Archifau Gorffennaf 2008

Beth i'w wneud wythnos y Steddfod...

Categorïau:

Huw Stephens Huw Stephens | 18:50, Dydd Mercher, 30 Gorffennaf 2008

Sylwadau (1)

Os chi ddim yn gyfarwydd gyda Caerdydd ac yn chwilio am bethe i neud rownd y ddinas yn ystod y Steddfod, pan chi ddim yn cystadlu mewn unawd drama gerdd neu yn mosho yn gigs Maes B a'r Gymdeithas, ga i awgrymu:

1. Mynd i siop Spillers yn yr Ais. Y siop records hynaf yn y byd, a'r lle gore i brynu cerddoriaeth, yn cynnwys lot o cd's Cymraeg, yng Nghaerdydd. Mae chwiorydd Todd yn siarad Cymaeg hefyd os chishe deud helo.

2. Mynd i Dempseys. Mae'r dafarn gyferbyn â'r castell ar yr un stryd â Clwb Ifor bach lle mae gigs y Gymdeithas eleni. Mae'r awyrgylch yn un da ac yn gartre yn y nos i lot o gerddorion y ddinas.

3. Mynd i Marcellos. Yn Arcêd y Castell, gyferbyn â'r castell. Bwyd Eidaleg anhygoel.

4. Mynd i Farchnad Caerdydd. Lle anhygoel gyda lot o fwyd rhad a da, a siop recordiau ail law Kelly's lan lofft. O, a lot o anifeiliaid mewn caetsys lan lofft hefyd. Ewch mewn drwy fynedfa Heol y Santes Fair neu'r Ais.

5. Marchnad Jacobs. Dim bwyd fan hyn, ddim yn bell o'r orsaf drenau. Lot fawr o bethau ail-law, o ddillad i lamps i records a llyfre comics.

Beth sy'n gwneud Eisteddfod dda?

Categorïau:

Criw C2 Criw C2 | 18:45, Dydd Mercher, 30 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

Cwrdd a hen ffrindiau ysgol neu'r coleg? Gigs? Tywydd braf?

Gad dy sylwadau i adael i ni wybod.

Fideos a setiau byw - mwy o'r Sesiwn Fawr!

Criw C2 | 18:22, Dydd Llun, 21 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

'Da ni'n dechrau dod at ein hunain ar ôl penwythnos o fwynhau yn Nolgellau - os nag oeddech chi'n gallu bod yna (neu eisiau ail-fyw'r profiad!) mae na fwy o ddanteithion ar wefan C2 nawr...

Nid un unig ydyn ni wedi rhoi uchafbwyntiau o berfformiadau byw rhai o brif artistiaid yr ŵyl ar y safle i chi fwynhau - gan gynnwys set gyfan Endaf Emlyn - ond mae na hefyd sgyrsiau fideo o gefn llwyfan gyda Mei Gwynedd o'r Sibrydion, Huw Chiswell, Bryn Fôn, Gwibdaith Hen Frân, Derwyddon Dr Gonzo a Gai Toms.

Welwn ni chi yn Sesiwn Fawr blwyddyn nesa!

Adre o'r Sesiwn Fawr

Criw C2 | 18:01, Dydd Sul, 20 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

Mae'r gwaith clirio bron ar ben yn Nolgellau ar ôl Sesiwn Fawr llawn hwyl a cherddoriaeth wych - a'r pennau'n dechrau clirio hefyd. Gobeithio i chi fwynhau rhaglenni Radio Cymru o'r ŵyl dros y penwythnos - os golloch chi unrhywbeth, cliciwch isod i wrando eto:

Sesiwn Fawr - Nos Wener yn cynnwys Bryn Fôn, Natasha Atlas, Sibrydion a Huw Chiswell

Sesiwn Fawr - Pnawn Sadwrn yn cynnwys Sibrydion, Man, Bryn Fôn, Lowri Evans, Glerddorfa, Cole Porters, Steve Eaves, a Cowbois Rhos Botwnnog

Sesiwn Fawr - Nos Sadwrn yn cynnwys Lisa Mills, Derwyddon Dr Gonzo, Nfaly Kouyate, Gwibdaith Hen Frân, Celt, Endaf Emlyn, a'r Saw Doctors

Sesiwn Fawr Acwstig - uchafbwyntiau o'r Theatr Acwstig yn y dref



Barn Richard Rees ar Sesiwn Fawr Dolgellau

Richard Rees | 23:12, Dydd Sadwrn, 19 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

Hir yw pob aros ond roedd hi werth aros pob munud i glywed Endaf Emlyn yn Sesiwn Fawr Dolgellau. Er ei fod e heb berfformio ers ugain mlynedd a mwy, roedd y caneuon a'r cerddorion yn gwneud i'r set swnio mor ffres ag erioed, gyda'r dechnoleg diweddara yn ychwanegu rhyw gryfder newydd i nifer o'r caneuon.

