Archifau Mawrth 2009

Gwobrau RAP 2009

Categorïau:

Gareth Iwan | 11:07, Dydd Mawrth, 31 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Ymddiheuriadau am y ddiffyg blogio yn ddiweddar - dwi wedi bod yn brysur braidd yn helpu i drefnu rhaglen Gwobrau RAP 2009. Does dim noson/seremoni wobrwyo eleni, ond mae ganddom ni dair awr o raglen arbennig nos Wener rhwng 8pm ac 11pm. Yn amlwg fe fydda ni'n cyhoeddi'r ennillwyr yn yr 13 categori, ond hefyd fe fydd na sesiynau newydd sbon, a thraciau newydd exclusive gan un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru.

Nos Wener dwytha fe ges i'r fraint o recordio sesiwn acwstic o ganeuon newydd sbon hefo Heather Jones, sydd wedi ennill y Wobr am Gyfraniad Arbennig eleni. Roedde ni i gyd mor falch dros Heather - yn amlwg mae ganddi lais hyfryd a chwbl unigryw, ond mae hi hefyd yn un o'r artistiaid mwyaf diymhongar dwi'n ei adnabod. Fe fydd 'na fideo o gyfweliad Lisa Gwilym, a fideo o'r sesiwn, ar wefan C2 yn fuan.

Rhywbeth arall cyffrous da ni'n drefnu ar gyfer RAP eleni ydy'r rhaglen sylwebu ar y we. Tra bydd Magi a Hefin yn cyflwyno'r brif raglen, fe fydd Huw Evans a Dyl Mei yn rhoi eu barn ar yr artistiaid sy'n ennill. Fe fydd hi'n ddifyr iawn clywed eu sylwadau.

Fe fysai hefyd yn neis cael eich barn chi ar y noson - ebostiwch ni i adael i ni wybod be da chi'n ei feddwl o'r dewisiadau mae'r panel wedi ei wneud

Cofion

Gar

Mared Lenny

Categorïau:

Nia Medi Nia Medi | 15:42, Dydd Mercher, 25 Mawrth 2009

Sylwadau (0)



Ma' Mared Lenny ar fy rhaglen i nos Wener, a gan fy mod wedi recordio'r rhaglen, allai ddatgelu bod hi'n cyhoeddi newyddion hollol gyffrous ac annisgwyl yn ystod y sioe!



Gwnewch yn siwr eich bod yn gwrando nos wener 11 - 1yb i glywed beth sydd ganddi ar y gweill! Do'n i ddim yn disgwyl hyn o gwbwl...ond mor falch i glywed y newyddion!



Edrych ymlaen i glywed ymateb pawb a dwi'n siwr fydd y newyddion ar wefusau pawb erbyn bore dydd Llun!



Nia

xx

Prosiect newydd Geraint Ffrancon

Categorïau:

Gareth Iwan | 10:20, Dydd Sadwrn, 21 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Helo

Dwi fewn hefo Richard Rees bore felly'n mwynhau clasuron y 60au, 70au a'r 80au. Newydd gael Yr Eryr A'r Golomen gan Meic Stevens. Gwych.

Neithiwr ar C2 fe gafodd Lisa sgwrs hefo Geraint Ffrancon am ei brosiect newydd Ffranconstein. I drio esbonio syniad eitha cymleth yn gyflym, mae'n cynnig y cyfle i artistiaid o bob math, unrhywle yn y byd, i gyd-weithio gydag o ar ei CD. Bydd pob artist yn talu £10 am y profiad, ac wedyn yn derbyn CD personol. Mae'n werth gwrando nol ar y sgwrs - tua 24 munud i fewn i'r rhaglen!

Da ni am drio cyd-weithio hefo Geraint drwy gynnig syniadau i'r prosiect - gawn ni weld be ddigwyddith...

Cofion

Gar

Brwydr y Bandiau...

