Wel, dwi ar fy ngwyliau o heddiw tan ddechrau Ionawr, felly Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd! Diolch yn fawr am wrando ar C2 dros y flwyddyn, a gobeithio y gwnewch chi ddod nol ata ni yn 2009. Ma na bob math o raglenni gwych a gwahanol dros y bythefnos nesa - mwynhewch!
Pan fydd Lisa G nol mis Ionawr, mi fydd ganddi hi sesiwn newydd Y Llongau, ac uchafbwyntiau gig lansio album newydd Gwilym Morus.
Dolig llawen
Gar
Mae'n bechod gweld rhai o wyliau cerddorol mwyaf Cymru mewn trafferthion. Tydw i erioed wedi bod yng ngwyl Jazz Aberhonddu, (dwi ddim yn fan mawr jazz) ond dwi'n meddwl ei fod yn drist iawn fod cyfle i weld rhai o artistiaid jazz gorau'r byd, a cherddorion ifanc o Gymru, am ddiflannu. Gobeithio na fydd Sesiwn Fawr a'r Faenol yn mynd yr un ffordd...
Efallai mai gwyliau bychain fel Gardd Goll sy'n dangos y ffordd ymlaen?
Helo bobol
Fyddwn i ddim yn argymell i chi wrando ar unrhywbeth ond Magi Dodd am 8pm, ond rhaid llongyfarch Sibrydion ar gael sengl yr wythnos ar raglen Radcliffe And Maconie. Mi oedd Osh a Mei hefo Lisa yn ddiweddar yn son am yr album a'r sengl, ac mi fydd Lis yn chwarae mwy o'r caneuon nos Iau a nos Wener.
Mi fues i'n noson lansio The Dressing Gown Goddess, album newydd Gwilym Morus nos Wener. Noson hyfryd - llond bol o lobscows, glasiad bach o win, ac yna set gan Gwilym a'r band. Er fod un o dannau gitar Gwilym wedi torri yng nghanol y set, dwi'n meddwl fod pawb wedi mwynhau. Gewch chi glywed rhai o'r caneuon byw ar C2 yn gynnar mis Ionawr
Wel helo. Wele fy mlog.
Dyma ni ar ddiwedd (bron iawn) blwyddyn anturus sydd wedi gweld pethau da a pethau drwg yn digwydd I'r byd yn gyffredinol, mae'r rhaglenni ar C2 yn naturiol dueddol o adlewyrchu be sy wedi bod yn dda yn ein byd o gerddoriaeth Gymraeg a rhyngwladol wych.
Cyfle i fwynhau albym cyntaf ag olaf Genod Droog (Ni Oedd Y), The Gentle Good, EP Cate le Bon, Y Diwygiad, albym anhygoel Eitha Tal Ffranco, Messner a gymaint mwy...
Ar yr ochr albyms rhyngwladol, bydde 09 wedi bod yn llymach le heb MGMT, Vampire Weekend, Fleet Foxes a Bon Iver, The Dodos heb os, bob un yn fand o America. Roedd albyms Neon Neon, Wild Beasts, Lykke Li, Los Campesinos a Elbow yn rai hynod o wych hefyd, a'r band Wild Beasts o Leeds yn fand nath ddim torri drwodd ond wedi creu argraff mawr arna i.
Ar fy rhaglenni rhwng nawr a Dolig hefyd gallwch glywed tiwns Nadoligaidd, o'r gwych i'r gwirion. Fi'n casglu nhw drwy'r flwyddyn, felly mae digon i ddewis ohonyn nhw!
Roedd sesiwn diweddar Alun Tan Lani C2 yn wych iawn. Mae Sesiwn newydd gan y Promatics i'w ddarlledu nos Lun nesa (15ed Rhagfyr) - mae hi'n hynod o bwerus hefyd.
Cadwch yn gynnes.
xhx
..wel, am y tro.
Dwi'n drist iawn am ymadawiad yr hogia, am ddau reswm. Y rheswm cyntaf ydy fod 'headliners' Cymraeg yn mynd yn fwy a mwy prin. Heb y Genod Droog a Frizbee, pwy all trefnwyr gigs droi atyn nhw i lenwi gig fawr neu wyl? Pwy alla i a Bandit ffonio yn y gobaith o ychwanegu chydig filoedd o wrandawyr/gwylwyr? Bryn Fon, Sibrydion, Gwibdaith, falle Cowbois? Radio Lux, Euros Childs? Derwyddon hefo dipyn o lwc yn 2009? Mae angen grwpiau poblogaidd arnom ni, ac mi fydd hi'n anoddach ar drefnwyr gwylia heb Genod Droog a Frizbee. Dyna ddiwedd hefyd ar un o'r ychydig grwpiau llawn amser Cymraeg...
