Ni wrthi'n paratoi i ddathlu'r flwyddyn newydd heno, ond hefyd yn paratoi i gyhoeddi Siart C2 y Flwyddyn nos fory! Magi Dodd fydd â'r siart yn llawn ar C2 o 8 o'r gloch ymlaen ar ddydd Calan (a bydd y siart ar wefan C2 ar ôl y rhaglen hefyd). Ond pwy wyt ti'n meddwl sy'n haeddu bod ar y brig? Pwy oedd y band neu artist y flwyddyn yn dy farn di? Mae di bod yn 12 mis anhygoel o brysur o ran gigs a CDs, a ry'n ni eisiau gwybod be oedd dy uchafbwyntiau di! Postia yn y blwch sylwadau isod.
Cofia hefyd fod na lot o raglenni arbennig ar C2 ar hyn o bryd yn edrych nôl ar bigion 2007 - mae na restr llawn yn fan hyn neu rho glec ar Gwrando Eto ar y dde i wrando arnyn nhw nawr!
DIWEDDARAIAD: Dyma siart 2007!. Be wyt ti'n feddwl?
Henffych bobol, a dyma anrheg bach i chi gan fi, cerdd nadoligaidd Lisa Gwilym (a nodyn i chi feirdd, 'di ddim yn gret oce!). Hwyl yr ŵyl! Lis x
Diolch am wrando wrandawyr llon,
ar y rhaglen arbennig hon.
O Swci Boscawen i Llwybr Llaethog,
a'r Anifeiliaid Anhygoel o Flewog.
Cerddoriaeth wych, sesiyne di-ri,
'Steddfod a'r Sesiwn a gigs llawn sbri!
Daeth diwedd i flwyddyn 2007
mae wedi bod yn siwrne faith!
Felly stwffiwch y twrci a craciwch y cnau,
Nadolig llawen gan Lisa C2!
Fi 'di bod yn brysur iawn dros yr wythnose dwetha yn meddwl am brynu anrhegion nadolig. Dwi ddim wedi DECHRE prynu nhw ond fi wedi bod yn meddwl am brynu nhw. Fi'n rili edmygu pobol fel Sian ac Emma C2 achos ma nhw'n dechre prynu anrhegion nhw ym mis Awst a ma nhw wedi gorffen erbyn mis Medi. Fi'n edmygu nhw - ac yn edrych arnyn nhw yn lapio eu anrhegion dolig ddiwedd Medi, drwy lygaid eiddigeddus. Ond ma rhywbeth yno fi - yn fy ngenynnau - sy'n atal fi rhag prynu anrhegion dolig tan yr eiliad ola'.
Falle achos ma Nadolig yn meddwl mwy i fi ’na phethau materol - ma bod gyda theulu a ffrindiau yn bwysicach nag anrhegion.
Neu falle mai'r rheswm yw fy mod i'n ddiog ac yn eitha stinji.
Ta waeth, os y'ch chi fel fi a heb brynu anrhegion dolig eto (ac yn eitha stinji a ddim ise gwario lot o arian) - dyma restr o anrhegion munud ola da iawn *
- Selection bocs - achos ma pawb yn hoffi siocled
- Smelis ee. talc neu sebon - achos ma pawb yn hoffi arogli'n neis. Peidiwch â neud y camsyniad o brynu sebon bob-dydd serch hynny. Prynwch sebon pinc neu felyn mewn bocs eitha posh. Ma hwnna yn gweithio bob tro
- Talebau. Yr unig broblem gyda thalebau yw… ma pawb yn gwbod faint chi 'di gwario arnyn nhw, ac mae talebau yn anrhegion munud ola AMLWG iawn. Chewch chi ddim lot o ddiolch am dalebau (fi'n gwbod hyn o brofiad)
- Sengl Nadolig - digon ohonyn nhw mas eleni gan gynnwys Bryn Fon, Alistair James, Frizbee ac aheemm, Gwibdaith Hen Fran a chriw C2
- Hances - achos ma pawb angen sychu trwyn
- Sanau - achos ma pawn angen cadw traed yn gynnes
- Nics/Trons - achos ma pawb yn gwisgo nics/trons (ar wahan i Britney Spears a Paris Hilton)
Gobeithio fod y rhestr o help ichi!
A chofiwch - ma anifail anwes am byth - ddim am y Nadolig yn unig. Felly peidiwch â phrynu ci neu gath neu hyd yn oed bysgodyn fel anrheg oni bai eich bod chi yn HOLLOL sicr dy'n nhw ddim yn mynd i daflu fe i ffwrdd yn y flwyddyn newydd. Prynwch bâr o nics/trons iddyn nhw yn lle…
Dolig Llawen!
Xxx
* Ma nhw'n anrhegion da iawn yn fy marn i… peidiwch cael go arno fi os nag yw'ch teulu/ffrinidau/cariadon yn hoffi'r anrhegion.
