Archifau Ionawr 2009

Enw newydd Radio Luxembourg ydy...

Categorïau:

Gareth Iwan | 19:53, Dydd Gwener, 30 Ionawr 2009

Sylwadau (0)

... Race Horses! Oherwydd problemau hefo hawliau/perchnogaeth yr enw "Radio Luxembourg" ma nhw wedi gorfod newid enw'r band, ond y newyddion da ydy fod hynny'n golygu y bydd y band o'r diwedd yn cael rhyddhau eu caneuon newydd. Bydd sengl mis Ebrill hefo un gan Saeneg ac un Gymraeg, ac album i ddilyn yn fuan wedyn. Pan ga i gyfle dydd Llun, fe ro i'r holl fanylion a links i'r myspace newydd ayyb yn fama neu ar dudalen flaen C2. Bydd Alun Gaffey o'r band yn westai ar raglen Hefin Thomas nos Lun, ac mi fedrwch chi wrando eto ar gyfweliad Lisa hefo Meilyr heno yn fama

DIWEDDARIAD: Dyma wefan newydd y band

Gwyl Celtic Connections

Categorïau:

Gareth Iwan | 19:19, Dydd Gwener, 30 Ionawr 2009

Sylwadau (0)

Mae'r wyl yma yn digwydd ar hyn o bryd ac yn edrych yn ddifyr. Dwi'n credu fod 9 Bach a Gareth Bonello yn perfformio yno - gobeithio gawn ni air hefo nhw ar un o'n rhaglenni wythnos nesa

Brawd Bach Ifor!

Categorïau:

Huw Stephens Huw Stephens | 10:17, Dydd Gwener, 30 Ionawr 2009

Sylwadau (0)

Helo. Roedd Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd yn 25 mlwydd oed llynedd. Eleni, ar Chwefror 6ed mae'n cael brawd bach - Y Fuwch Goch, bar fydd yn agor dros y ffordd iddo ar Stryd Womanby. Cyffrous ynde? Tan yn ddiweddar enw'r lle oedd Kaz Bar. Cyn hynny roedd y lle o dan yr enw Horse and Groom. Ond nol yn y deunawfed ganrif, enw'r lle oedd y Fuwch Goch. Fi wrth fy modd yn gweld hen lunie du a gwyn o Gaerdydd, y trams a ceffyle ar y strydoedd, roedd camlas yn rhedeg trwy'r ddinas hefyd ar adeg. Ac roedd pawb yn gwisgo'n smart, gyda hetie mawr tal. Hyd yn oed y merched. Felly gobeithio fydd y Fuwch Goch yn dod a darn bach o'r hen Gaerdydd mewn i'r ganrif yma.

Newyddion cyffrous am albym newydd Super Furry Animals, edrych mlaen i glywed honne!

Es i i weld Threatmantics ar eu taith wthnos yma, reodden nhw'n dda iawn. Mae Little Bird eu sengl allan i'w lawrlwytho nawr. Roedd Swanton Bombs ar y daith yn dda iawn hefyd.

O, hefyd, chi di clywed seshwn Cofi Bach a Tew Shady eto? Naddo? Mae o

fan hyn i chi eu fwynhau.

Hwyl

x

Marwolaeth John Martyn

Categorïau:

Gareth Iwan | 14:38, Dydd Iau, 29 Ionawr 2009

Sylwadau (0)

Trist clywed am farwolaeth y canwr o'r Alban. I fod yn gwbl onest, doeddwn i erioed yn ffan mawr, ond os oeddech chi, mae na deyrngedau a cwpl o lincs diddorol yn fama

Album newydd SFA

Categorïau:

Gareth Iwan | 10:50, Dydd Iau, 29 Ionawr 2009

Sylwadau (0)

Daeth newyddion o lawenydd mawr o wefan SFA bore ma - bydd album newydd 13 trac yn cael ei ryddhau gan y Furries yn ddigidol ar Fawrth 16 ac yn y siopa ar label Rough Trade Ebrill 16. Does dim enw i'r album eto, ond mi gewch chi glywed lot mwy am yr album ar raglen Lisa heno (a Magi mae'n siwr) ond yn y cyfamser ewch i wefan SFA.

