Archifau Awst 2008

Gŵyl goll ar lan y môr

Categorïau:

Gareth Iwan | 17:48, Dydd Iau, 21 Awst 2008

Sylwadau (0)

Helo bobl

Ma tymor gwylia'r haf yn ara deg dod i ben, ond coeliwch neu beidio, mae na un bach arall ddifyr iawn ar fin cael ei chyhoeddi. Sôn ydw i am Ŵyl Traeth Coll. Os ydi'r enw'n canu cloch, falle eich bod chi wedi bod un ai yng Ngŵyl Pentre Coll neu Gŵyl Gardd Goll - y 'prequels' i'r ŵyl yma.

Ma Dilwyn Llwyd o Yucatan sy'n trefnu i weld yn hoff iawn o chwara chicken hefo'r tywydd, yn gweld pa mor bell all o wthio petha! Mi oedd Pentre Coll dan do, mi oedd Gardd Goll yn yr awyr agored, ac mae Traeth Coll ar lan y môr!

Ma na ychydig o ddryswch wedi bod ynglŷn â'r line-up a'r dyddiad felly dyma gadarnhau ma Medi'r 7fed ydy'r dyddiad ar draeth Porth Iago ger Rhoshirwaun. Mi oedd Pentre Coll a Gardd Goll yn ddwy o'r gwylia gore yr haf yma, felly pob lwc i Dilwyn, ac os fedrwch chi, ewch i fwynhau.

Mi fydd Gethin Evans, un arall o'r trefnwyr ar raglen Lisa heno, ac mi fydd Dilwyn ei hun ar raglen Huw Stephens nos Fawrth hefo newyddion difyr iawn am Yucatan.

Mics Dyl Mei

Categorïau:

Gareth Iwan | 10:36, Dydd Mercher, 13 Awst 2008

Sylwadau (0)

Dyl a Lisa yn y Steddfod

Dyl Mei a Lisa yn y Steddfod - mwy o luniau, fideos a setiau byw ar ein safle Steddfod!

Wel, ma pawb yn ôl yn y swyddfa ar ôl 'Steddfod, a phawb yn edrych yn... flinedig. Ma Lisa ar ei ffordd nôl ar ôl Gŵyl Jazz Aberhonddu (ma hi wedi mynd o Sesiwn Fawr i Gardd Goll i 'Steddfod i Aberhonddu, a Gŵyl Dyn Gwyrdd wnsos nesa - stamina/parch!)

Dwi'n meddwl bod ni gyd yn teimlo chydig yn isel/SAD oherwydd diwedd 'Steddfod a'r tywydd ofnadwy. Felly dyma rywbeth i godi gwên. Ma'r Genod Droog (wel, Dyl Mei a bod yn fanwl gywir) wedi gwneud mics arbennig ar gyfer rhaglen Lisa nos Wener - a deud y gwir dyna'r unig beth fydd ar y rhaglen achos mae'r mics yn 58 munud - ac mae'n hollol, hollol wych. Mae'n dangos amrywiaeth chwaeth Dyl mewn cerddoriaeth, hiwmor, hwyl a chymysgu cofiadwy.

Felly nos Wener - Lisa Gwilym yn cyflwyno... Mics Dyl Mei! Ac os na fedrwch chi ddisgwyl tan 10pm nos Wener, dyma be fydd ar y rhaglen - yn cynnwys lot o gerddoriaeth egsgliwsif newydd:

  • Las Cuatro Caminos
  • Calcutta - Ravi Shankar
  • Howling Wolf - Smokesteady Lightning
  • Star Wars - End Credits
  • Meco - Star Wars theme
  • Mr Phormula - Rhyfel Tonau
  • Dilyn Dwynwen - Endaf Emlyn
  • Pontypridd - 9 Bach / Genod Droog!
  • Tiwn Gron - Kerdd dant
  • Ewn am Dro fo Deio i Bongo - Y Lladron
  • 50 Arthur - Y Lladron
  • Gwn Slippy - Y Lladron
  • Break Beat Lovers - Y Lladron
  • Light My Fire - Shirley Bassey
  • Byw Ar Gwmwl - Plant Duw
  • Ffarwel - Sidan

Eisteddfod wych, a llwyth o gigs!