Fi newydd brynu menig fyddwch chi'n falch o wbod. Gobeithio naethoch chi fwynhau tiwns dyn nath ddwyn y dolig ar C2 yn ddiweddar. A hefyd albyms y flwyddyn, yn cynnwys:
Euros Childs - Bore Da. Mae Euros nôl o Nashville - edrych mlaen i glywed yr albym newydd yn '08!
Alun Tan Lan - Yr Aflonydd. Campwaith arall, y gore eto gan Alun.
Sibrydion - Simsalabim. Wedi tyfu arnai'n fawr iawn.
Es i weld MC Mabon yn Clwb Ifor wthnos dwytha, ei gig cynta mewn tair mlynedd gyda band da o'i gwmpas a caneuon Jonez Williamz yn swnio'n dew yn fy marn i.
Gig parti dolig Maes B nos Sadwrn yma yn Porthmadog yn edrych yn wych - line-up gwych fan hyn.
Gobeithio gewch chi amser da dros y Dolig. Fi nôl ar C2 gyda sesiynau a bandiau newydd y flwyddyn ar y 27ain o Ragfyr, ar raglen Aled Jones dydd Dolig ar Radio Cymru, ag ar Ionawr 1af yn edrych mlaen i 08 yng nghwmni Dyl Mei, Hefin Jones o Tŷ Newydd Sarn, Lynsey Anne ac Ian Cottrell.
Hwyl am y tro
H
Helo eto!
Ma CD newydd y Rei wedi cyrraedd y swyddfa. Bydd rhaid disgwyl tan 10pm nos Iau i'w glywed, ond yn y cyfamser, dyma'r rhestr o'r traciau:
- Interval
- Arswyd Pen Y Syrcas
- Byw Y Drwg
- Diafoledig
- Venus Fly Trap
- Miaw
- Ansicr
- Rebel Heb Achos
- Hogan Ddrwg
- She Blows My Mind
- Cysgodion
- Neo Clasurol
- Hyricên Catrin-a
- Don't Need a Doctor
(14 trac, allan yn y flwyddyn newydd ar label Aron)
Helo bawb
Ma Ryan Kift newydd alw draw i'r BBC ym Mangor, hefo'r copi o'i sengl Nadolig newydd Y Tri Gŵr Noeth. :-) Diddorol… Bydd Ryan gyda fi ar y rhaglen am 10pm nos Iau ac mi fydda i'n chwarae'r track yn ecsgliwsif.
Hwyl am y tro
Lis
ps, ych chi'n cofio Ryan yn dod draw llynedd hefo'i CD newydd?

Haia bawb!
Ma gen i bach o newyddion i chi am raglen heno - ma bechgyn Plasdy Neud Nid Gneud wedi bod yn brysur iawn - a ma nhw wedi bod yn garedig iawn! Ma sengl newydd Llwybr Llaethog - hefo MC Sleifar, Mr Phormula, 9 Tonne, Lews Tunes, Pendafad a Marc "Cyrff/Catatonia/Ffyrc" - yn barod ac mi fydda i'n ei chwarae hi am 10pm. Bydd y trac ar gael i'w islwytho am ddim o maes peis Llwybr Llaethog yn syth ar ôl y sioe.
Hefyd ar y rhaglen - cân newydd yn egsgliwsif gan Endaf Presley, a chydig o newyddion am ongl Gymreig ar brosiect newydd Boob-Bip a Gruff Rhys.
Cofiwch allwch chi wrando unrhywbryd am y 7 diwrnod nesa yn fan hyn!
Fuodd ambell un o griw C2 ddigon ffodus i gael mynd i fusnesa gefn llwyfan yn ystod Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc, gynhaliwyd yn ddiweddar ym Mhafiliwn Corwen.
Druan ag e, mae e dal i ddod dros y profiad (wedi cyffroi'n lân oherwydd y cymysgedd unigryw o ddynion ffit mewn ffrogiau, marigolds, a welington bŵts, mae'n debyg), ond roedd hi'n noson a hanner yn ôl y sôn.
Tra roedd Geraint Lloyd, Rebecca Jones a Terwyn Davies yn cyflwyno'r noson yn fyw ar Radio Cymru, aeth gohebydd dewr C2 i gymdeithasu yn y stafelloedd newid - gyda chamera fideo!
Clicia i weld fideo o gystadleuwyr Steddfod y CFFI gefn llwyfan!

Dylan (Radio Luxembourg) a Carwyn (Genod Droog) yn mwynhau yn y seremoni
Fuodd Glyn Wise a Lisa Gwilym yn noson wobrwyo'r Ffatri Bop ar C2... cliciwch isod i weld fideos ohonyn nhw'n sgwrsio efo'r sêr gefn llwyfan!
Carwyn a Gethin Ev o'r Genod Droog ar ddechrau'r noson
Daf a Mei o'r Sibrydion ar ôl derbyn eu gwobr
Georgia Ruth Williams a Rich Gola Ola
Mike Peters gyda'i wobr am gyfraniad oes
Mwy o wybodaeth am y noson, a rhestr yr enillwyr, ar wefan C2.