Ond roedd Endaf yn serennu ymhlith nifer o artistiad eraill ar lwyfannau'r ŵyl. Wnaeth Derwyddon Dr Gonzo argraff mawr gyda set bywiog a lliwgar - er dwi ddim yn swir os oedd y ddwy ferch oedd gyda nhw yn canu ai peidio! Un arall o uchafbwyntiau'r ŵyl i fi oedd y Sibrydion - rwy'n dipyn o ffan beth bynnag, ond mae'r grwp yma'n mynd o nerth i nerth. Perfformiad bywiog iawn hefyd gan Celt, gyda'r dorf yn ymateb yn wych.

Un person do'n i ddim yn gydarwydd â hi cyn i mi ddod i Ddolgellau - ond mi fyddai'n saff o chwilio am ei CDs hi ar ôl cyrraedd adre - oedd Lisa Mills, cantores o Mississippi. Ges i'r pleser o'i chyflwyno ar y llwyfan - roedd hi'n ferch hyfryd iawn, gyda llais anhygoel a chaneuon cofaiadwy dros ben. I orffen y noson wrth gwrs roedd set y Saw Doctors yn wych, yn enwedig o ystyried eu bod nhw wedi teithio i Ddolgellau o Stornoway yn yr Alban dros nos!

Dwi di cael amser wrth fy modd yn Sesiwn Fawr Dolgellau 2008... a 2009? Ie - bydda'i nôl!

Gwelais feddygon

Criw C2 | 22:35, Dydd Sadwrn, 19 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

Mae'r Saw Doctors newydd ddechrau ar farathon o set byw (mae'n debygol o bara dros awr a hanner yn ôl y sôn!) i ddod â Sesiwn Fawr 2008 i ben - ac maen nhw wedi cael croeso swnllyd a chynnes gan dorf fawr a llawen ar y Marian yn Nolgellau.

Bydd Radio Cymru yn ymuno â nhw'n fyw ymhen ychydig, hyd at ddiwedd eu set am ganol nos.

Ond cofiwch hefyd am ein rhaglen arbennig prynhawn fory - uchafbwyntiau'r dydd o'r Theatr Acwstig yn y dref, o 2 - 4.20pm. A dewch yn ôl at wefan C2 ddydd Llun pan fyddwn ni'n ychwanegu sgyrsiau fideo cefn llwyfan, a'r setiau byw i chi fwynhau unwaith eto.

Mae wedi bod yn benwythnos cofiadwy hyd yn hyn, ac mae'n siwr fydd y partïo yn parhau am dipyn yn Nolgellau heno... ond am heno, oddi wrth Blog C2 a gweddill criw Radio Cymru sydd yma gefn llwyfan - nos da!

Hwyl gan Daf

Dafydd Du | 22:17, Dydd Sadwrn, 19 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

Mae na wastad ychydig o dristwch yn gymysg efo'r cyffro wrth i ni gyrraedd set olaf unrhyw Sesiwn Fawr, a dyna sut dwi'n teimlo ar hyn o bryd wrh i'r Saw Doctors gychwyn ar y llwyfan. Wedi i'r noson ddod i ben mi fydd na gyfle i eistedd lawr efo ffrindau a thrafod a dadlau am uchafbwyntiau 2008 - i fi'n bersonol, mi wnes i fwynhau Celt, Lisa Mills, Gwibdaith Hen Frân a Cole Porters. A dwi am fynd rwan i fwynhau'r Saw Doctors - dwi'n edrych ymlaen yn barod at 2008!

Endaf Emlyn

Criw C2 | 21:36, Dydd Sadwrn, 19 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

Y diweddara o Ddolgellau:

Set arbennig gan Endaf Emlyn heno - roedd e'n amlwg yn mwynhau bod nôl ar y llwyfan, o flaen cynulleidfa werthfawrogol - gan orffen efo'r clasur Macrell Wedi Ffrio. Bydd cyfle i chi glywed ei berfformiad ar Radio Cymru yn y man - gan gynnwys sgwrs gafodd e gyda Richard Rees cyn ei set - felly daliwch i wrando.

Celt sy'n perfformio ar hyn o bryd - ry'n ni'n brysur yn dosbarthu baneri draig goch Radio Cymru!

Ac ymhen ychydig dros awr fydd Saw Doctors yn camu i'r llwyfan i ddod â'r ŵyl i ben...

Croeso nôl i Sesiwn Fawr Dolgellau

Criw C2 | 20:01, Dydd Sadwrn, 19 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

Ry'n ni nôl ar yr awyr ar Radio Cymru, yn fyw o gefn llwyfan Sesiwn Fawr Dolgellau 2008.

I ddod heno: setiau byw gan Derwyddon, Nfaly Kouyate, Gwibdaith Hen Frân, Celt, perfformiad unigryw gan Endaf Emlyn, ac yna y Saw Doctors i gloi yn arwain fyny at ganol nos.

