywes i'r newyddion - nes i ddim credu'r peth. Ma rhaid bo rhyw gamsyniad. Rhywun wedi drysu. Y tro dwetha nes i weld Grav roedd e llawn bywyd ac egni. Yn chwerthin ac yn jocian fel arfer. Roedd deall nad oedd na gamgymeriad wedi bod - a bo Grav wedi'n gadael - yn ergyd drom iawn.

Roedd fy ffrind gore Emma yn gweithio'n agos â Grav - ac fe ddaeth y ddau yn ffrindiau penna' - a thrwy hynny, bues i'n ddigon ffodus i ddod i'w nabod hefyd. Bydde Grav yn brasgamu mewn i'r swyddfa a fydde pawb yn troi pen a gwenu. Bydde Grav yn cyfarch BOB UN ohonom ni yn unigol. Roedd ganddo lys enwau i ni gyd. Fy un i oedd Abergwaun a hynny gan fy mod unwaith wedi gwisgo crys T coch Eisteddfod Abergwaun. Roedd y lliw coch wedi denu ei lygaid - ac o hynny mlaen - Abergwaun o ni! Roeddwn ni mor chuffed bo gan yr arwr Ray Gravelle lys enw i fi! Ond pan odd Grav yn siarad da chi, roeddech ch'n anghofio eich bo chi'n siarad gyda arwr y bêl hirgron, actor llwyddiannus a darlledwr proffesiynol a phoblogaidd - achos roedd e'n eich trin chi fel ffrind. Roedd e'n trin pawb yr un peth - os oeddech chi'n lanhawraig neu'n neud y te neu yn gynhyrchydd neu yn bwy bynnag - roedd Grav yn trin pawb fel un o'i ffrindiau gore. Roedd e'n neud i chi deimlo fel chi oedd yr unig berson yn yr ystafell.

Ma llawer o bobol yn son am haelioni Ray Gravelle, ond nes i brofi ei garedigrwydd pan nath brawd fy nghariad fynd yn sâl. Ma Rhys yn ffan mawr o'r sgarlets felly nes i ofyn i Grav os fydde fe'n fodlon arwyddo llun i fynd wrth ei wely yn yr ysbyty. Oooo na! Doedd hynny ddim yn ddigon! Nath Grav fynd ati i sgwennu neges bersonol i Rhys, arwyddo llun, recordio neges ac addo dau docyn i gêm y Sgarlets iddo pan oedd yn well. A hyn i gyd i rhywun doedd e erioed wedi cwrdd.

Dwi'n teimlo hi'n fraint bo fi 'di cwrdd ag un o wir arwyr ein cenedl - ac y boi mwya neis yn y byd i gyd.

Y cydymdeimlad dwysaf i Mari, Gwenan a Manon - ryn 'ni gyd yn meddwl amdanoch chi.