Dwi isho bod yn filwr..

Glyn Wise Glyn Wise | 19:34, Dydd Mercher, 28 Ionawr 2009

Sylwadau (3)

Mae pawb yn y BBC wedi cael llond bol arnaf yn siarad am y TA sef Y Fyddin Diriogaethol. Cefais diwrnod gwych a rwan rwyf bron iawn ac ymuno. Bore dydd Llun aeth fi, Magi D, Robin ac Owain y cynhyrchydd i Meindi baracs yng Nghaerdydd. Roedd y lle yn llawn o filwyr a pob adeilad wedi ei orchuddio mewn lliw cami. Roedd o fel golygfa mewn ffilm. Cymerais rhan yn y gweithgareddau ffitrwydd, lle roedd rhaid gwneud press-ups a sit-ups, dal pwysau trwm ac yna roedd rhaid gwneud y cwrs antur! Dwi erioed wedi chwerthin cymaint yn gweld Magi yn llusgo ei hun drwyr mwd. Rhaid i mi gyfaddef, roeddwn yn sioc gyda baint o dda oedd hi, ond bechod na allaf ddweud yr un peth am Robin. Roedd ei wyneb yn goch i gyd a roedd bron a llewygu wedi iddo basio y llinell derfyn. Diwrnod i'w gofio a gallai ddim aros nes y sioe heno i ddweud y hanes i gyd.

Glyn x

Byrger off!

Daniel Glyn | 14:56, Dydd Mercher, 28 Ionawr 2009

Sylwadau (0)

Helo pawb, dechrau gwael i'r wythnos imi yn dilyn ymweliad a siop burgers Albanaidd ar gyrion merthyr, y teip sydd gyda drive thru, os chi'n gwbod be sda fi. Oni'n amau bod y boi tu ol i'r ffenest wedi synhwyro fy acen Caerdydd, ac wedi mynd i gosodiad default "oh aye, cardiff snob is it?". Roedd y burger yn sych, ac yn amlwg wedi bod ar y silff ers cwpl o oriau - yn union fel wi'n lico nhw. Ond, wrth imi frathu mewn i'r byrger, sylwes i fod na darn gwlyb yn y canol. Fi'n recno nath e boeri yn fy myrgyr, fel Eminen gyda'i Onion rings.

Treulies i fore dydd llun ar y lle chwech, oedd, erbyn imi orffen gydag ef, yn fwy tebyg i le chwech chwech chwech. nawr, sai'n gweud fod dim o'r uchod yn wir, ond mae'n dipyn o gyd-ddigwyddiad. A nawr, dwi'n ysgrifennu blog, sef yr union swn sydd wedi bod yn dod o fy stumog ers hynny. Rhyfedd eh? Alex Jones syd ar y rhaglen heno, a dwi'n edrych ymlaen i rhannu'r stori uchod gyda hi. Efallai fod ganddi straeon tebyg. Neu falle fod gynnoch chi. Textiwch 67500 gyda'ch straeon flachgachol. Unarddeg heno. Gwrandewch, neu mi ddo'i draw i pebbledashio eich waliau.

Hwyl a Pharch

Rhestr chwara Lisa

Categorïau:

Gareth Iwan | 10:28, Dydd Mawrth, 27 Ionawr 2009

Sylwadau (0)

Helo bawb

Dyma restr o'r caneuon nath Lisa chwara nos Wener:

1. Yr Ods - Defnyddio

2. Sibrydion - Desperado

3. Jen Jeniro - Hulusi

4. Mr Phormula - Mor o Miwsic

5. PSI - Suddo

6. Antony And The Johnsons - Kiss My Name

7. Llongau - Seren Ddu

8. Eitha Tal Ffranco - Organ Aur Huw

9. The Joy Formidable - The Last Drop

10. 9 Bach - Myn Mair

11. Dileu - Hwylio

12. The Long Lost - Amiss

13. Colorama - Dere Mewn

14. Alun Tan Lan - Cymylau

15. Rufus Mufasa - Boi Drwg

Mi fedrwch chi wrando eto yn fama!