Cliciwch yma i wrando'n fyw

Ry'n ni hefyd wedi bod yn blogio'n fyw o Ddolgellau - darllenwch holl straeon neithiwr a heddiw.

Gwibdaith Hen Frân

Criw C2 | 19:54, Dydd Sadwrn, 19 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

Mae Gwibdaith Hen Frân yn perfformio ar hyn o bryd yma yn Sesiwn Fawr Dolgellau - mewn siwtiau gwyn slic. Mae'r gynulleidfa ifanc wrth eu boddau efo'r caneuon newydd oddi ar yr albym nesa, ac wrth gwrs hefyd yn dawnsio'n wirion i'r ffefrynnau fel Trôns Dy Dad. Cyfle i glywed uchafbwyntiau'r set nes mlaen ar Radio Cymru!

Sesiwn fel yr hen ddyddie

Gareth Iwan | 19:12, Dydd Sadwrn, 19 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

O'r diwedd, ma'r Sesiwn Fawr yn teimlo fel y Sesiwn dwi di fwynhau gymaint dros y blynyddoedd. Roedd llynedd yn gret, ond i fod yn onest fe amharodd y tywydd rywfaint ar yr hwyl, ac er fod na uchafbwyntia ddoe (Sibrydion yn hollol anhygol) dim ond pnawn ma dwi di dechra mwynhau fel yn 'yr hen ddyddie'.

Mi ddechreuodd yr haul ddod allan hefo'r Cowbois, a nes i wir fwynhau set nhw - Euron Jones ar y pedal steel a Gwyneth Glyn ar y gitar drydan a llais cefndir yn ychwanegu cymaint. Lot mwy o sŵn 'country' i'r set eleni na llynedd, ond gwych.

Wedyn fe ddaeth y Derwyddon, ac mi oedd y set yna yn un o fy hoff setia Sesiwn Fawr ERIOED. Ges i gymaint o hwyl, mi oedda nhw'n wych yn gerddorol, ond yn bwysicach byth, hefo'r haul ar y Marian, mi oedd na wên anferth ar wynebau pawb. Diolch byth amdanyn nhw.

Reit, da ni nol ar yr awyr am 8pm, hefo Derwyddon (wrth gwrs) yn exclusive i Radio Cymru, Endaf Emlyn, Celt a'r Saw Doctors. Gyda'r llaw, os da chi wedi bod yn gwrando ar y radio, neu ar y we, gadewch i ni wybod be da chi'n feddwl o'r rhaglenni a'r gerddoriaeth.

Derwyddon Dwlali

Criw C2 | 17:39, Dydd Sadwrn, 19 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

Newydd ddod nôl o wylio set hollol boncyrs gan y ffyncwyr Derwyddon Dr Gonzo. Pob aelod o'r band (ac mae na lot ohonyn nhw!) wedi gwisgo fyny'n wirion, yn dawnsio rownd y lle ac yn cael gymaint o barti ar y llwyfan ag oedd y dorf o'u blaenau nhw. Gwych! Ymateb briliant hefyd, gyda phawb yn sgrechian eu caneuon nôl atyn nhw!

Ac ynghanol hyn i gyd, Gwyneth Glyn yn camu o un llwyfan i'r llall ac ymuno gyda'r Derwyddon am gân hefyd! 'Da ni'n amau fydd hi'n trio sleifio i'r llwyfan gyda'r Saw Doctors nes mlaen hefyd...

Bydd cyfle i chi glywed darnau gorau o set ffantastig y Derwyddon ar Radio Cymru nes ymlaen - fyddwn ni nôl ar yr awyr heno o 8 o'r gloch ymlaen.

Yn y cyfamser, gallwch chi wrando nôl ar raglen pnawn ma o'r sesiwn!

Cowbois yn rocio

Criw C2 | 16:52, Dydd Sadwrn, 19 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

Cowbois Rhos Botwnnog newydd orffen set gwych - a phwy gamodd i'r llwyfan hefyd ond Gwyneth Glyn.

Derwyddon Dr Gonzo sy ar y brif lwyfan ar y funud - ac mae'r dorf yn mynd yn wirion!

Pwy sy yn y Sesiwn? #2

Criw C2 | 16:47, Dydd Sadwrn, 19 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)



Calvin - yma i fwynhau popeth!



Dean, Gethin a Dilwyn - yma i hybu Gŵyl Gardd Goll sydd penwythnos nesa



Carys a Siriol - "Steve Eaves sy di bod gorau hyd yn hyn"



Mari a Catrin o Dolgellau - yma i weld pawb, ond yn edrych mlaen at y Saw Doctors yn enwedig. Wedi mwynhau Steve Eaves.



Mae Guto a Sion o Gwm Tawe eisiau gweld Gwibdaith Hen Frân. Newydd fod yn gwylio Cowbois Rhos Botwnnog - "da, ond roedden nhw'n well llynedd!"



Mae'n debyg fod Mali o Fro Morgannwg yn ffan o Endaf Emlyn, ac yn hoffi Gwibdaith hefyd.