Categorïau:

Glyn Wise Glyn Wise | 22:00, Dydd Mercher, 18 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Heb ysgrifennu ers stalwm oherwydd fy mod i wedi bod ar daith i'r gogledd a'r canolbarth i gyflwyno Brwydr y Bandiau. Roedd y safon yn wych yn y gogledd, a roedd yn dda gweld bod talent ar ei ffordd. I feddwl bod y bandiau yn ifanc, roedden nhw'n well perfformwyr na rhai o fandiau sydd wedi bod o gwmpas ers blynyddoedd! Rwy'n llawn cyffro ar gyfer sioe fawr y rowndiau cyn derfynol ar C2 wythnos nesa. Fydd o'n wych!



Arwahan i hynny, es ar Uned 5 dydd gwener - neis gweld pawb eto. Roeddwn i, Lisa Gwilym a Daniel Glyn ar y sioe, felly C2 oedd Uned 5! Oh Ie, rwy'n 5ed ar 'her y ser' - yn amlwg mae'r holl wersi gyrru wedi cael effaith, a na, dydw i ddim yn cael trafferth gyda fy chwith a dde rwan! Mae hynny yn sgil rwyf wedi ei feistrioli dros y misoedd diwethaf. Hahaha!



Heddiw yn ddiwrnod heulog dros ben. Cymerais rhan mewn cystadleuaeth tenis 'dwblau i ddynion'. Roedd yn wych cael chware yn y gwres, er y bu i mi a fy mhartner Wing golli yn y rownd gyntaf 6-2, 7-6 (colli i 4 yn y tie-brêc) -oll oedden ni isho odd mefus a hufen ac yna byddwn fel fy mod i'n chwarae yn Wimbeldon (yn y dychymyg felly hahaha). Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod arbennig, mae fel petai fy mod i mewn gwlad gwahanol, gwers sbaeneg y bore ma' a haul poeth am unwaith yn edrych arnaf yn chwarae tenis heb fy nhop ymlaen. Bywyd yn fantastic!

Hwyl am y tro

Glyn

x

Band newydd Dyl Mei angen cantores

Categorïau:

Gareth Iwan | 13:38, Dydd Mawrth, 17 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Helo

Newydd fod ar Facebook efo Dyl Mei (cyn-aelod y Genod Droog a chynhyrchydd lot o fandiau eraill) a da ni'n dau wedi dod i'r casgliad fod angen band newydd pop Cymraeg i lenwi twll grwpiau fel Frizbee, Swci Boscawen, Genod Droog ayyb.

Dwi wedi bod ddigon gwirion i gynnig Sesiwn C2 i'r band dychmygol yma os fedrith o ffurfio band pop gwych cyn i Stiwdio Blaen y Cae gau am y tro olaf mis Ebrill. Felly, os da chi isho canu/chwara ym mand newydd Dyl Mei, ebostiwch fi ac fe wnai basio eich manylion ymlaen!!

Yn benodol, ma Dyl ffansi hogan i ganu - cantores hefo bach o "grit" sy'n edrych yn dda (!), ac sydd dros 18 i fedru mynd i leoliadau'r gigs. Hoffai Dyl ddeud hefyd nad ydy o eisiau neb o'r enw "Julie" yn y band, felly ymddiheuriadau Julie, ond chei di ddim canu.

Felly, os da chi awydd bod ar y recordiad olaf o Blaen y Cae, ebostiwch

Diolch

Gareth

Pethe eitha diddorol

Categorïau:

Huw Stephens Huw Stephens | 10:52, Dydd Llun, 16 Mawrth 2009

Sylwadau (0)



1. Mae albym Super Furry Animals mor dda a ma pawb yn deud. Mwy o syniade, hiwmor, cynhyrchu gwych. Hoff gan? Falle Pric neu Inaugral Trams.

2. Es i i weld Threatmantics yn chware wthnos dwytha eto. Di gweld nhw dros deg gwaith erbyn hyn. Mae ei tiwns yn swnio'n fwy seicadelic yn ddiweddar, sydd dim yn beth drwg.

3. Fi a fy ffrind John yn trefnu taith Swn rownd Cymru. Shhhh. Peidiwch deud bod fi wedi dweud. Mae John yn dysgu Cymraeg. Son am hynny, fi di dechre Gair cymraeg y dydd ar Twitter. Hwyl a sbri.