Categorïau:

Huw Stephens Huw Stephens | 15:21, Dydd Mawrth, 12 Awst 2008

Sylwadau (0)

Roedd y Steddfod yng Nghaerdydd yn un da. Ro'n i'n ffilmio Bandit yn ystod yr wthnos, a bydd rhaglen awr o uchafbwyntiau cerddoriaeth y Steddfod ar S4C nos Iau yma. Nos Iau ola'r Steddfod ro'n i'n djo yn Maes B, ac yn gneud cyfweliadau i C2. Mae nhw lan yr we nawr. Edrychwch ar y gwahaniaeth taldra rhwng fi a Efa Stilletoes! Drychwch pa mor boeth ydi Mei Radio Lux!

Roedd Radio Lux yn wych - eu pedwaredd blwyddyn fel band yn gigio yn y Steddfod, ag roedd gweld dros mil o bobl yn ffrwydro i'w caneuon yn brofiad cyffrous iawn. Dwi'n meddwl fod nhw am fynd i drywydd arall nesa, fel gnaeth SFA neu Catatonia ar ôl cyraedd uchelfannau eu poblogrwydd ar y sin Gymraeg. Dyddiau cyffrous.

Roedd tri band newydd nath wneud argraff, a mynd a'i cerddoriaeth i'r man nesa.

Jen Jeniro; am dipyn ddim yn cael eu cymryd o ddifri ar yr un lefel a bandiau eraill, ond ar ol rhyddhau Geleniaeth ar label Sbrigyn Ymborth, a gigs yn y Steddfod, mae nhw ar eu fyny a bydd mwy yn talu sylw.

Yr Ods. Bydd mwy o sylw yn dod pan fydd ei sengl gyntaf allan ar Ciwdod. Roedd rhoi CDR sengls allan yn y Steddfod yn syniad gwych, ac mae nhw'n hynod o dda ar lwyfan.

Random Elbow Pain. Gyda'r Steddfod ar step drws y band roedd yn gyfle da i'r pedwarawd o Gaerdydd ddechre gneud be oedd Hanner Pei yn neud tua ugain mlynedd yn ôl, sef dod a chwa o awyr iach i'r sin Gymraeg gyda dylanwadau gwahanol i bawb arall a egni atyniadol.

Mae albym Genod Droog, mas yn y Steddfod, yn un pleserus iawn; o'r diwedd mae e allan! Ac yn swnio'n berffaith, rhaid deud.

Ges i bocs set Geraint Jarman hefyd. Wedi grando a chymryd mewn Gobaith Mawr y Ganrif; albym arbennig a heb glywed dim fel hwn yn Gymraeg. Mae'n ddoniol ar adegau gyda hiwmor drwy'r albym. Ond hefyd yn drist; mae'n amlwg fod Jarman yn gerddor unigryw o'r albym yma. Fi'n edrych mlaen i wario amser gyda'r cd's eraill yn y bocs.

Gŵyl Dyn Gwyrdd penwthnos yma! Allai ddim aros!

Sgidiau porffor...

Categorïau:

Magi Dodd Magi Dodd | 15:08, Dydd Iau, 7 Awst 2008

Sylwadau (0)

Aia,

Ma pawb yn chwerthin arna fi heddi achos fi'n gwisgo soldau uchel porffor sgleiniog ar y maes. Yn bersonol - sain deall y joc. Oce - mae'n eitha mwdlyd, ond dyw hwna ddim yn rheswm i bwyntio a chwerthin yn agored. Siom.

Fi a Glyn yn yr iglwww heddi - ma Glyn newydd sylwi ar gardie post Glyn a Magi sy o gwmpas y maes. Mae e'n cwyno achos mae'n dweud bo fe'n edrych fel alien . Fi'n meddwl bo fi'n edrych yn feichiog. Ond - just i gadarnhau - dydw i ddim. Ma just bola masif gyda fi.

Chi ise gwbod be ma pobol yn gwisgo ar y maes heddi? Wrth gwrs eich bo chi!! Co chi 'de!