Gwenno, Eleri, Gruff ac Angharad, o Ynys Môn - ddim wedi cael lot o gwsg neithiwr oherwydd bod nhw'n aros ar y maes pebyll - "roedd e'n swnllyd iawn!". Yr uchafbwynt iddyn nhw hyd yn hyn? "Sibrydion yn bendant".



Gai Toms - yma i wneud cyfweliad efo Daf Du! (a chynnal gweithdy drymio - bydd fideo o'i sgwrs gyda Daf ar y wefan dydd Llun)



Helo Heulwen

Gareth Iwan | 15:52, Dydd Sadwrn, 19 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

Traean o'r ffordd drwy'r darlledu byw - da ni wedi gwneud tair awr allan o'r naw. Uchafbwyntiau? Cole Porters yn sicr a ma Steve Eaves ar hyn o bryd yn swnio'n wych. Bydd ei set o ar y rhaglen mewn rhyw hanner awr. Amser am goffi - neu can oer falle, oherwydd mae'r haul wedi dod allan!



Yr haul yn tywynnu ar y dorf yn gwylio Steve Eaves ar lwyfan Radio Cymru

Caban Cariad vs Cwt Cwtsho Lan

Dafydd Du | 14:41, Dydd Sadwrn, 19 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

Pnawn dydd sadwrn yn y Sesiwn Fawr a mae'r blinder wedi cyrraedd ond dwi'n siwr ga'i ail wynt cyn bo hir. Wrthi'n meddwl am enw ar gyfer ein stiwdio ni gefn llwyfan - portacabin ydi e ond tydi hynny ddim yn swnio'n cŵl iawn, felly dwi ddim yn gallu penderfynu os mai Y Caban Cariad neu'r Cwt Cwtsho Lan ddylsai'r enw fod.

Be dych chi'n feddwl? Oes na enw gwell ar gyfer stiwdio Radio Cymru gefn llwyfan yn y Sesiwn?

Cowbois

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 14:28, Dydd Sadwrn, 19 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)



Fi gyda bechgyn hyfryd Cowbois Rhos Botwnnog!

Dwi off i weithio gyda'r teli nawr, ond mwynhewch gweddill y diwrnod efo Richard a Daf. Bach yn siomedig bod ni ddim di cael sbectol oedd yn fflachio a-lá-Sibrydion i Daf Du (maen nhw wedi gwerthu allan) - ond fydde fe ddim yn edrych cystal â Mei Gwynedd ynddyn nhw beth bynnag!



Richard Rees a Daf Du yn cwrdd a'u holl ffans neithiwr! Cymrwch olwg ar yr holl flogs o neithiwr.

Pwy sy yn y Sesiwn?

Criw C2 | 13:28, Dydd Sadwrn, 19 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

Fuon ni am dro bach o amgylch y Marian i weld pwy sy di cyrraedd y Sesiwn hyd yn hyn...



Mae Hefin Jos (Tŷ Newydd Sarn) yn edrych mlaen i weld Plant Duw, Steve Eaves a Cowbois Rhos Botwnnog ar y brif lwyfan - "roedden nhw'n wych llynedd". Mae'n falch bod tipyn o bobl di troi fyny neithiwr, "roedd Sibrydion yn wych a Huw Chiswell wedi delifyro".



Mae Geraint Løvgreen yma i lansio ei CD newydd heno yn Tŷ Siamas. Ar hyn o bryd mae wrth ei fodd efo Buena Risgah Social Club - "ddylen nhw fod yn chwarae heno, mae'n gerddoriaeth diwedd nos". Mae'n edrych mlaen i weld Steve Eaves ac Endaf Emlyn.



Mae Helen Bradley o Ddolgellau yn un o'r tîm enfawr sy'n gweithio tu ôl y bar. "Ond dwi'n cael gorffen am 6 o'r gloch a wedyn dwi'n mynd i fwynhau!"



Mae Sadie a George o Kent yn Lloegr ond mae ganddyn nhw deulu yn ardal Dolgellau felly wedi dod draw i weld sut hwyl sydd yn y Sesiwn. Maen nhw'n mwynhau hyd yma!



Mae Catrin a Shauna wedi dod lawr o Fangor bore ma ac wedi codi eu pabell yn barod. Dyw'r maes gwersylla ddim yn wael iawn o ystyried y tywydd medden nhw!



Meike, Thea, Amelie ac Ifor o Aberystwyth - yn gwylio dad yn perfformio gyda Lowri Evans



Bois Brigyn a ffrindiau - Endaf Emlyn fydd uchafbwynt y diwrnod iddyn nhw.

Co ni off - Sesiwn Sadwrn

Criw C2 | 12:24, Dydd Sadwrn, 19 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

A ni ar yr awyr!

Cliciwch ar y linc ar y ochr dde i wrando'n fyw ar Radio Cymru o'r Sesiwn Fawr. I ddod yn y ddwy awr gynta - uchafbwyntiau o setiau byw gan Bryn Fôn, Sibrydion, a Man.



