Wedi cael dechrau prysur iawn i 2008. Ar ôl dathlu fy mhenblwydd yn 20ain oed, mi es i efo criw o ffrindiau draw i Ffrainc i sgio.
Ges i amser gwych, gormod o win coch a caws, a hefyd mi oedd y sgio yn ffantastic. O ni'n mwynhau mynd i'r discoteque bob nos, a dawnsio'n wirion. Dyma'r ail dro i fi sgio, a o ni dal yn disgyn lot!
Y peth gorau am y gwyliau oedd cael y cyfle i fynd i paraglidio dros Morzin.
Ar ôl dod yn ôl mi wnes i a Magi gario mlaen efo ymgrych Camp Lawn Glyn Wise. Da ni wedi cael lot fawr iawn o hwyl yn ystod yr wythnosau diwethaf, a wedi cael nifer o bobl enwog yn cefnogi'r ymgyrch. Ar hyn o bryd, dwi wedi bod yn brysur yn ysgrifennu cân, fydd gobeithio yn anthem i dim Cymru.
Dros y penwythnos mi es i i Ddulyn i weld Spiral (o BB7) yn rapio mewn clwb nos dingy. Ces i amser gwych yno, gan fod Jayne o'r gyfres BB yno hefyd, a doeddwn i ddim wedi ei gweld hi ers amser hir. Gormod o yfed, gweiddi, dawnsio a chanu wedi arwain at tonsilitis wythnos yma.
Dechrau gwych i'r flwyddyn, edrych ymlaen rwan i weld y gem rygbi dydd Sadwrn, gan weddio fod fy ymgyrch i'n llwyddiannus.
Tan tro nesaf
Glyn
x
Helo, ac yn wir, helo.
Roedd sesiwn Dybl L yn un diddorol wthnos ddiwetha, gwrandewch eto os naethoch chi golli e, a mae ei sengl allan ar Ciwdod nawr.
Wedi bod yn mwynhau albym Vampire Weekend wthnos yma. Bob blwyddyn mae llwyth o fandie yn cel eu hawgrymu gan y wasg i fod yn fawr a llwyddiannus, ond ma pawb yn mynd am y rhai amlwg fel Adele, Duffy a rhain. Ond ma nhw yn hynod o dda; syniade, synnau retro, dylanwad Affricanaidd, a trac ar yr albym o'r enw Bryn. Pwy ydi'r Bryn ma band mwya addawol America yn son am? Fon? Terfel? Recordiau Gwynfryn? Pwy a ŵyr - nai chware'r gân wthnos yma.
Ac Emyr o label Ankstmuzik ydi fy ngwestai ar C2 heno am 10pm i son am y 10 mlynedd diwetha o'r label a'r casgliad newydd.
Henffych gyfeillion!
Heno ar raglen Lisa am 10, ma' 'na ganeuon newydd sbon gan Gruff Rhys - wel, i radddau… Da ni wedi llwyddo i gael traciau escgliwsif gan Neon Neon - sef prosiect newydd Gruff Rhys a'r cynhyrchydd Boom Bip. Dwi wedi bod yn trafod y peth hefo'r cwmni recordiau - Lex - ers ddechra mis Rhagfyr, ac o'r diwedd ma'r traciau wedi cyrraedd.
Enw'r album ydy Stainless Steel, ac i ryw raddau mae'n 'concept album' achos mae'n rhoi hanes bywyd John DeLorean, y boi nath ddyfeisio'r car oedd i'w weld yn y ffilmiau Back To The Future. Ta waeth, mae pobl fel Zane Lowe a Huw Stephens wedi bod yn chwara ambell drac yn barod - er enghraifft y sengl gynta "Raquel", a'r sengl "I Lust U" fydd allan mis Mawrth (hefo Cate Le Bon yn canu llais cefndir, gyda'r llaw).
Wel, heno a nos fory, bydd cyfle i glywed mwy o dracia oddi ar yr album am y tro cyntaf ar unrhyw orsaf radio yn y byd… a mae nhw'n wych.
Ma Ionawr yn fis digon anodd o ran prynu dillad. A dwi'n gweld gwario arian ar ddillad Y peth hawsa yn y byd - felly ma hwna yn ddweud mawr. Ond ym mis Ionawr - ma gymaint o sbwriel yn y siope achos y sêls. A fi'n un o'r bobol yna sy'n meddwl bo prynu boob tube gwyrdd gyda streips aur yn syniad da achos mae'n "fargen" a wedyn ma fe'n ymuno gyda gweddill y "bargenion" yng ngwaelod fy wardrob. A dyna lle ma fe'n aros.
Felly i arbed fy hun rhag prynu boob-tube arall, nes i wahodd y steilydd a'r cynllunydd dillad Betsan Rees mewn i'r stwidio atai nos Lun i weud wrthai be sy'n mynd i fod yn ffasiynol y tymor hwn…
Felly - dyma oedd tips fasiwn gwanwyn 2008 ym marn y steilydd Betsan Rees;
TIP GORE BESTAN
Trowsus neu jins coes llydan
Yn ol Betsan, dyma siâp y tymor. Ma nhw'n edrych yn dda dim ots be yw siap eich corff, sy'n newyddion da i bawb nad oedd yn gallu ffitio mewn i sgini jins! (h.y - fi!)