  • Glyn Wise (Siwmper glas a gwyn streipiog, jins a trainers Nike)
  • Jeni Lyn (top blodeuog neis iawn, jins tywyll a sandalau)
  • Ows Frizbee (crys t a jins)
  • Jas Frizbee (crys t a jins)
  • Yws Frizbe (crys t a jins... ydy chi'n gweld patrwm yn datblygu fan hyn?)
  • Dyl Mei (crys brown, tei a blazer)
  • Carwyn genod droog (cords brown a chrys t glas... neu falle gwyrdd)
  • Morgan Hopkin (crys pinc a jins tywyll)
  • Aaron Eleias (fest du a jins...ac yn edrych yn gorjys fel arfer)
  • Geth/Phil/Rob/Paul Gwibdaith (cryse t, trowsus combat neu jins)**
  • Meilir Radio Lux - ddim ar y maes ond yn Grangetown neithiwr (cords brown a chrys t gwyrdd)



Gan ei bod hi'n braf ma pawb yn gwisgo sbectol haul. Y thema sbectolaidd yw Aviators. Ma'r sbectols mawr a la Nicole Ritchie/Paris Hilton moooor Steddfod Wyddgrug. A waeth i ni fod yn onest - ma sbectol haul yn hanfodol ir steddfod. Nid yn unig ydyn nhw'n cuddio pechodau noson heb gwsg, ma nhw hefyd yn esgus i chi osgoi pobol chi rili ddim moyn gweld.



Hoce dudes. Ni'n mynd i baratoi rhaglen heno nawr... Ma lineup Maes b yn ace - felly edrych mlaen yn arw!

Tan fory

Tra xxx

**Ma Gwibdaith yn chware ar y maes ar hyn o bryd - nes i ofyn i Geth os oedd e moyn neud fersiwn o Cân am Sana gan bo fi, Glyn a Jeni ar y maes. Nath e chwerthin yn uchel iawn, ond pan nes i weud wrtho fe bo fi o ddifri nath e edrych arnai yn bryderus, g'neud ei esgusodion a ffoi. Siom

Yr Eisteddfod!

Categorïau:

Glyn Wise Glyn Wise | 14:28, Dydd Iau, 7 Awst 2008

Sylwadau (0)

Reit, dechreuais yn yr Eisteddfod dydd Mercher, mor braf yw ei chael yn y brif ddinas! Mae popeth mor agos at ei gilydd, yn enwedig os oes angen rhedeg yn ol i'r gwesty i newid eich dillad drewllyd ( DIOLCH CRIW STWFFIO!! UGH! )

Dechreuais weithio yn y cynulliad yn helpu'r hybu'r Gymraeg am ddeg o gloch, yna am bedwar, roedd rhaid i fi a'n wraig radio, Miss Magi Dodd, gymryd rhan mewn cystadleuaeth bwyd yn erbyn ein gilydd efo Anthony ac Alun. Roedd y ddau ohonom yn cael helper bach, (er oedd un fi heb helpu o gwbl) ac y rownd gyntaf oedd i'n helper gael mwgwd am ei lygaid, a cyffwrdd y bwyd efo eu dwylo a ceisio dyfalu beth oedd y bwyd, digon syml, uwd, pin afal a tatws! Ond, yr ail rownd, oedd rhaid i fi a Magi ddyfalu beth oedd y bwyd gan eu blasu.

Diolch stwffio am sticio sgum yn fy ngheg! Neis! Y bwyd oedd sardins efo cannoedd a miloedd, brecwast o din a lard. Ia, lwmp o lard yn cael ei stwffio lawr fy nghorn gwddw! Blasus dros ben. A mwy na hynny, roedd Alun a Anthony yn lluchio bwyd ar fy hyd ac yn diwedd cefais i a Magi pei ffluff yn ein gwyneb, lovely! Dwi erioed wedi teimlo fel mor gymaint o glown! Ac un drewllud hefyd.

Heddiw, rydw i a Magi yn yr Iglw, felly dewch draw i ddweud helo!

Hwyl fawr, blant

Glyn x

Hanner ffordd drwy'r wythnos...

Categorïau:

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 01:20, Dydd Iau, 7 Awst 2008

Sylwadau (0)

Wel! Mae'n un or gloch y bore, a dyma fi ym Maes B! Cerys Matthews newydd ddod oddi ar y llwyfan, a dwi di cael noson gret! Al Lewis, Gai Toms, Fflur Dafydd a Cerys..