Lisa a Daf yn y stiwdio yn y "caban cwtsho"

Sŵn a sbort y Sesiwn

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 12:15, Dydd Sadwrn, 19 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

Wel bois bach, dwi 'di blino'n barod, a mae mond yn hanner dydd ar y pnawn dydd sadwrn!

Dwi yma yn Nolgellau ers unarddeg bore ddoe, ac er gwaetha'r blincin glaw, mae'r awyrgylch mor groesawgar a gynnes ag arfer! A dwi'n barod, ac yn edrych mlaen at y marathon o gerddoriaeth fyw sy ar fin dechre yma ar y Marian.

Sibrydion yn sicr oedd uchafbwynt neithiwr i fi - mae nhw mor mor wych yn fyw, a dwi wrth fy modd efo'i swn nhw! Oedde ne sôn bod nhw am neud cân newydd, "Go! Go! Go!", ond nes i fethu'r gân yne yn anffodus. Ma nhw di dechre recordio stwff newydd, felly gobeithio gawn ni fwy o sain spesial y Sibrydion yn fuan iawn. A jyst un pwynt bach arall gen i, pryd mae'r band anhygoel yma yn mynd i gael y cyfle i hedleinio?

Reit, gorfod mynd! Dwi ar yr awyr mewn munud efo Daf Du a Richard Rees, felly edrych mlaen i roi'r byd yn ei le efo nhw, cyn mynd i ail-ymuno efo'r criw teledu. O ran cerddoriaeth heddiw, Cowbois Rhos Botwnnog, Derwyddon Dr Gonzo ac Endaf Emlyn fydd yr uchafbwyntie i mi! Hwre! Orie o gerddoriaeth fyw gore Cymru yma yn Nolgelle. Joiwch y Sesiwn - dwi yn!!

Lis xx



Fi'n blogio o gaban moethus C2

Cysgu efo Dyl Mei

Gareth Iwan | 11:55, Dydd Sadwrn, 19 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

Be oedd uchafbwynt nos Wener i mi? Sibrydion yn wych? Dawnsio bol Natasha Atlas? Neu chael peint wedyn efo'r criw yn y Ship? 'Run o'r rhain - uchafbwynt y noson/bore oedd cael Dyl Mei (y cynhyrchydd enwog a Svengali y Genod Droog) yn cnocio ar fy nrws am 3.30 y bore yn gofyn fydde fe'n cael cysgu ar y llawr! Mae gen i waith esbonio i'r wraig pan ai adre...

Off rwan i gae cyfarfod cynhyrchu - ar yr awyr mewn 45 munud. Pawb yn dechrau deffro!



Richard Rees a fi yn cyrraedd - ac yn trafod neithiwr efo Owain Myfyr

Bore da - barod amdani

Criw C2 | 11:47, Dydd Sadwrn, 19 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

Croeso nôl i Ddolgellau! Ni wedi codi, wedi cael brecwast (rhan fwya ohonyn ni beth bynnag), a ni'n barod am ddiwrnod arall o gerddoriaeth wych yn y Sesiwn Fawr.

Ymysg uchafbwyntiau heddiw: setiau byw gan Steve Eaves, Derwyddon Dr Gonzo, Cowbois Rhos Botwnnog, Gwibdaith Hen Frân, Celt, Endaf Emlyn, a'r Saw Doctors.

Arhoswch efo ni drwy'r dydd - bydd lluniau a diweddariadau yma ar y blog - a rhaglenni byw ar Radio Cymru o 12.30-5 ac 8-12.

Neu gwell fyth - dewch draw i Ddolgellau i fod yma gyda ni!

Mae'r tywydd yn sych ar hyn o bryd, ac mae'n argoeli i fod yn barti a hanner.

Nos da o Ddolgellau

Criw C2 | 00:02, Dydd Sadwrn, 19 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

A dyna ni o'r Sesiwn am nos Wener - ond fyddwn ni nôl dydd Sadwrn o ganol dydd ymlaen gyda mwy o straeon o gefn llwyfan a lluniau ohono chi yn mwynhau'r ŵyl!

Os golloch chi rhaglenni heno, cliciwch ar y lincs eto i wrando arnyn nhw yma ar y we! Maen nhw'n cynnwys RIchard Rees a Daf Du yma ar y Marian yn cyflwyno uchafbwyntiau o setiau Man, Justin Adams, Bryn Fôn, Natasha Atlas, Sibrydion a'r dyn ei hun - Huw Chiswell.

20:00-22:00 - Magi Dodd ar C2

22:00-00:00 - Rhaglen arbennig Daf Du a Richard Rees o'r Sesiwn Fawr

Mae rhaglenni dydd Sadwrn ar Radio Cymru yn cychwyn am 12:30, gyda setiau byw yn cynnwys Steve Eaves a Cowbois Rhos Botwnnog hyd at 17:00.

