Heb flogio yma ers meityn. Meityn! Gair da. Yn ddiweddar ma seshyne newydd sbon wedi bod ar fy rhaglen:
- The Gentle Good. Mae ei albym newydd ar label Gwymon yn swnio'n arbennig o'r copi cynnar sydd gennai.
- Di Pravinho. Neis siarad gyda nhw, a chlywed y seshwn newydd sbon - fyddai'n chwarae hwn ar y sioe nos Lun.
Ar raglen nos Fawrth nesa fyddai'n siarad gyda Threatmantics a Georgia Ruth Williams sydd drwodd i'r llwyfan Introducing yn Glastonbury, gyda lot o fandiau erill yn chware hefyd, yn cynnwys Picture Books in Winter, ffefrynnau Bethan Elfyn ar Radio 1 yng Nghymru.
Fi di bod yn teithio dipyn yn ddiweddar. Ro'n i yn Kent i Benwythnos Mawr Radio 1, yn Brighton ar gyfer gŵyl Great Escape, ac yn ddiweddar es i i DJo yn York. Lot o hwyl, lot o gerddoriaeth.
Fi di bod yn mwynhau rhaglenni Rhys Mwyn yn ddiweddar fan hyn ar C2. Os chi'n ffan a heb ddarllen ei hunangofiant, mae werth gwneud.
Sws mawr,
Huw
YPDET: mae sesiwn Di Pravinho ar wefan C2 nawr!

Helo bawb
Da ni gam (bach) yn agosach at y foment fawr - gweld albym y Genod Droog yn y siopa. Bore ma fe gafodd Lisa restr y traciau fydd ar yr albym:
- Gwn tatws
- Bomiwch y byd
- Candy Jones
- Genod Droog Theme
- Dal ni lawr
- Creu copa newydd
- Creu terfysg
- Breuddwyd oer
- Llong pleser
- Y gig mawr yn yr awyr
- Cân y brân
A heno, mi fydd gan Lisa newyddion exclusive a diddorol iawn am gynlluniau'r grŵp am y dyfodol.
Hwyl, Gar

Henffych
Wrthi'n paratoi rhaglen Lisa at heno - rhaglen hir heno, gan fod yr Urdd ymlaen tan 8.30pm, a Magi awydd noson o wylia. Felly, dyma sut ma Lis am lenwi 2 awr a hanner rhwng 8.30pm a 11pm:
- Tracia newydd gan Pop Levi, Frizbee, Sigur Ros, Goldfrapp a Brigyn (ma cân Pop Levi yn anhygoel o dda)
- Trac exclusive gan Y Llongau - un o brojectau Dyl Mei sydd yn ei eiriau fo yn "ruff as **** ond dwi'n licio fo felna"
- Mi fyddai'n cyhoeddi pa artistiaid fydd yn cynrychioli Cymru ar lwyfan BBC Yn Cyflwyno... yn Glastonbury eleni (dwi'n andros o hapus hefo un o ddewisiadau'r panel - cliw bach i chi: ma hi wedi gwneud sesiwn i Lisa eleni...)
- Sesiwn gan grwp ifanc newydd o Gaernarfon - Y Bandana
- .. a ryw 25 o ganeuon eraill fydd Lisa wedi eu dewis
Mi neith yr amser hedfan...
Hwyl, Gar
Helo bawb
I'r rhai ohonoch nath glywed a mwynhau Gwilym Morus ar raglen Lisa nos Iau yn dewis awr o gerddoriaeth, dyma fanylion ei ddewisiadau!
- Lokonon André & Les Volcans - 'Mi Kple Dogbekpo', African Scream Contest (Analogue Africa Records, 2008)
- Dalmeida Bluky Accompagne By Black Santiago - 'Entente Africa' (L.A. Aux Ecoutes)
- Los Electricos - 'Mi Gran Noche', (Discos Fuentes)
- Mulatu Astatke - 'Yékatit' (Buda Musique)
- The Funkees - 'Akula Owu Onyeara', Nigeria Special (Soundway Records)
- Orchestre Poly-Rythmo De Cotonou Dahomey - 'I'm Sorry, So Sorry' (Albarika Store)
- Julian y su Combo - 'Cangrejo Alacho' (IFV)
- Fela Kuti & Africa '70 - 'Na Poi '75' (Decca, 1976)
- Wallias Band - 'Muziqawi Silt', Ethiopian Urban Modern Music vol.1 (Buda Musique)
- Osacr Sulley & The Uhuru Dance Band - 'Bukom Mashie', Ghana Soundz (Soundway Records)
Allwch chi glywed y rhaglen yn fan hyn.
Mae hi'n ryw dair awr a chwarter o siwrne i Aberteifi o Fangor... digon o amser i wrando ar lot o gerddoriaeth ddiddorol. Roeddwn i, Rhys Mwyn, ac Irfon Jones y bos, yn mynd i Aberteifi i recordio hefo Dave R Edwards, Malcolm Neon/Gwyon a chriw Ail Symudiad ar gyfer rhaglen nesa Rhys Mwyn sy'n mynd allan nos fory yma am 10pm.
