Nos Lun yma (Tachwedd 27) mae seshwn newydd Y Diwygiad yn cael ei ddarlledu. Bydd y rapwyr gwych Mr Phormula a 9Tonne mewn i son am yr albym newydd, cyntaf. Edrych mlaen i'w glywed, mae nhw wastad yn gneud pethe difyr gyda'r odlau a cherddoriaeth.
Yn ddiweddar es i i noson John Peel yn yr Electric Proms. Bands wedi eu dewis gan deulu y DJ Radio 1 oedd yn ffan enfawr o fandie o Gymru (yn enwedig Melys, Tystion, Llwybr Llaethog i enwi mond rhai) oedd yn chware. Roedd Rolo Tomassi yn wych iawn. Os chi'n hoffi'ch roc swnllyd, gwahanol a dim byd ond angerheidiol, checiwch nhw allan.
Roedd e'n dda cael Ianto o Nos Sadwrn Bach, Steffan o Just Like Frank a Steffan Huw ar y rhaglen yn ddiweddar - tri band o Gaerdydd sy'n wahanol i'w gilydd ac yn neud stwff hynod o gyffrous.
Brrrap, ac yn y blaen.
Ielo,
Dyma fi yn swyddfa foethus C2 ym Mangor. Mae'n posh iawn yma a lot neisach na swyddfa Caerdydd. A ma wastad siocled yma felly fi yn fwni hapus (ond tew) iawn ar hyn o bryd.
Fi yma achos ma bws Taith Bandit C2 wedi glanio yn y Gogledd. Nethon ni lanio yn Ysgol Eifionnydd, Porthmadog ddydd Llun. Wel - am ysgol HYFRYD. Roedd y disgyblion yn hyfryd. Mor gwrtais, creadigol - a hollol cwl! Nes i rili fwynhau a gethon ni groeso arbennig iawn.
Frizbee yw band y daith yr wythnos yma a roedd pobol Port wrth eu boddau â 'ogia Blaena! Nath Gola Ola hefyd ware - a gethon nhw hefyd ymateb arbennig. Be sy'n rhyfedd - y tro cynta' nes i gyflwyno taith ysgolion - Gola Ola a Frizbee oedd y bandie - felly ges i deimlad rhyfedd - fel bo fi'n dod adre', er bo fi filltiroedd i ffwrdd o Bontypridd.
Ma Huw Evans ac Ed Holden di bod yn Ysgol David Hughes heddi' - a fory fi fydd yn rocio Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda. Felly os chi'n ddisgybl yn yr ysgol honno - welai chi 'na!
Traaaaa
M xxx
Helo!
Dyma fi yn blogio o ysgol Aberteifi - ysgol lyfli yw hi fyd. Pawb yn gyfeillgar ac yn neis.
O fi'n grympi bore ma pan nath Sian ddod i nol fi o'r gwesty yn Llambed am 7 y bore, ond nes i rili joio ar ol cyrraedd yr ysgol.
Gethon ni weithdy radio ace yn y bore gyda Iwan a Steffan yn cyflwyno, Lisa yn cynhyrchu a Daniel a Sion yn dechnegwyr. Roedd pawb yn bril.
Roedd y gig yn y pnawn yn fab gydag Ashokan ar dân. Ma nhw'n wych yn fyw, ac allai'm aros i weld nhw eto fory yn Aberaeron.
Welai chi cyn hir!
Magi xxx