Fyddwn ni wedyn nôl ar yr awyr am 20:00 hyd at ddiwedd y noson - peidiwch colli perfformiad unigryw gan Endaf Emlyn - a'r Saw Doctors fydd yn dod i'r ŵyl i ben am ganol nos.

Welwn ni chi fory!

Bw-bwgi-bw-bwgi-bw-bwgi-bw-bwgi-bw

Criw C2 | 23:58, Dydd Gwener, 18 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

Mae pawb yn mynd yn wirion yma ar hyn o bryd ar gyfer y Chizfeistr - mae Mr Huw Chiswell ar y llwyfan!



Hyd yn oed Daf a Richard wedi eu swyno!

Gair gan Daf

Dafydd Du | 23:04, Dydd Gwener, 18 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

Dwi wedi 'nghyffroi i fod nôl yn Dolgellau - wnes i golli'r Sesiwn Fawr llynedd oherwydd mod i'n priodi! Ond do'n i ddim wedi disgwyl gymaint o mwd gefn llwyfan, felly fydd rhaid i fi fynd i chwilio am bâr o welingtons bore fory rhywle yn Dolgellau.

Heno dwi rili wedi joio Sibrydion - mi oedden nhw'n anhygoel yn enwedig Blithdraphlith pan oedd y gynulleidfa i gyd yn chwarae kazoos efo Mei Gwynedd - uchafbwynt hyd yn hyd!

Ond mae Chiz ar y llywfan ar hyn o bryd wrth gwrs, felly dwi'n mynd nôl i fwynhau...

Mwy gen i fory!



Fi a Richard yn gynharach yn y noson - yn siarad gyda Magi Dodd oedd mewn stiwdio gynnes sych...

Sibrydion yn swyno

Criw C2 | 22:28, Dydd Gwener, 18 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

Set orau'r noson hyd yn hyn yn ôl Bethan Gwanas, oedd yn eu cyflwyno nhw o'r llwyfan - set yn llawn clasuron ac ambell gân newydd gan y Sibrydion. Y dorf wrth eu boddau ac eisiau mwy ar ôl tri chwater awr chwyslyd ac egniol. Mei Gwynedd wedi mwynhau'r arw - "odd o'n briliant" medde fe wrth Jeni Lyn ar ôl y perfformiad (bydd cyfle i chi weld fideos o'r cyfweliadau cefn llwyfan ar wefan C2 o ddydd llun ymlaen!).













Y dorf yn rocio i set Sibrydion



Jeni yn cael cwtsh gyda Mei!

Bryn Fôn ar y llwyfan

Criw C2 | 21:06, Dydd Gwener, 18 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

Mae'r dorf yn mynd yn wirion ar hyn o bryd oherwydd mae Bryn Fôn yn ysgwyd ei ben ôl ar lwyfan y Sesiwn.

Mae gwefan leol y BBC yn y gogledd orllewin yn mynd i holi cwestiynau i Bryn ar eich rhan - bydd yr atebion yn ymddangos fan hyn.

Uchafbwyntiau set Bryn i ddod ar Radio Cymru yn fuan...

Faux pas ffasiwn

Criw C2 | 21:00, Dydd Gwener, 18 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

Mae Richard Rees wedi cael ymuno efo C2 am noson fel cyflwynydd anrhydeddus - roedd e'n poeni mai fe oedd y person hynaf erioed i gyflwyno ar C2 nes i ni bwyntio allan fod Geraint Jarman efo cyfres ei hun!



Eich cyflwynwyr hyfryd am y noson - Daf Du a Richard Rees - fydd yn dod a'r gos i gyd o gefn llwyfan



Ond - ow diar - pwy sy wedi anghofio'i welis tybed?

C2 yn y Sesiwn Fawr!

Criw C2 | 20:43, Dydd Gwener, 18 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

Mae criw C2 wedi cyrraedd y Sesiwn Fawr a ni'n dechrau mwynhau yn barod! Mae'r glaw 'di dod i ben ac er bod na bach o fwd ar lawr cefn llwyfan mae'r Marian ei hun yn sych ac yn dechrau llenwi efo pobl yn mwynhau'r bandiau.



Y dorf yn dechrau cyrraedd wrth i Man berfformio



Criw C2 cefn llwyfan yn paratoi i fynd ar yr awyr



Stiwdios Radio Cymru yn y Sesiwn - moethus iawn!

Magi D sy'n dod ag uchafbwyntiau o'r ŵyl i chi ar y funud - gwrandewch yn fyw fan hyn

Nhw Oedd Y Genod Droog

Categorïau:

Gareth Iwan | 13:47, Dydd Mercher, 16 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

Ypdêt am yr album "Ni Oedd Y Genod Droog":

Hyd at Awst 1af, bydd yr albwm ar gael i'w rag-archebu oddi ar wefan Slacyr (www.slacyr.co.uk) am y pris gostyngol o £8. Bydd y pris wedyn yn £10.

