Mae Bethan Elfyn wedi bod ar daith i Liet Lavlut yng Ngwlad y Sami, yn cadw cwmni i'r band Yr Annioddefol, wrth iddyn nhw gystadlu mewn gŵyl gerddorol arbennig yng ngogledd Sgandinafia. Dyma ddyddiadur Bethan o'r penwythnos...
Sweden! Yr hyfryd Sweden! Dwi erioed wedi bod, ond nawr dwi ar awyren fach ar fy ffordd o Fanceinion glawiog, llwm, ac yn edrych mlaen i lanio yn yr haul a'r oerfel crisialaidd, Nadoligaidd yng ngogledd Sweden. Mae gen i fand ifanc o Flaenau i ddiolch am y siwrne, a'r ffaith bod nhw drwodd i ffeinal cystadleuaeth Liet Lavlut - sef math o Eurovision Song Contest i ieithoedd lleiafrifol.
Dros y penwythnos ni'n bwyta cawl carw, canu jazz da'r bobl lleol, dawnsio i Duffy mewn clwb nos, gwylio bobl yn canu 'yoiking', ac yn bwysicach oll cwrdd â bandiau o bob cwr o Ewrop, bob un yn canu mewn iaith lleiafrifol dwi erioed wedi clywed amdano o'r blaen! Ffriŵleg o ardal Alpau yr Eidal, Astwrieg o ogledd Sbaen, Ffriseg o ogledd yr Isediroedd, Arbëresh o'r Eidal, ac yn y blaen. Mae'r gerddoriaeth hefyd yn syndod o eang: mae 'na fand ska, band punk, canwr opera, merch efo cerddoriaeth electroneg a llais fel Björk, a gypsy-tango o Gothenburg. Dwi'n feddw ar yr awyrgylch, wedi'n nghyffroi gan yr holl synau a phrofiadau gwahanol, hyfryd, gwerinol, ac wedi'n synnu gan gyfeillgarwch bobl Lulea tuag atom. Mae'n benwythnos gwefreiddiol!
Mae'r Annioddefol yn brysur iawn dros y penwythnos, yn canu ar fyr rybudd mewn cyngerdd acwstig ar y nos Wener, wedyn yn chwarae a chanu mewn cyngerdd plant ar bnawn dydd Sadwrn, heb sôn am yr holl ymarferion, profion sain a phrofion dillad at y foment fawr, a'r cyfweliadau i'r wasg a'r radio rhyngwladol.
Ond ma dal digon o amser i ddod i nabod ein gilydd, ac mae bob aelod yn gynnes ac yn gwmni da. Ges i'n synnu gan agwedd Rosie oedd yn canu da'r band am y tro cyntaf, tra bod Llio wrth droed Everest - roedd hi'n hollol cŵl, calm a collected. A Paul a Ceri yn gwneud imi chwerthin wrth ddysgu geiriau a brawddegau doniol yn Swedeg. Tra fod Gruff a Ben yn rhedeg rownd yn chwilio am strings, jeans a phob math o bethau yn siopau Lulea. "Dwi ddim yn gadael y siop yma nes imi brynu jeans!" oedd un o cwôts y penwythnos!
Yn wahanol i'r Eurovision, mae yna bwrpas arbennig i'r gystadleuaeth yma: i hybu ieithoedd lleiafrifol, ac mae gwneud hynny drwy gerddoriaeth yn ffordd arbennig o gael ymateb gan bobl ifanc. Roedd hi'n braf clywed hefyd mor uchel ei pharch oedd yr iaith Gymraeg, a'r diwilliant ni'n cymeryd yn ganiataol weithiau. Fe gymerodd hi siwrne dramor imi weld a sylweddoli'r hyn sydd nôl yn y filltir sgwar.
I gystadlu blwyddyn nesaf, ewch at y wefan yma, i gystadlu yn Inverness ar ran y gwledydd Celtaidd: www.nos-ur.eu
Cofiwch wrando ar y rhaglen ddogfen ar BBC Radio Cymru nos Fercher a Nos Sadwrn yma, a'r holl luniau lan ar wefan C2.
Hwyl, Beth x
