Archifau Chwefror 2008

Aber Aber

Categorïau:

Magi Dodd Magi Dodd | 14:33, Dydd Llun, 25 Chwefror 2008

Sylwadau (0)

Chelo peeps,



Wedi bod yn brysur iawn dros yr wythnose' dwetha' yn teithio dros Gymru gyda Glyn Wise i gynnal gweithdai radio gyda myfyrwyr a disgyblion ysgol.

Fi a Glyn wrth ein boddau yn cynnal y sesiynau gan bod hi'n gyfle gwych i gwrdd â chi - wrandawyr C2. Ma pawb sy'n cymryd rhan yn y gweithdai yn cael cyfle i gynhyrchu rhaglen radio drwy neud ein jobsys ni am y diwrnod! Ma rhai yn cyflwyno, rhai yn cynhyrchu, rhai yn dechnegwyr sain - ond ma' gan bob un rôl bwysig - yn union fel yn ein rhaglenni ni ar C2. Ma cynhyrchu rhaglen radio yn hollol ddibynnol ar waith tîm.

Be sy'n taro fi a Glyn pan 'y ni yn cynnal gweithdai radio yw'r cyfoeth o dalent sy yng Nghymru heddi'. Fwy nag unwaith, dwi a Glyn 'di bod yn crynu yn ein sgidie ar ôl gweld rhai o gyflwynwyr gwych yn yr ysgolion a'r prifysgolion - a ma Sian, Huw a Gwynfor - hefyd wedi bod yn poeni am ei swyddi o weld faint o gynhyrchwyr a thechnegwyr gwych sy mas 'na!

Gweithdy ym Mhrifysgol Aberystwyth oedd hi ddydd Mercher a ges i ddiwrnod gwych. Nes i fy ngradd yn Aber, felly roedd cael cyfle i fynd nol ir Coleg Ger y Lli yn brilliant. Nes i fynd â Glyn i Neuadd Pantycelyn i ddangos i fe lle nes i dreulio 3 blynedd mwya gwyllt, gwallgo - a gore fy mywyd!

A son am gwyllt a gwallgo - criw o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd nath gymryd rhan yn Glyn yn Galw nos Iau ar C2. Nath Gwilym Parry a chriw o fyfyrwyr yr ail flwyddyn lwyddo yn y 3 her - gan gynnwys dod a Pizza mewn ir stwidio. Roedden ni wedi gofyn iddyn nhw sgwennu Glyn ar y pizza, ond yn anffodus nath y boi Pizza ddrysu - a nath e sgwennu Pete arno fe!

Sa i'n credu bo lot o ots 'da Glyn serch hynny, nath e a fi sglaffio fe i gyd!

Yum.. diet yn (ail) ddechre fory!

M xx

Gigs, gigs, a sesiwn!

Categorïau:

Huw Stephens Huw Stephens | 12:52, Dydd Iau, 14 Chwefror 2008

Sylwadau (0)

Helo helo.

Wedi gweld lot o gigs da yn ddiweddar. Ath gig Mr Huw yn Llunden yn dda nos Fawrth. Fi'n rhedeg noson yne unweth y mis, mewn lle o'r enw Social yng nghanol y ddinas. Roedd e yn dda iawn, y tiwns yn swnio mor fudr a gwych ag erioed. Da gweld ymateb gwych i'r gig gan gynulleidfa Saesneg. Es i i weld Threatmantics wthnos yma hefyd; band arbennig iawn a swn anhebyg i bawb arall o gwmpasm peth prin dyddie yma yn sicr, a mae'r band ar daith gyda'r grwp Clinic yn y dyfodol agos.

Fyddai yn Aberystwyth nos Wener yma (Chwefor 15) yng ngwyl Ffilmiau Ffresh. Fi a Huw Evans yn djo, ma Evils yn chware set, a dylse fod yn lot o hwyl a sbri.

Cofiwch am sesiwn newydd Texas Radio Band ar C2 nos Lun sy'n dod!

Adios....

C'mon Cymru

Categorïau:

Criw C2 | 14:48, Dydd Mercher, 6 Chwefror 2008

Sylwadau (0)

Mae rhanfwyaf o griw C2 yn edrych ymlaen i penwythnos arall o rygbi penwythnos yma. Mi ydan ni yma yn swyddfa C2 yn credu'n gryf fod gan fuddigoliaeth Cymru dros y penwythnos rhywbeth i'w wneud a ymgyrch Grand Slam Glyn Wise.

Nos Iau yma ar C2 ar raglen Magi a Glyn mi fydd ganddyn nhw gyhoeddiad pwysig i'w wneud. Cyhoeddiad sy'n ymwneud a ymgrych Glyn. Mi fyddwn ni'n datgelu be fydd Glyn yn ei wneud i roi hwb i dim Cymru cyn y gem fawr yn erbyn yr Alban ddydd Sadwrn.

Am fwy o fanylion am ymgyrch fawr Grand Slam Glyn Wise cliciwch yma!

Chwaraeon sydd hefyd yn cael sylw Daf Du a Dylan Ebenezer bob nos Fawrth ar C2 rhwng 11 a 1 o'r gloch y bore. Peldroed sydd fel arfer yn mynd a bryd y ddau ohonyn nhw, ond wythnos diwethaf mi wnaeth Dylan gyfansoddi cân arbennig iawn i'r tim cenedlaethol. Mi ysgrifennodd Dyl ei feriswn unigryw ei hun o'r anthem genedlaetholl!

Aeth Côr Dydd ati i recordio fersiwn newydd o'r anthem -

Gwranda arni yma

Pob lwc i Gymru dros y penwythnos