Da ni bellach hanner ffordd drwy'r wythnos, a dwi wrth fy modd yn steddfod Caerdydd 2008. Wedi gweld llwyth o fandie, 'di cael sgyrsie difyr efo amrywiaeth o fobol, a jyst yn mwynhau cael bod yn y ddinas efo ffrindie!



Gobeithio bod chi hefyd yn joio pob eiliad! Criw C2 efo chi tan ddau or gloch y bore!



Hwyl a hafoc, Lis xx

Mmmm.. ie... hilariws...

Categorïau:

Magi Dodd Magi Dodd | 17:10, Dydd Mercher, 6 Awst 2008

Sylwadau (0)

Hia chi's,

Fi'n sgwennu hwn yn hwyrach na'r arfer achos fi a Glyn di bod yn sioe lwyfan Stwffio. Lot o hwyl. A lot o anibendod! Nethon nhw ofyn i ddau fachgen o'r gynulleidfa addurno cacen - ond be o fi a Glyn ddim yn gwbod oedd - ma'r cacen oedd... fi a Glyn! Hufen, jam a losin yn y gwallt - a hynny cyn y custard pie yn y wyneb. Fi di golchi fy ngwallt mean bwced o ddwr oer. Ond fi dal yn drewi o hufen, cwstard a phwdin reis. Grim.

Ta waeth - ma f'ymgyrch ffasiwn eisteddfodol yn parhau. Nath Huw Stephens weud neithiwr bo fi fel Trinny a Suzzana C2. Sa well da fi feddwl a fi yw Mica Paris/Lisa Butcher C2. Ma nhw lot mwy neis.

Co ni off de



  • Gruff Rhys (cot anferth, het a jins)


  • Gwyneth Glyn (ffrog hir flodeuog , cot denim a bwt cowboi)


  • Glyn Wise (jins, crys a siwmper)


  • Ian Cottrell (crys t Smiths - vintage a jins glas)


  • Hefin Ty Newydd Sarn (crys t Ty Newydd Sarn a cords gole)


  • Gruff Lynch yr Ods (crys t, cardigan a jins)


  • Daf Du (jins tywyll, a chrys gole a bwts neis. DIM WELIS!)


  • Alun ac Anthony Planed Plant (cryse t Stwffio a jins)


  • Alex Jones (ffrog lwyd neis iawn gyda bow)


  • Huw Stephens - yn stwidio c2 neithiwr (crys t streips a jins)


  • Jams Tomos (siwt cream fel y dyn o del monte)


  • Osi Sibrydion (jins, crys a hat neis iawn)


  • Mei Sibrysion (crys t, jins a blazer gole)


Gyda llaw, nath Huw S ware trac newydd gan y Sibydion neithiwr ar c2. ANHYGOEL. Rili rili dda.

Reit fi'n mynd nawr achos ma arogl hufen/cwstard/pwdin reis yn dechre troi arnai

Welai chi fory!

xxxxx



Helo! Dyma Jeni!

Jeni Lyn | 14:53, Dydd Mawrth, 5 Awst 2008

Sylwadau (0)

Eistedd o flaen y cyfrifiadur ar y maes yn yr iglwww ac mae'n bwrw glaw yn sobor iawn - ond dim ots oherwydd mae na ddigon o gerddoriaeth byw arbennig ar y maes. 'Dwi newydd fod yn gwrando ar Brigyn yn canu ar lwyfan perfformio 1 ac mi fyddai'n mynd yn fy ol mewn munud i wrando ar Fflur Dafydd a'r Barf!

Uchafbwynt y Steddfod hyd yn hyn i fi yw clywed y grwp sydd wedi ennill Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith yn chwarae ar Stondin Nolan ar y maes ddoe. Bandana 'di enw'r grwp ac mae nhw'n dod o ardal Bethel a Caernarfon. Disgyblion o Ysgol Brynrefail (yr ysgol ora yn y byd!!) a Syr Hugh Owen ydi Robin, Gwilym, Sion a Tomos. Os cewch chi gyfle i'w gweld nhw yna ewch ar unwaith. Dyna ni, dwi'n mynd rwan achos mae Magi Dodd yn fy ngwthio i allan o'r iglwww i fynd yn ol i wrando ar y bandia! Os fyddwch ch wrth y llwyfan perfformio cyn diwedd yr wythnos, welai chi yna!