Mae'r ail reswm yn fwy personol. Dwi wedi gweithio lot hefo hogia Frizbee dros y 5 mlynedd dwetha, ac yn ddi-ffael, mae nhw wedi bod yn gyfeillgar, hoffus a chwbl broffesiynol. Mae nhw wedi gwneud tri sesiwn i raglen Lisa, ac yn ol yn 2004 roedda nhw'n gefnogol iawn i'r rhaglen pan nad oedd pawb, ac mi ydw i'n ddiolchgar iawn am hynny.
Efallai na wnaeth Frizbee gyrraedd uchelfanau amrywiol cerddorol eu arwyr Supergrass, ond mi oedd Frizbee yn grwp roc gret - ac mi fydd y sin yn dlotach hebddyn nhw.
Gewch chi wrando ar sesiynau Frizbee o 2006 ac o 2008 a gweld os da chi'n cytuno. Fel arfer, plis gadewch sylwadau, ac os da chi isho gyrru neges i Frizbee, fe wna i'n siwr fod yr hogia'n ei dderbyn.
DIWEDDARIAD: Bydd Frizbee hefo Lisa am awr nos Iau 18/12/08 yn edrych yn ol ar eu cyfnod yn gigio a recordio
Helo
Rhywbeth i gadw chi fynd tan sesiwn Sweet Baboo nos fory - fe wnaeth sesiwn a sgwrs hefo Marc Riley neithiwr ar 6 Music
A nes i anghofio son, mae Jackie Williams ac Aron Elias wedi recordio sesiwn i raglenni Richard Rees a Lisa. Bydd 2 drac ar raglen Richard fore Sadwrn am 10am, ac un bnawn Sul gan Lis am 2.30pm
Gar
Haia
Ymddhieuriadau fod na brinder blogs gen i ar hyn o bryd - mae hi'n wallgof o brysur. Mae gen Lisa cwpl o sesiynau difyr iawn yr wythnos yma - nos Iau mae Sweet Baboo yn recordio ei sesiwn Gymraeg gyntaf (mae o wedi gwneud cwpl o ganeuon i Bandit yn y gorffennol) a nos Wener mae ganddom ni sesiwn Nadoligaidd gan Lleuwen. Dwi hefyd yn GOBEITHIO recordio can Gymraeg hefo Rhiannon Giddens - mae hi'n gwneud fersiwn eitha arbennig o 'Ar Hyd Y Nos'.
Dwi hefyd am geisio rhoi ambell restr o gerddoriaeth Lisa i fyny - rhag ofn bod gan wrandawyr C2 ddiddordeb, ond hefyd i drio denu mwy o bobol sydd ella'n darllen y blog yma ar y blogiadur neu rywle arall!!!! Felly dyma drefn nos Iau 04/12/08:
1 Yr Ods - Rhywle I Ngwallt Gael Tyfu'n Wyn
*2 Spencer McGarry Season - Paler Shade Of Wit
*3 Plant Duw - Dihiryn y Gwanwyn
4 Diwygiad - Petha Bach
*5 Gwilym Morus - Awen Boeth
*6 Jakokoyak - Look Away Now
*7 Alun Tan Lan - Nadolig Llawen
*8 HuwMM - Seddi Gwag
*9 Sibrydion - Femme Mental
*10 Sibrydion - Reprise
*11 CPJ - Nadolig Llawen (Pob Un Wan Jac)
*12 Yucatan - Y Crewr
*13 Beti Galws - Un Geiryn Bach
Helo bobol
Falle mod i'n cymryd risg yn gofyn hyn ond... beth fydda chi'n ei newid ar C2? Be' da chi'n ei fwynhau, a be' fysa chi'n ei wella? Unrhywbeth da ni ddim yn ei wneud yr hoffech chi glywed ar C2? Mae ganddom ni gyfarfod bach fory yng Nghaerdydd i drafod hynny ymysg petha eraill, felly gadewch ei sylwadau (adeiladol plis!!!) yn fama
Diolch
Gar
ps cofiwch am sesiwn Alun Tan Lan heno am 10pm hefo Huw Stephens