Nos Iau yma, sgwrs hefo Owain Messner am ei brosiect newydd "Dileu", a nos Wener - sesiwn PSI!

Cofion

Gar

'Sori Nia, ti jyst ddim yn gweddu'r fformat!'

Nia Medi Nia Medi | 16:46, Dydd Iau, 22 Ionawr 2009

Sylwadau (0)

Shwmae? Wel dyma fi yn fy nhrydedd wythnos yn cyflwyno C2 ar ol y noson gyntaf o'n i'n siwr y bydden i'n cael yr un profiad a Kelly Brook yn Britiain's got talent', gyda tim cynhyrchu C2 yn dwued 'sori Nia, ti jyst ddim yn gweddu'r fformat!'.

Ond, dwi dal yma ac yn mwynhau mas draw, yn darganfod cerddoriaeth a gwesteion newydd diddorol, a chofio peidio rhegi ar yr awyr...

Dwi wedi dechre ffeindio fy ffordd rownd adeilad BBC yn llandaf erbyn hyn, i ddechrau nes i fynd ar goll yn llwyr, mynd lan a lawr gwahanol liffts, bron a cherdded mewn a thorri ar draws rhaglen Chris Needs a stymblo ar set Pobl Y Cwm.

Fe ofynodd y Cynhyrchydd i fi sgwennu Blog tua wythnos yn ol, a dyma fi o'r diwedd yn eistedd lawr i neud achos fi'n hollol 'pumped up' ar ol neidio ambyty'r lle fel ffwl yn neud 'Pump it up Minsistry of Sound Work Out DVD' a hyn ar orchymyn fy chwaer ar ol iddi hi bwyntio allan mod i'n edrych fel Twba ar ol Nadolig! Ges i ofn ar un adeg mod i'n mynd i syrthio drwy to y lolfa tra'n neud yr ymarfer yn fy 'stafell wely, ond roedd y llawr yn solid chware teg.

Ydy, mae wedi bod yn 3 wythnos gret hyd yn hyn, gyda gwesteion gwych fel Ed Holden i ddechrau (gynt o Pep Le Pew a Genod Droog) wnaeth rhoi gwers Bit bocsio i fi ar yr awyr. Ac er roedd fy nghais i i wneud swn 'Snare drum' gyda fy ngheg yn swno mwy fel rhech mewn bath, roedd Ed yn neis iawn am y peth chware teg! Mae ei EP e fel artist unigol allan yn fuan 'Mor o Miwsig' ac ma' pob swn ar yr EP yn dod o'i geg. Mae e mor dda, o'n i rili yn meddwl fod e'n dweud celwydd...ond dyw e ddim.

Cwpwl o fands hollol gwych a newydd dwi wedi bod yn chwarae ar yr awyr hefyd yw Kiddo 360 a Peggy Reloades. Band Hip Hop-funk-fusion o Abertawe yw Kiddo 360, wnaeth ennill gwobr cerddoriaeth byw Vodafone llynedd gyda bandie fel Take That, Primal Scream a'r Pussy Cat Dolls hefyd yn enillwyr gwyliwch y gofod achos dwi'n meddwl y byddan nhw yn y siartiau Prydeinig o fewn y flwyddyn nesaf. Allwch chi glywed 'i stwff nhw ar www.myspace.com/kiddo360 ac ma'r Trac 'Inside Smiling' yn bownd ogael chi ddanso a chanu'r gytgan ar ol y gwrandawiad cyntaf.