Ma hynny'n wallgo o rhad am album wirioneddol wych sy di cymryd misoedd, os nad blynyddoedd o waith. Da ni wedi cael datganiad i'r wasg (proffesiynol iawn...) ganddyn nhw sy'n dyfynnu Gethin Evans:

Ein nod ydi creu cerddoriaeth fyw o ansawdd uchel, ond cael hwyl wrth wneud hynny. Fel aelodau unigol 'da ni wedi gweld cannoedd o sioeau byw gan bob math o artistiaid ac roedden ni'n teimlo'i bod hi'n amser cael band yng Nghymru sydd eisiau cael hwyl wrth greu cerddoriaeth wych, yn union fel Batfink.

Da chi'n cofio dywediad hwnw - "Your bullets cannot harm me, my wings are like a shield of steel!" Ydw, dwi'n hên a thrist.

Hefyd, be sy'n cysylltu'r Genod Droog hefo'r Black Kids? Ateb ar raglen Lisa 10pm nos fory... ac mae'n ddoniol iawn.

Paratoi am Sesiwn

Gareth Iwan | 17:51, Dydd Llun, 14 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

Wel bobol, da ni wrthi'n trio rhoi trefn ar raglenni Sesiwn Fawr Dolgella, ac o'n i'n meddwl bysa chi'n licio cael gwybod pwy fydd ymlaen a phryd.

Dyma drefn y rhaglenni ar hyn o bryd!

Cofion, Gar

Nos Wener

8.25pm - Man (fel rhan o raglenni C2)

9.25pm - Justin Adams (fel rhan o raglenni C2)

10.00pm - Bryn Fôn

10.25pm - Natasha Atlas

10.40pm - Sibrydion

11.00pm - Huw Chiswell - YN FYW

12am - Pyb!

Pnawn Sadwrn

12.40pm - Cân Bryn Fôn

1.15pm - Sibrydion

1.45pm - can Man

2.10pm - Bryn Fôn

2.40pm - Lowri Evans

3.10pm - Glerddorfa

3.40pm - Cole Porters

4.10pm - Steve Eaves

4.40pm - Cowbois Rhos Botwnnog

5.00pm - egwyl o'r Sesiwn

Nos Sadwrn

8.03pm - Cowbois (rhan fwya o set CRB yn y rhaglen pnawn)

8.07pm - Lisa Mills

8.20pm - Derwyddon

8.40pm - Nfaly

8.55pm - Gwibdaith Hen Frân

9.15pm - Celt - YN FYW

10.15pm - Endaf Emlyn mewn dau ran, yn cynnwys cyfweliad

11.15pm - Saw Doctors - YN FYW

12am - Pyb!

Bydd na hefyd mwy o flogio trwy'r penwythnos a fideos o gefn llwyfan yma ar y wefan.

Pwy oedd dy hoff fand yn Sesiwn Fawr Dolgellau erioed?

Categorïau:

Criw C2 | 16:01, Dydd Llun, 14 Gorffennaf 2008

Sylwadau (1)

Penwythnos yma fydd 'na sesiwn a hanner ar strydoedd Dolgellau unwaith eto - ond pa fand neu artist oedd y gorau i ti weld yna erioed? Dyna'r Pwnc Poeth wythnos yma - gad i ni wybod yn y blwch bach isod!

Mwy o Huw o Glasto

Categorïau:

Huw Stephens Huw Stephens | 16:48, Dydd Mercher, 9 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

Helo helo.

Ar ôl y rhaglen o Glastonbury wthnos dwytha, roedd ne gwpl o gyfweliadau ar ôl i'w darlledu ar y rhaglen nos Lun sydd newydd fod. Mae Doug mewn band o'r enw Sky Larkin ac o'r Wyddgrug yn wreiddiol, er bod y band erbyn hyn yn byw yn Leeds. Mae nhw'n itha gwych yn fyw, fi di gweld nhw'n chware cwpl o weithiau nawr ac ma nhw wedi recordio albym yn America yn ddiweddar. Enw i'r dyfodol yn sicr.

Roedd y sgwrs arall gyda Carwyn Ellis, sy'n recordio dan yr enw Colorama. Mae ei diwns ar ei Myspace yn dweud y cyfan; mae'r boi yn dalent enfawr ac mae'r gân Dere Mewn yn un arbennig. Roedd e yn Glastonbury achos fod e yn chware fel aelod o fand Edwyn Collins.

Mr Huw Evans fydd yn edrych ar ôl y rhaglen nos Lun a Mawrth wthnos nesa. Nai weld chi mewn pythefnos!

Sengl newydd Gwyneth Glyn a Cowbois

Categorïau:

Gareth Iwan | 11:47, Dydd Mercher, 9 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

Ma sengl newydd Cowbois Rhos Botwnnog a Gwyneth Glyn wedi bod 'chydig bach fel Sion Corn. Does neb wir yn siwr os dio'n bodoli, ond mi fysa'n neis tasa fo yn wir. Yn achos Cowbois a Gwyneth, mae dolig wedi cyrraedd go iawn.

