Helo bobol,
Dyma e-gofnod Mr a Mrs Dodd-Wise - y gwr a gwraig radio a.k.a Glyn a Magi. Ryn ni wedi penderfynu sgwennu e-gofnod a y cyd heddiw. Ryn ni wrthi'n paratoi ar gyfer ein rhaglen nos Iau. Ma Mirain Davies yn dod mewn i adolygu'r ffilm Meet The Spartans. Ma Magi yn meddwl fydd y ffilm yn rybish, ond Glyn ar y llaw arall yn meddwl fydd hi'n dda... sgwn i be fydd barn Mirian?
Dyn ni ddim wedi gweld Meet The Spartans, ond ma Glyn newydd weld y ffilm 10,000 BC. Odd e'n reit dda. 6/10
Ma Magi newydd fod yn gweld The Orphanage. Odd e bach o sioc gweld mai ffilm Sbaeneg gyda is-deitlau Saesneg oedd hi, ond ar ol dod yn gyfarwydd â hynny, roedd hi'n ffilm dda iawn. Spooky - ond hefyd gneud ichi feddwl. Chydig bach fel Sixth Sense a The Outsiders. 7.5/10
Ryn ni newydd fod yn recordio'r rhaglen gwis 100% gyda Huw Llywelyn Davies, Gareth Charles a Dylan Ebenezer. Roedd y ddau ohono ni yn poeni ar y dechre achos dyn ni ddim yn gwbod bradd dim am chwaraeon - ond roedd e'n fab! Gethon ni gymaint o hwyl. Nath Ebzie a Charlo helpu ni - ond ware teg i'r ddau ohono ni - netho ni lwyddo ateb oleia 1 cwestiwn yr un!
Pwy nath ennill? Wel - newn ni ddim sbwylio pethe i chi - fydd rhaid i chi wrando nos Wener am 6 or gloch ar BBC Radio Cymru.
Tra xxxx
Henffych. Mae'r glaw yma yn drwm yn dydi? Gobeithio bo chi'n cadw mor gynnes a sych ag sy'n bosib. Wthnos dwytha ro'n i'n westai ar Uned 5 - dwi'm yn meddwl bod nhw'n deud ' ty ni, ty chi, Uned 5' bellach, a dydi'r rhaglen ddim yn mynd allan am 5 o'r gloch, ond mae'n dal i fod yn un o'r pethe gore ar y teli box.
Fi wedi bod i lwyth o gigs da yn ddiweddar; MGMT, Yeasayer a Band of Horses yn dri band gwych o America bell ymysg y gigs fi di bod i.
Dyna lle fi'n mynd wthnos yma ar gyfer South by South West, gwyl a cynhadledd flynyddol anferth yn Austin, Texas. Miloedd o fandiau, miloedd o bobl, ag eleni mae Neon Neon (Gruff SFA a Cate le Bon allan yne), Los Campesinos! a ryw ferch o'r enw Duffy yn gobeithio gneud hi (gyda enw felly? As if!). Fydd gen i ddwy raglen arbennig wedi ei recordio yn SXSW ar C2 ymhen pythefnos.
Cofiwch wrando ar sesiwn Yr Ods heno ar C2!
Hwyl!h
Heno ar C2 ma na raglen arbennig - gig Cerys Matthews, wedi ei recordio ym Mhafiliwn Sioe Môn nos Sadwrn dwytha. Mi fydda i'n hynod falch o'i chlywed hi'n mynd allan, achos da ni wedi bod yn gweithio ar y rhaglen ers mis Medi dwetha, ymhell cyn i Cerys fynd i'r jungle.
Y man cychwyn oedd ebostio Cerys a'i asiant i weld a fydda ganddi ddiddordeb mewn cael Radio Cymru i recordio un o'r gigs ar ei thaith oedd, ar y pryd, i fod i ddigwydd mis Hydref. Fe gawsom ni ateb digon cadarnhaol - "gret, ond dim rwan. Rywbryd flwyddyn nesa efallai?" Ar y pryd, doedd neb ohona ni'n gwybod am y jungle, felly doedda ni ddim yn gwybod pam cynnig y flwyddyn nesa - ond fe ddaeth hynny'n glir yn fuan!
Ddechrau'r flwyddyn wedyn, fe gysylltodd Rhys Mwyn ar ran Cyngor Sir Fôn yn cynnig i ni recordio'r noson Dydd Gŵyl Dewi - ac ar ôl ychydig o waith perswadio, fe gytunodd Cerys. Un o'r amodau oedd fod Charlie Francis yn cymysgu'r set i ni. Mae CV Charlie yn anhygoel - yn cynnwys cymysgu R.E.M yn Glastonbury a Live 8 - ac mi oedd hi'n bleser gweithio hefo fo. (Gewch chi glywed y "mix" heno!)
Trefn y diwrnod? Cyrraedd am 12pm hefo Charlie, Ems a Deian (criw sain Radio Cymru) gyda'r prawf sain am 2pm. 5pm - recordio cyfweliad Lisa Gwilym hefo Cerys, yna Lisa'n cyflwyno Jeb Loy Nichols ar y llwyfan am 8pm, Bryn Fon am 9pm a Cerys am 10pm. Set wych, yna nôl i Fangor am 10.30am i ail-gymysgu'r set tan 5pm. Pnawn ma mi fydda i'n dewis pa ganeuon i''w chwara, ac ychwanegu cyfweliad Lisa rywle yn y canol, a dyna ni.
Lluniau a chlip o'r cyfweliad ar gael yn fa'ma a chofiwch wrando heno am 10!