Band arall sydd wedi gwneud argraff enfawr yw 'Peggy Reloades' o ardal Rhydaman. Band Rock eitha' trwm yw'r band yma ond sydd hefyd yn gwneud defnydd o samplau electroneg a chynhyrchu'r math o ganeuon a swn sy'n haeddu arena llawn o miloedd o bobl yn gwrando. Ma'r trac 'Hypnosis' yn cymryd sample o gan 'Sugababes', 'Too Lost' ac ma'r canlyniad yn un fyddde chi fyth yn disgwyl, a chi bownd o gael eich swyno ganddo. Ei myspace nhw yw https://www.myspace.com/peggyreloades ewch yno a rhowch wbod be' chi'n feddwl!

Oherwydd fod gen i duedd i garu cerddoriaeth dawns, ma canwr y band Peggy Reloades (o'r enw Twig, sydd yn digwydd bod yn gynhyrchydd gwych hefyd) wedi cael y dasg gen i i ail-gymysgu caneuon adnabyddus cymraeg ar gyfer rhaglen arbennig fydd yn canolbwyntio ar gerddoriaeth wedi ei ail-gymysgu. Felly cofiwch wrando ar Nos Iau Chwefror 5ed i glywed y remixes yma am y tro cyntaf ar donfeydd radio -ffili aros am y rhaglen!

Dwi hefyd wedi cael fy ngwahodd i sesiwn C2 na, nid sesiwn ganu na recordio, ond trip i Lundain gyda chriw C2 ddiwedd mis Chwefror i wyl Swn Huw Stephens yn yr ICA. Felly mae'n well i fi fynd nol i'r hen 'Pump it up' nawr, er mwyn i'r caloriau ddiflanu a gwneud lle i'r holl lager fyddai'n fownd o yfed ar y penwythnos honno!

Diolch am ddrallen, diolch am wrando...

Eitha Tal Ffranco

Categorïau:

Gareth Iwan | 16:23, Dydd Iau, 22 Ionawr 2009

Sylwadau (0)

Helo

Mae'n werth gwrando ar sesiwn Eitha Tal Ffranco ar raglen Huw Evans ar Radio1 neithiwr - gwych, yn enwedig y fersiwn o Benjamin Bore gan Datblygu.

Mae gan Lisa drac newydd o fath gan Eitha Tal Ffranco ar y rhaglen heno am 10pm - remix Messner o Organ Aur Huw.

Hefyd heno, sesiwn newydd sbon gan Alun Tan Lan

Hwyl

Gar

Bandiau 2009

Categorïau:

Magi Dodd Magi Dodd | 16:05, Dydd Iau, 22 Ionawr 2009

Sylwadau (0)

Helo,

O ni'n meddwl bod hi'n hen bryd i fi sgwennu'r blog yma achos nes i addo g'neud bythefnos yn ôl, ond gan fy mod yn

a) ddiog

b) prysur

c) chwit chwat

ma hi 'di cymryd hyd nawr i'w sgwennu. (Diolch i Siân am fy helpu drwy fygwth y sac os nad o ni'n ei orffen cyn y penwythnos)

Bythefnos yn ôl nath y DJ Esyllt Williams a golygydd cylchgrawn y Selar, Owain Schiavone ddod i stiwdios C2 i adel i ni wbod pa fandie ddyliwn ni edrych mas amdanyn nhw yn 2009.

Dyma'r bandie ma Owain yn meddwl fydd yn fawr eleni:



Zimmermans


Band ifanc o Lantrisant. Nethon nhw sesiwn i

C2 llynedd a oedd yn briliant!

Y band yn gobeithio rhyddhau EP yn fuan yn 2009

Y Promatics

Cyn fand Gwyliwch y Gofod ar C2.

Band ifanc cyffrous 4 aelod o Ddyffryn Nantlle wnaeth sesiwn i C2 llynedd

Just Like Frank

Band 4 aelod o ardal Caerdydd. Hollol carismatic ac yn wych yn fyw.