Felly, beth oedd ar y stereo? Wel, i ddechrau, fe ddewisodd Irfon CD "Theme Time Hour With Your Host Bob Dylan" - sef (yn amlwg) CD o ddewisiadau cerddorol Bob Dylan o'i raglen radio wych. Ma hwn yn gasgliad arbennig o dda - ac mae na Gymro arno fo - Geraint Watkins.
Dewis Rhys Mwyn oedd "Country Got Soul" - CD aml-gyfrannog sydd wedi cael ei roi at ei gilydd gan gyfaill i Rhys sef Jeb Loy Nichols. Ma rhai o'r lleisiau ar y casgliad yma yn anhygoel - prynwch o os gewch chi gyfle.
A'm dewis i? CD o raglen Lisa bnawn Sadwrn hefo dyddiadur Lleuwen Steffan o Mecsico. Sad ond gwir.
Hwyl, Gar
Ryw dri mis yn ôl ges i neges text gan Lleuwen Steffan yn deud "Dwi di cael cynnig 3 gig ym Mecsico mis Ebrill. Ti ffansi dod hefo ni i recordio?!".
Yr ateb onest oedd y byddwn i wrth fy modd dod, ond y byddai wedi bod yn eitha anodd perswadio'r bos y byddai tair wythnos ym Mecsico hefo Lleuwen yn waith go iawn. OND mi oeddwn i wir am gael rywfaint o hanes y gigs - wedi'r cyfan, pa mor aml mae artistiaid o Gymru yn gwneud gigs ym Mecsico? Felly dyma feddwl am ryw fath o syniad - menthyg peiriant recordio i Lleuwen i fynd hefo hi, ac iddi recordio ryw fath o ddyddiadur o'r gwyliau/gigs. Fe gewch chi glywed y dyddiadur ar raglen Lisa nos Wener yma am 10pm.
Dwi hefyd wedi treulio lot o amser ym Methesda yn ddiweddar yn recordio rhaglen Rhys Mwyn sy'n mynd allan heno am 10pm. Da ni wedi bod yn stiwdio Bryn Derwen hefo Dave Wrench, yn nhŷ Lisa Jên Brown yn Gerlan, ac yn nhŷ Hefin Huws sy ar stryd fawr Pesda. Lot o hwyl, lot o chwerthin, ond hefyd lot o hanes difyr ar yr ardal. Cofiwch wrando ar Bethesda heno hefo Mr Mwyn, a Mecsico nos fory ar raglen Lis. Hwyl, Gareth
Helo bawb, a sori bod fi heb blogio ers hydoedd.
Ma album Datblygu - The Peel Sessions allan heddiw ar label ansktmusic. Nos Wener Ebrill 25 mi oedd 'na noson lansio'r CD yn y Drwm yn Aberystwyth, a'r noson cyn mynd, mi oedd Emyr Glyn Williams o Anskt hefo fi'n son am y CD, ac mi fedrwch chi glywed y sgwrs ges i hefo fo yn fama.
Ond nôl at y noson, ac mi oedd hi'n noson wych - a noson wna i fyth ei anghofio achos ges i gyfarfod hefo David R Edwards a Pat Morgan o'r grwp. Noson o ffilmie oedd hi - natho nhw ddangos ffilm Marc Evans - ABC Datblygu - sy' jyst yn hollol anhygoel ac wedyn chwech o ganeuon y grŵp - yn fideos neu berfformiade byw, ac eto roedd rheini'n anhygoel. Wedyn natho ni wylio ffilm fer newydd ma Pete Telfer wedi ei wneud yn dilyn hanes Dave a Pat yn mynd nôl i'r stiwdio i recordio'r sengl newydd Cân y Mynach Modern, a chi'n gwybod be? Eto, hollol wych achos mae'r gân ma just mor deimladwy, a fel se chi'n disgwyl gan Dave, mae'r geirie mor onest a mor ddidwyll. I ddeud y gwir mi oedd hi'n noson eitha emosiynol; nath o jyst cadarnhau pam fod Datblygu'n grwp mor arbennig.
Mae'r albym allan heddiw, a nos fory am 10pm bydd Huw S yn siarad hefo Dave ar C2, ac hefyd mi fydd na uchafbwyntie gen i am 8.25pm ar Sioe Gelf ar S4C, eto nos fory.
Hwyl am y tro, Lis
Ma hi i weld yn wythnos Blaenau Ffestiniog yma ar C2!
Nos Fercher dwetha, roedd Rhys Mwyn yno mewn rhaglen arbennig yn edrych ar fandiau'r dref.
Ddoe fe ddaeth newyddion gwych gan Frizbee - maen nhw newydd orffen recordio'r albym, a'r peth cyntaf wnaeth Ywain Gwynedd a'r hogia oedd gyrru copi o'r caneuon i Lisa Gwilym. Bydd cyfle i glywed dwy gân heno am 10pm. Mae'r album yn ddi-enw ar hyn o bryd, ond mae Frizbee yn gobeithio ei ryddhau cyn diwedd y mis.
A mwy fyth o newyddion o Blaenau... fe fydd Gŵyl Car Gwyllt yn digwydd ar Fehefin 21 o gwmpas tafarndai'r dref. Yn perfformio - Cowbois Celtaidd, Meic Stevens, Gai Toms, Y Rei, Dybl-L, Gwibdaith Hen Frân a Cowbois Rhos Botwnog. Fel y llynedd, bydd y cwbl am ddim!