Gwyneth a'r Cowbois

Gwyneth a'r Cowbois ar eu ffordd i Rodeo ym Mhen Llŷn yn y fan. Falle.

Mae gen i gopi o'r sengl, ac ma hi'n hollol wych. Tair cân country ar ei ora. Fersiwn newydd o gân draddodiadol ydy'r brif gân - Paid A Deud, wedi ei recordio yn steil unigryw Coboiws, ond gyda llais hyfryd Gwyneth a pedal-steel anhygoel gan Euron Jones hefyd. Wedyn ma na fersiwn hwyliog a chyflym o Mhen i'n Llawn Ohonat Ti, yn wreiddiol oddiar Tonau, hefo sŵn pedal steel Jos yn distortio'n wych yn y cefndir, a gitars y Cowbois yn gwthio'r rhythm ymlaen. A wedyn i gloi ma na fersiwn hiraethus o Musus Glaw.

Ma gan canu gwlad enw eitha dodgy yma yng Ngymru, ond mae'n fath o gerddoriaeth dwi wrth fy modd hefo fo ar ei ora, a gobeithio y gwnaiff y sengl yma newid meddylia rhai pobl am y math yma o gerddoriaeth.

Bydd Lisa'n chwarae'r caneuon nos Iau am 10pm, ac mi fydd Cowbois a Gwyneth hefo Lisa nos Wener am 10pm.

Ma Sion Corn wedi cyrraedd, ac mae o'n gwisgo crys check.

Gwefr The Peth

Categorïau:

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 12:52, Dydd Gwener, 4 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

Reit, da chi'n barod i i fynd am dro drwy atgofion Lisa Gwilym o'i noson yn neuadd Hercules, Portmeirion nos Fercher?

Dychmygwch neuadd eitha bach hefo ryw 200 o bobol fel sardines y tu mewn. Deg cerddor o'n blaena ni - dim ar lwyfan, just o'n blaena ni. Pob un yn gwisgo 'shades' ac yn edrych yn arbennig o cwl. Felly o'r chwith i'r dde, Guto Pryce o'r Super Furries, Osian o'r Sibrydion ar yr allweddella, Mei ei frawd ar y gitar, merch wedyn, ac wyddo chi be? dwi'n ymddiheuro, dwi ddim yn cofio ei enw hi ond mi oedd ganddi lais anhygoel. Wedyn Aaran Ahmun ar y drymie ac o'i flaen o, Rhys Ifans, oedd yn frontman charismatic tu hwnt. Daf Ieuan ar y gitar ac yn canu, Kris Jenkins yn y cefn yn chwarae hefo effeithiau sain. Scouse Mick a Dic Ben wedyn ar y tambourine, shakers a rhywbeth oedd yn edrych fel "My First Piano" gan Fisher Price, a dyne fo dwi'n meddwl. O, ac fe ddaeth Les Morrison ymlaen ar y diwedd i chwarae banjo. Felly dyne'r olygfa.

O ran sain wedyn, dwi di sôn am lais peraidd y ferch, oedd Rhys yn grêt, basslines cryf, lot o sŵn gitars, a harmonia da ar adega. O'n i'n poeni braidd ar y dechre gan fod na gymaint ohonyn nhw, ond i feddwl faint o aelode oedd na, ges i fy siomi ar yr ochr ore, ac mi oedd yna wefr yn perthyn i'r noson. Nes i wir joio! Mynnwch Peth o'r Peth!

Lis

x

PS os da chi isho clywed os ydy Dyl Mei yn cytuno hefo fi, gwrandewch ar ei adolygiad o'r gig nos Lun am 11pm efo Daf Du.



Huw nôl o Glasto...

Categorïau:

Huw Stephens Huw Stephens | 16:02, Dydd Mawrth, 1 Gorffennaf 2008

Sylwadau (0)

Threatmantics

Threatmantics yn cael hoe yn Glastonbury

Helo. Fi nôl, fyddwch chi'n falch o wbod.

Roedd rhaglen neithiwr yn llawn sgwrsus gyda Threatmantics, Georgia Ruth Williams, Cate le Bon a Bethan Elfyn oedd i gyd yn falch fod y tywyd wedi dal ati i fod yn iawn ar gyfer y penwthnos ar ffarm Worthy yn Pilton.

Roedd o'n bleser gweld sets Threatmantics a Georgia Ruth Williams - gwrandewch eto ar y rhaglen os naethoch chi golli'r tracs byw wedi recordio ar lwyfan Introducing y BBC yn Glasto.

Mae fideos gwych o'r 25 o fandiau nath chware ar y llwyfan ar wefan Glastonbury y BBC, a fyddan nhw fyny yna am fisoedd i ddod os chi ishe gwel nhw eto.

Reit, pwy sy'n chware Glasto 2009...