Cyn fand Gwyliwch y Gofod ar C2



Byd Dydd Sul


Band o ardal Casnewydd sy'n gobeithio ryddhau EP ddiwedd Chwefror.

A dyma'r bandiau ddewisodd Esyllt:

Convoi Exceptionnel

Band roc a hip - hop arbrofol gyda'r aelodau yn dod o Aberystwyth a Glasgow. Eto, un o gyn - fandiau Gwyliwch y Gofod ar C2

Johnny Horizontal

Band 4 aelod o ardal Dinbych a'r cyffiniau a ffurfiodd yn 2005 - Hefin, Dafydd, Guto ac Owain. Am fwy o fanylion.... Gwyliwch y Gofod

Creision Hud

Band ifanc o ardal Caernarfon ffurfiodd ryw 2 flynedd yn ôl. Nath y band ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Maes B yn 2007 ac fel rhan o'i gwobr, nath y band recordio sesiwn . Gafodd ei sengl 1af - 'Ffyrdd Gwyrdd' - ei ryddhau ar label Ciwdod llynedd.



Zimmermans


Ma Esyllt hefyd yn disgwyl pethe mawr gan y band ifanc o Lantrisant



Am, ar at, i o gan........

Categorïau:

Glyn Wise Glyn Wise | 18:43, Dydd Mercher, 21 Ionawr 2009

Sylwadau (0)

Reit, dwi yn teimlo lot gwell rwan ar ol penwythnos o adolygu ar gyfer prawf gramadeg hiraethus Cymraeg. Er, doedd o ddim yn llawer o bwrpas oherwydd nes i eistedd na'gyda cwestiynnau oedd yn gwneud dim synhwyr am dday awr. Y cwestiwn oedd 'beth yw pwysigrwydd dyblu'r 'n' yn y iaith Gymraeg, WHATEVER! Hahaha!

Cefais penblwydd gwych yn Jumping Jacks Caerdydd lle oedd pawb wedi gwisgo mewn bagiau bin, noson wyllt! Ond, roeddwn yn falch na fu i mi daflu fynu na dim, just dawnsio fel rhyw moron a trio mynd off efo pawb yn y clwb. Cwilydd gweld pawb y diwrnod wedyn. Roedd y diwrnod i gyd yn wych, cinio efo criw C2, nofio yn y bae ar y sleids i gyd ac yna pawb yn mynd allan. Ciwrnod i'w gofio!

Es i nofio yn Abertawe gyda fy ffrindiau. Mae reid gwych lle rwyt yn eistedd mewn 'rubber ring' a mynd mewn tiwb gyda pwer y dwr yn dy wthio fel roller coaster. Ond, y peth mwya hillarious dwi erioed wedi ei weld oedd dyn, canol oed, moel a tew mewn speedos yn disgyn oddi ar y 'rubber ring' a gwaeddi "Excuse me Mr.Lifeguard I have fallen off" a bachgen 18 yn gorfod mynd mewn i'r tiwb i'w nol o. Nes i bron a gwlychu fy hun! Edrych ymlaen i ddweud y stori i'r genedl heno, sgwni beth fydd ymateb Magi ar C2 heno am 8 o gloch.

Shafio yn llwyddiant...

Daniel Glyn | 15:38, Dydd Llun, 19 Ionawr 2009

Sylwadau (1)