4. Fi'n edrych mlaen i'r Sdeddfod yn Bala. Fi mynd i djo yn Maes B un noson.

5. Fyddai'n mynd i wyl South by South West yn Austin, Texas wthnos yma. Pedwerydd tro fi allan yne, cannoedd o fandiau yn chware allan yne, dim sy'n canu'n Gymraeg eleni (mae Cate le Bon, Gentle Good di bod allan yne'n ddiweddar), nai ddod a'r tiwns gore adre gyda fi.

6. Nes i joio seshwn Endaf Presli yn ddiweddar, yn enwedig Y Wawr.

Hwyl

Xh

Can newydd SFA

Categorïau:

Gareth Iwan | 16:18, Dydd Mawrth, 10 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Helo bawb

Newydd fod yn gwrando ar gan newydd y Super Furries - Inaugural Trams. Mae'n fy atgoffa fi fwy o stwff Neon Neon na SFA am ryw reswm. Falla fod llais (neu berfformiad) Gruff yn swnio'n debyg i'w lais ar Stainless Style? Neu falle gan fod y gan wedi ei chynhyrchu mewn ffordd "poppy" iawn, hefo lot o synths a llai o swn gitar roc nag oeddwn i'n ei ddisgwyl? Dyna fy argraff gynta beth bynnag. Bydd Lisa'n chwarae'r gan nos Iau - byddai'n ddifyr cael eich ymateb i'r gan...

Gar

Gwrando ar yr i-player

Categorïau:

Gareth Iwan | 11:29, Dydd Llun, 9 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Helo na

Os da chi'n licio gwrando nol ar raglenni drwy'r i-player, dyma rai awgrymiada!

Hoax a Dybl-L yn "free-style-io" ar raglen Cravos. Dwi erioed wedi clywed dim byd tebyg - ewch i tua 16'50 i wrando

Mi oedd Dyl Mei yn ddifyr a didwyll yn son am ei gyfnod yn Stiwdio Blaen y Cae ar raglen Lisa nos Iau. Hefyd ar y rhaglen, aelodau o KAFC, Texas Radio Band, Cowbois Rhos Botwnnog a llawer o artistiaid eraill yn rhannu atgofion am y stiwdio.

Cian Ciaran oedd ar raglen Lisa nos Wener yn son am yr album newydd Dark Days / Light Years! Mae'r cyfweliad tua 26'15 munud i fewn i'r rhaglen

Ac mae'r wobr am y darn mwya swreal o radio yn mynd i raglen Friction ar y BBC Asian Network. Mi wnaethon nhw ofyn i Lisa ddewis trac i'w chwarae ar y rhaglen, ac mae'n od iawn clywed Georgia Ruth Williams yng nghanol yr holl Bhangra a hip-hop Asiaidd!! Mae'r clip 1'49'39 i mewn i'r rhaglen

Sibrydion / Sunday Times

Categorïau:

Gareth Iwan | 08:57, Dydd Llun, 9 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Bore da!

Gobeithio y bydd hyn yn arwain at werthu CD neu ddau i'r Sibrydion!

KAFC yn y Ty. Ish.

Huw Stephens Huw Stephens | 10:48, Dydd Gwener, 6 Mawrth 2009

Sylwadau (0)



O'n i yn hoffi Kentucky AFC. O'n i'n hoffi nhw gyment nes i ryddhau eu albym nhw. Roedden nhw'n gwbod sut i rocio, mewn ffordd pynci, 'ramshackle' ond tynn. Nath y band yne orffen sbel yn ol, ond mae'r triawd yn brysur. Wthnos nesa ar C2 bydd dau cyn-aelod Kentucky yn dod ar y rhaglen. Nos Lun bydd Endaf Presli mewn gyda sesiwn newydd sbon; os chi'n hoffi Byw Mewn Bwrlwm, o bosib un o'r tracie mwya hudolus acwstig diweddar, gnewch yn siwr bo chi'n grando.

Ac ar ol bod ar raglen Lisa nos Wener yma gyda sesiwn newydd, bydd Mr Huw mewn nos Fawrth gyda eu albym Hud a Llefrith. Shazam.

Ffan newydd Glyn Wise!