Mae'n bwrw glaw, so dal fy llaw... la di la di la

Categorïau:

Magi Dodd Magi Dodd | 14:24, Dydd Mawrth, 5 Awst 2008

Sylwadau (0)

P'nawn da o iglwww c2/mosgito/ffeil ar faes y steddfod,

Fel ellwch chi ddyfalu o deitl fy mlog - mae'n bwrw glaw. Yn sobor iawn. Ond mae'n bell o fod yn bnawn anghynes ar y maes. Ma rhywbeth am y ffaith bo hi'n bwrw glaw yn y steddfod, yn neud i bobol fod yn fwy parod i siarad â'i gilydd ("Ooo - ma'r tywydd 'ma'n ofnadw nagyw e?"), yn fwy positif ("Mae'n mynd i fod yn braf ddiwedd yr wythnos. Boiling!"), ac yn fwy swnllyd! Wir! Ma lot mwy o swn ar y maes pan mae'n bwrw glaw. ("aaahhh - fi newydd gamu mewn pwll o ddwr!")

Ond yr hyn dwi'n trio gyfleu yw does dim ots sut ma'r tywydd - ma wastad rhywbeth i'w neud a rhywun i'w weld ar y maes.

A chofiwch ma be ma pobol yn wisgo yn y glaw yn ddiddorol iawn. Dyma pwy fi di gweld - a be ma nhw di gwisgo rhwng p'nawn ddoe a heddi.

  • Daf Du (trowsus combat brown gole a chrys glas gole)
  • Hywel Gwynfryn (crys llewys byr a throwsus)
  • Huw Evans (blazer glas tywyll gyda bathodynne, jins sgini tywyll ac esgidiau gwyn)
  • Guto Brychan, sy'n trefnu gigs Maes B (crys t Gwyl Swn a jins)
  • Jeni Lyn (fest gwyn, cardigan las a jins neis iawn)
  • Swci Boscawen (crys a leggins du - a'i cholur a'i gwallt yn edrych yn ffantastic fel arfer)
  • Osi Sibrydion (crys, jins a chôt ledr)
  • Mei Sibrydion (crys, jins a top adidas)
  • Huw Stephens (crys glas a gwyn, jins a daps adidas)

Felly, dyna sut ma'r ffasiwn yn edrych ar y maes - ac ym maes B hyd yma. Jins a daps adidas yw'r pethe mwya poblogaidd hyd yma. Ond gall bobeth newid erbyn diwedd yr wythnos.

Fi? Fi'n gwisgo siorts, bwts a chrys t Steddfod Abergwaun 1986. Y crys t yma oedd hoff un Grav arnai (mae'n goch - fel y sgarlets!) a chan gofio am y cyngerdd sy'n cael ei gynnal heno i gofio'r gwr bonheddig o Fynydd y Garreg - dwi'n gwisgo'r crys â blachder heddi.

xxx

Steddfod, Steddfod.... la di la di la....

Categorïau:

Magi Dodd Magi Dodd | 14:12, Dydd Llun, 4 Awst 2008

Sylwadau (0)

Helo bobol lyfli,

Dyma fi yn iglw c2/mosgito/ffeil ar faes y brifwyl! Pa mor cwl yw hwna? Ar ol misoedd o baratoi a threfnu (a jyst son am fy wardrob eisteddfodol nawr!) ma'r steddfod wedi glanio fel llong ofod mawr pinc o blaned cerdd-dant.

Ma'r maes ei hun yn fab, gyda lot fawr o bethe i'w gweld ac i neud. (ond rhyngo ni - iglw ni yw'r gore...) Ac ma'r tywydd - hyd yma yn braf ac yn sych.

Fyddain yn yr iglw bach yma drwy'r dydd - gyda Glyn ymuno ddydd Mercher (o diar!!) felly fyddain sgwennu yn aml i adel chi wbod pwy fi di gweld - ac yn bwysicach - be ma nhw'n gwisgo.

Hyd yma - fi di gweld....

  • Ifan Mosgito (yn gwisgo crys llwyd a jins)
  • Catrin Heledd (yn gwisgo crys t ffeil a trowsus du
  • Iwan Griffiths (yn gwisgo crys t ffeil a jins)...

Dyna ni am nawr.. mwy o bobol enwog a'i ffasiwn eisteddfodol ar y ffordd!

Tra xx