Shwmae pawb, wi'n teimlo yn smug iawn ar hyn o bryd (smugach nag arfer 'se rhai yn dweud, a pan wi'n gweud 'rhai' wi'n meddwl 'pawb'.) Pam? Achos dwi wedi llwyddo cadw at fy adduned blwyddyn newydd. Dros y dolig edryches i ar fy hun yn y drych a gweld boi byr gyda stubble bler, bol cwrw, a smokers cough. Odd angen tro ar fyd. Edryches i i fyw fy llygaid, ac addo i fy hun mod i am shafio mwy. Dwi nawr wedi bod yn hollol lan ers ionawr y cynta. Rhywun sydd ddim yn lan, ond yn wir yn fudr tu hwnt yw Marc Real, a hir oes i hynny. Fydd e ar fy rhaglen nos Fercher yn tynnu flewyn o drwyn. Y gobaith yw y bydd bach o snot a mymryn o waed ar ben y blewyn, gan taw rhain yw'r rhai sy'n sgorio ucha mewn cystadleuaethau pigo trwyn. Ma'n anodd disgrifio rhaglen nos fercher yma, achos dyw e heb ddigwydd eto, a sa'i moen addo unrhwybeth o flaen llaw. Ond fedra'i eich sicrhau o un peth. Mi fydda'i wedi shafio.



hwyl



Daniel Glyn

Gig Gwilym Morus

Categorïau:

Gareth Iwan | 14:25, Dydd Iau, 15 Ionawr 2009

Sylwadau (0)

Heno am 10pm ar raglen Lisa Gwilym, bydd uchafbwyntiau gig lansio The Dressing Gown Goddess sef albym ddiweddaraf Gwilym Morus. Dyma restr o'r caneuon byw fydd ar y rhaglen -

Set Acwstic:

Doeth a Ffol

Siwan

Baled

Set band llawn:

Awen Boeth

Decline

Dy Gysur Di

Dinas Bangor

O Sierra

Mwynhewch

Gar

Adolygiad Kino Ankst

Categorïau:

Gareth Iwan | 11:47, Dydd Mawrth, 13 Ionawr 2009

Sylwadau (0)

Mae'r adolygiad yma gan Dewi Prysor yn hynod ddifyr

Plant Duw - Bangar!

Categorïau:

Huw Stephens Huw Stephens | 11:39, Dydd Mawrth, 13 Ionawr 2009

Sylwadau (0)

Glywsoch chi seshwn swynol a soffistigedig Colorama? Wedi ei chynhyrchu gan Edwyn Collins? Os na, ewch fan hyn mor gyflym ag sydd yn eich gallu.

Wedi cael fy nghlustie rownd albym hir hir hir ddisgwyledig Plant Duw. Mae Y Capel Hyfryd yn, ac esgusodwch y defnydd o un air i'w ddisgrifio, "Bangar". Mae'r melodiau, yr offerynnu, yr agwedd, y cyflymdra a'r darnau tawel arall-fydol yn wych. Mae Cate le Bon yn troi lan fel syndod neis. Mae na deimlad mae hon ydi'r albym mae Plant Duw wedi bod yn gweithio ar a wedi bod yn meddwl am drwy gydol eu hoes fel dynion ifanc. Dim ond mater o angenrheidrwydd oedd mynd mewn i'r stiwdio gyda Dyl Mei i'w chwblhau.

Llongyfarchiadau Plant Duw.

Dwi'n teimlo'n hen

Categorïau:

Gareth Iwan | 14:21, Dydd Llun, 12 Ionawr 2009

Sylwadau (0)

Mae hi'n 25 mlynedd ers rhyddhau'r album gynta Now That's What I Call Music. Dwi'n meddwl mai'r cynta dwi'n ei gofio ydy tua Now 7. Ma na bellach Now71. Pa un da chi'n gofio?