Nia Medi Nia Medi | 10:37, Dydd Iau, 5 Mawrth 2009

Sylwadau (2)

Nes i gyfarfod Glyn Wise am y tro cyntaf ar y ffordd i Lundain gyda chriw C2, ac ers hynny ma' gen i 'soft spot' mawr amdano fe - y person mwyaf naturiol o ddoniol a diffuant dwi wedi cyfarfod ers sbel. Ma'r boi yn legend llwyr a ges i'n atgoffa o pam wnaeth e gyrraedd y brig yn Big Brother 7. Mae e dal yn cael ei 'mobio' gan bobl rownd llundain - doniol oedd gweld 3 merch bron a mynd yn hysterical i weld e ar y tube, gyda Glyn yn dawel ac yn cymryd e'i gyd yn ei stride - ond ei lygaid direidus yn caru pob eiliad! A pam lai: Nid pob person sy'n gallu dweud i nhw serennu yn un o gyfresu mwyaf poblogaidd y byd, ennill cefnogaeth a phleidlais miliynoedd o bobl, dod yn enwog dros nos, a'r cyfan cyn iddo fe gyrrraedd 20ain mlwydd oed! Ma' Glyn yn gallu cael bad press, ac yn rhyfedd iawn, Cymry Cymraeg ei wlad ei hun sy'n rhoi hyn iddo, er iddo ddod a'r iaith Gymraeg yn fyw ac at sylw miloedd o bobl ar Sianel Rhyngwladol a gwasg byd-eang. Fi wastad yn edrych mlaen at ei rhaglen e a Magi - mae mor anodd bod yn naturiol a chi'ch hunan mewn awyrgylch artiffisial stiwdio, ond ma' Glyn (a Magi wrth gwrs!) yn gwneud hyn yn ddi ymdrech ac yn dybl act bril gyda'i gilydd. Fe enillodd e BB am fod e ddim yn ceisio bod yn unrhywun ond fe 'i hunan, ac mae e'n parhau i fod felna nawr. Does dim gair cas ganddo fe weud am neb ac mae ei agwedd at fywyd mor hyfryd o egniol, mae'n bleser fod yn ei gwmni fe a'i glywed e'n malu awyr ar yr awyr! felly os dwi byth allan o waith a ti angen bodygurad neu PR Glyn, ma' gen ti'n rhif i!!

O le daw headliners blwyddyn nesa?

Criw C2 Criw C2 | 19:20, Dydd Mercher, 4 Mawrth 2009

Sylwadau (1)

Hefin

Nath edefyn ar Faes-e yn cwyno am stâd y sin gerddorol Gymraeg fy ysbrydoli i sgwennu fy mlog cynta i C2 felly dyma ni...



Mae'n amser bach digon diddorol i'r sin gerddorol Gymraeg ar y funud - transition phase fel bydde rheolwr pêl droed yn dweud falle. Roedd 2008 yn flwyddyn hynod brysur a llwyddiannus o ran niferoedd yr albyms a gafodd eu rhyddhau ond roedd hefyd yn ddiwedd cyfnod wrth i fandiau profiadol fel Y Rei, Anweledig, Genod Droog, Frizbee a Swci Boscawen roi'r gitar yn y to.



Serch hynny, ers i fi ddechrau cyflwyno ar C2 dwi wedi synnu cymaint o diwns gwych gan fandiau newydd ifanc sydd o gwmpas ar y funud. Am bob un o'r hen stejars sydd wedi mynd i'r aftershow party mawr yn y nefoedd ma na fand ifanc sydd â thraciau cystal os nad gwell ar eu Myspace, er enghraifft Yr Ods, Creision Hud, Wyrligigs, Byd Dydd Sul, Nos Sadwrn Bach, Just Like Frank, Adrift, Zimmermans ayyb. Felly o ran cynnyrch wedi'i recordio dwi'n meddwl fod na ddigonedd o ddewis o stwff da ar gael.