Dyma be arall ddyliwch chi gael yn eich cwpwrdd dillad;
* Bows a Ffrils
* Streips
* Siacedi dynol
* Broderie Anglais
* Ffrogie gyda phatrymau blodeuog
* Monochrome (du a gwyn)
* Lliw mwstard
* Ffrogie byr gyda choler Peter Pan
* Ffrogie hir bo-ho chic
Reit - fi off i'r dre i brynu Jins coes llydan a chrys lliw mwstard gyda bow arno! Watcha dy hun Kate Moss - ma Magi Dodd yn llygadu dy goron fel eicon ffasiwn 2008!
Nath dydd Mawrth ddim cychwyn yn dda iawn. Ar ol dim ond pedair awr o gwsg nes i gychwyn ar y daith o Gaerdydd i Sir Benfro i gyfweld â Cerys Matthews. Mi o'n ni'n gwisgo crys pinc oedd i fod yn wyn, ond mi oedd rhywbeth ofnadwy wedi digwydd i'r crys yn y peiriant golchi.
Mi oedd y tywydd yn ofnadwy ar hyd yr M4, ond wrth i mi gyrraedd Caerfyrddin, mi gododd y cymylau a mi ddaeth yr haul allan, a mi oeddwn i'n gwybod y byddai'n braf yn Sir Benfro.
Mi oeddwn i wedi trefnu cyfarod â Cerys yn nhafarn y Sloop, Porthgain, ac am 'change' mi oeddwn i ddeg munud yn fuan yn cyrraedd. Pan wnaeth Cerys gerdded i fewn i'r dafarn mi oedd hi'n edrych yn 'fab' yn ei du, gyda boots uchel du a menyg lledr du.
Mi oedd Cerys yn gyfelligar iawn, mi oedd hi'n agored iawn yn ystod y cyfweliad yn annwyl, a doniol. Am hanner awr mi oedd y ddau ohonom yn sgwrsio am bob dim o Elvis Presley, i beth ddigwyddodd yn y ''jungle' i'w pherthynas hi efo Marc Bannaman i'w cherddoriaeth hi.
Yn groes i'r adroddiad a ymddangosodd yn y Daily Star y diwrnod wedyn, mi oedd Cerys (a fi) yn yfed te drwy gydol y cyfweliad.
Wedi'r cyfweliad mi aethon ni allan i gymeryd cwpwl o luniau o'r ddau ohono ni efo'n gilydd. Mi oedd rhaid i mi adael yn syth wedyn i fynd yn ôl i Gaerdydd, gan adael Cerys yn cael tynnu mwy o luniau. Mi oedd hi'n swnio fel ei bod hi mewn lle hapus yn ei bywyd, a mae h'n gyffrous iawn am ei thaith a'r caneuon Cymraeg ma' hi'n wrthi'n ei sgwennu ar hyn o bryd.
Bydd cyfle i glywed y cyfweliad ar C2 nos Iau Ionawr 31 rhwng 11 a 1 o'r gloch y bore.
Dwi off i'r gogledd bore fory ar gyfer cymeryd rhan ar Uned 5 gyda fy hen ffrindiau Dylan Ebenezer a Daniel Glyn. Gewch chi glywed sut aeth hi wythnos nesaf!
Cysgwch yn dawel, a nos da!
X
Ma hi'n 11.25am a dwi newydd ddeffro Ryan Kift. "Nes i mond i gysgu dwyawr yn ôl" medda fo. Roc a rol…
Ffonio fo oeddwn i i gadarnhau i fod o'n dod i mewn heno i raglen Lisa i wneud sesiwn acwstic cynta'r flwyddyn. Dyma'r trefniadau - mi fydd Emyr y dyn sain yn cyrraedd tua 6pm i baratoi'r stiwdio, yna 8pm soundcheck hefo fo a Sian - just dau lais a guitar felly fe ddylai fod yn eitha hawdd. Bydd Lisa wedi cyrraedd ers ryw awr bellach, ac fe awn ni dros drefn y rhaglen hefo Ryan - ond o'i nabod o, wnaiff y trefniadau ddim para'n hir unwaith y bydda ni ar awyr.
Da ni weithia'n recordio'r sesiyna acwstic ymlaen llaw - rhai chydi yn fwy cymhleth yn dechnegol, fel Sibrydion, neu sesiwn ola KAFC oedd angen ei recordio cyn iddyn nhw fynd ar y daith ola - ond fe fydd hon yn gwbl fyw! Felly dyna ni, cofiwch am y sesiwn - heno am 10pm
DIWEDDARIAD: Mae fideo o Ryan Kift yn y stiwdio yn canu "Glaw" ar wefan C2 nawr!
Blwyddyn newydd dda i chi, ac i bawb sydd yn y ty, dyna yw'n dymuniad ni - blwyddyn newydd dda i chi.
Gobeithio gaethoch chi amser neis. Ar raglen nos Fawrth roedd Lynsey Anne, Ian Cottrell, Dyl Mei a Hefin Jones o Dy Newydd Sarn mlaen yn deud pwy ma nhw'n meddwl sy werth grando ar yn '08. Roedd enwau fel Rufus Mufassa, Hogyn Da, Stilletoes a lot mwy yn codi - gwrandewch eto os naethoch chi golli'r rhaglen. Yn bersonol, fi'n gobeithio neith Threatmantics fynd mlaen a pharhau i fod yn wych, a edrych mlaen i glywed albym newydd Euros Childs. Postiwch yn y sylwadau isod i ddweud pwy chi'n meddwl fydd yn fawr yn '08!
Ges i amser neis yng Nghaerdydd dros dolig a wedyn Glasgow dros nos Galan. Lle da! Edrych mlaen i raglenni C2 y dyfodol - allwch chi ddisgwyl sesiwn gan y hip-hopiwr Dybl L yn fuan iawn iawn.
H