Rhestr traciau neithiwr

Categorïau:

Gareth Iwan | 09:34, Dydd Gwener, 9 Ionawr 2009

Sylwadau (0)

Helo

Yn achlysurol, fe fydda i'n rhoi rhestr tracia Lisa yn fama, i roi ryw syniad pa fath o gerddoriaeth da ni'n ei chwarae. Os da chi wedi clywed trac ar unrhyw raglen ac am gael gwybod mwy amdani, mae croeso i chi ebostio

1. Creision Hud - Ffyrdd Gwyrdd

2. Threatmantics - Little Bird

3. Plant Duw - Dihiryn Y Gwanwyn

4. Y Llongau - Nawr Does Dim

5. Eitha Tal Ffranco - O! Bendigedig

6. Mr Phormula - Voicebox Wizardry

7. Stilletoes - Y Gwir

Cyfweliad Emyr Ankst

8. Gorkys - Diamonds O Monte Carlo

9. Sibrydion - Femme Mental

10. Dafydd Ap Llwyd vs Dubrobots - O Fri

11. Colorama - Dere Mewn

12. Stooges - I Wanna Be Your Dog

13. Gwilym Morus - Ednyfed.

Mi fedrwch chi wrando eto ar y rhaglen yn fama

Hwyl

Gar

Blwyddyn newydd, a lot o fandiau newydd!

Categorïau:

Robin Owain Jones Robin Owain Jones | 16:14, Dydd Mercher, 7 Ionawr 2009

Sylwadau (2)

Helo bawb!

Blwyddyn newydd dda, llond y ty o ffa - blwyddyn newydd ddrwg, llond y ty o fwg... a'i dyna'r dywediad cywir? On i'n siarad am hyn efo Magi ar y rhaglen neithiwr - pam fod cael llond ty o ffa yn flwyddyn newydd dda? Mi faswn i'n casau cael llond ty o ffa - cael dan draed a mewn i bob twll a chornel, a mi faswn i'n eu ffeindio am flynyddoedd wedyn wedi eu stwffio lawr gefn y soffa a ballu!

P'run bynnag, mae 2009 yn argoeli i fod yn flwyddyn wych arall o fandiau newydd cyffrous yma yng Nghymru. Artist Gwyliwch y Gofod cyntaf 2009 oedd Mark Back - canwr-gyfansoddwr ifanc o Gaernarfon, sydd a chaneuon acwstig neis ar ei broffeil myspace. Ewch i adran Gwyliwch y Gofod i ddarganfod mwy!

Na'i ddim dweud gormod, ond mi alla'i addo bod bandiau newydd gwych ar y ffordd dros yr wythnosau nesaf - dwi'n edrych ymlaen yn arbennig i roi sylw i gerddor sy'n byw yn Llundain ar hyn o bryd, ond yn dal i gyfansoddi a recordio caneuon Cymraeg - stwff da iawn.

Dyna ni am y tro, ond cofiwch - os yda chi mewn band newydd sy'n awyddus i gael sylw yn y slot Gwyliwch y Gofod yna cysylltwch a ni trwy e-bostio c2@bbc.co.uk.

Hwyl,

Robin



Lle gai pic'n'mics fi nawr???....

Categorïau:

Magi Dodd Magi Dodd | 15:48, Dydd Mercher, 7 Ionawr 2009

Sylwadau (0)

Hei,

Blwyffyn newyff ffa i chi gyd!

2009... gosh - nag yw amser yn hedfan? Serch yr holl adroddiade' negyddol yn y papure bo'r flwyddyn yma'n mynd i fod yn ofnadwy gyda'r wasgfa ariannol a bygythiad y dirwasgiad - fi'n mynd i drio aros yn bositif. Fi wastad di bod yn sgint felly all pethe ddim mynd lot gwaeth eleni. Ma fy ngwydryn i yn mynd i fod yn hanner llawn yn ystod 2009...

Ond ar ôl dweud hwna fi bach yn gutted bo Woolworths wedi cau. Woolies oedd calon tref Ponty'. Dyna lle o ni gyd y cwrdd ar b'nawn Sadwrn. Dyna lle o ni'n mynd i brynu sengle bob wythnos. O fi'n cal £2 arian poced a bob wythnos o ni'n prynu un sengl ac yn defyddio'r gweddill i brynu pic'n'mics. Yr wye wedi ffrio odd fy hoff pic'n'mics. Reina a'r cola-bottles gyda sigwr arnyn nhw. Ahhh - dyddie syml, dyddie da.

Son am losin, fi a Wisey ar y ffordd i westy yn y Fro i gwrdd â Richard Hughes sy'n hyfforddwr personol i Girls Aloud, Michael Flatley a thîm rygbi y Gleision. Nes i anghofio bo ni'n mydn i weld e - a fi'n gwisgo ffrog sy'n neud fi edrych fel bo fi ar fin cal babi. Ond dydw i ddim yn mynd i gael babi. Fi just yn dew. Ond fi ddim yn mynd i boeni. Ma fy ngwydryn o coca-cola (full-fat) yn hanner llawn....

Chin chin

Magi



Ron Asheton o'r Stooges

Categorïau:

Gareth Iwan | 09:41, Dydd Mercher, 7 Ionawr 2009

Sylwadau (2)

Newyddion trist iawn i ffans y Stooges. Bydd Lisa'n chwarae trac ar y rhaglen nos Iau - oes gan unrhywun awgrymiadau am drac y dyle ni chwarae?

Caneuon newydd Y Llongau

Categorïau:

Gareth Iwan | 16:42, Dydd Mawrth, 6 Ionawr 2009

Sylwadau (0)

Helo bobol

Dwi wrthi'n gwrando ar sesiwn newydd Llongau i raglen Lisa, ac mae'n hollol wych. Llongau ydy prosiect newydd (ish) Dyl Mei, ac mi ddylwn i ddeud yn syth mod i wedi gweithio lot hefo Dyl yn ddiweddar felly mae'n bosib nad ydw i'n gwbl ddi-duedd OND mae'r caneuon yn gret. Fel sa chi'n ei ddisgwyl mae'r cynhyrchu yn anhygoel - ma na ambell i foment gwirioneddol epig ar y caneuon, ond yn ddifyr iawn ma na hefyd adega lle ma'r geiria falla'n dangos ochr mwy bregus, emosiynol i Mr Dyl Mei. Ma na swn eitha llawn i'r caneuon - samples llinynnol, gitars, piano ayyb, ond does dim o ochr bombastic y Genod Droog yn fama - mae'n swnio'n llawer mwy didwyll. Dwi'n ama cewch eich synnu, a'ch siomi ar yr ochr ora.

Mi fydd y sesiwn ar raglen Lisa nos Wener nesa, Ionawr 16.

Hwyl

Gar

Vinyl 7 modfedd

Categorïau:

Gareth Iwan | 11:44, Dydd Llun, 5 Ionawr 2009

Sylwadau (0)

Stori bach ddifyr am hanes senglau 7 modfedd.

Gyrru 'demos' at raglen Lisa

Categorïau:

Gareth Iwan | 10:06, Dydd Llun, 5 Ionawr 2009

Sylwadau (0)

Blwyddyn newydd dda bobol!

Diwrnod cynta nol yn y gwaith, a'r peth cynta dwi angen ei wneud ydy gweld pwy sydd wedi bod yn gwneud be dros y gwylia - oes na unrhyw fandia wedi bod yn recordio, trefnu gigs neu unrhywbeth arall difyr. Dwi di gyrru ebost i ryw ddwsin o fandiau, felly gawn ni weld be ddaw yn ol...

Dwi hefyd yn awyddus iawn i glywed gan fandiau newydd, felly os da chi mewn grwp o unrhyw fath, bysa'n gret cael unrhyw draciau newydd. Mi fedrwch chi yrru mp3 ata i ar ebost neu yrru CD at Gareth Iwan Jones, BBC Radio Cymru, Bryn Meirion, Bangor, LL57 2BY. Dwi hefyd ar myspace

Felly gyrrwch eich caneuon asap!!!

Ar raglen Lisa nos Iau, dwi'n trio trefnu sgwrs am noson Kino Ankst sy'n digwydd nos Wener yn Galeri.

Cofion

Gar