Ochr arall y geiniog yw'r gigs sy'n digwydd (neu ddim yn digwydd!). Tra bod ambell grwp fel Brigyn yn brysur tu hwnt (7 gig ym mis Ionawr, 3 yn Chwefror) dwi'n dueddu i feddwl fod llai o brysurdeb gigs i gymharu â'r blynyddoedd diweddar. Yr hyn sy'n taro fi yw nad oes llawer o gigs yn digwydd sy'n cynnwys y bandiau ifanc uchod. Y broblem gyda hyn wrth gwrs yw tra fod headliners fel Derwyddon (oedd yn wych yn ICA Llundain wythnos dwetha gyda llaw), Sibrydion, Plant Duw a Gwibdaith yn gallu tynnu torf ar y funud, beth sy'n digwydd os ma rhain yn chwalu?



O le y daw'r headliners nesaf felly? Atebion ar gerdyn post plis...

Hefin Thomas

Traethawd

Glyn Wise Glyn Wise | 18:33, Dydd Mercher, 4 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Hiya,

Fel dywedais wythnos diwethaf, rydw i wedi bod yn 'swot' wythnos yma. Treuliais oriau yn llyfrgell y Brifysgol yn gwneud fy nhraethawd. Ew, mae eistedd lawr, trochi fy llewis a swotio yn ddigon i fy ngwneud yn wirion. Mae arogl hen lyfrau wedi pydru yn gwneud fi'n sal.

'Ai agwedd besimistaidd at fywyd oedd gan Kate Roberts'

yw teitl fy nhraethawd, gret! Yr ateb, yn ddigon syml yw ie, mae pob llyfr yn sôn am broblemau bywyd, diffyg arian a colled. Hollol wahanol i agwedd criw C2. Mae bywyd i'w fwynhau a dyna yn union a wnaethom yn Llundain yn gig gwyl swn. Mae y Sibrydion ar Derwyddon yn gwybod sut i rocio! Pawb yn dawnsio efo gwen ar eu gwynebau! Penwythnos ffan-blooming-tastic, hahaha!

Glyn xx

Llwybr Llundain!

Nia Medi Nia Medi | 11:29, Dydd Mercher, 4 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Wel wel am wythnos liwgar, diddorol a dadlenol! Da'th John a Kevs Llwybr Llaethog mewn i stiwdio nos Iau diwethaf a rantio fod gormod o gerddoriaeth acwstig a dim digon o electro yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru ar y foment, yn enwedig gan ferched - felly dwi am wneud ymbil i artistiaid mas na ar eu rhan nhw ac ar gyfer fy sioe i - rhowch eich hetie a sgidie electro ymlaen, does dim digon o stwff o'r genre gwych yma gen i i chware ar y rhaglen a bydden i'n caru chware bands/artistiaid newydd yn y maes yma - Ble mae'n Alison Goldfrapp a'n Róisín Murphy ni??

Roedd John a Kevs yn Lysh fel arfer a bril i ddargnafod pa mor wahanol mae'r ddau - blas hollol wahanol mewn cerddoriaeth a'r ddau yn dadle pwy oedd y chef gorau yn y ty! Felly fe wnes i bagio gwahoddiad i fynd draw i 'Gwesty Gedry' ryw noson yn fuan i adolygu'r bwyd! Ma albym newydd ar y ffordd hefyd o'r enw 'chwanag' gyda'r artistiaid arferol (Ed holden, Steffan Cravos, Cofi Bach etc) yn perfformio arno ond hefyd bydd Lleuwen Steffan a'r awdures Catrin Dafydd yn gwneud ei debut gyda'r band a fi methu aros i glywed yr albym! Cofiwch edrych mas ar wefan C2 i weld newyddion am yr albym newydd.

Ond ma'r ddau ma' nid yn unig yn gynhyrchwyr prysur ond hefyd yn guradon gwadd mewn arddangosfa gerddoriaeth newydd yn Sain Ffagan fydd yn agor yn Oriel 1 yn yr amgueddfa ar Awst 1af. Enw'r arddangosfa yw 'Pop Peth' ac os i chi am gyfrannu unrhyw eitemau cerddorol sy'n dewud ryw stori ddiddorol neu sydd jyst yn arbennig yn eich barn chi, yna rhowch showt i ni fan hyn yn C2 a wnawn ni rhoi chi mewn cysylltiad gyda Llwybr Llaethog. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Amgueddfa Cymru.

Yna Nos Wener diwethaf daeth yr actores Mared Swain (carys Jenkins ar Pobl y Cwm ) mewn i'r stiwdio mewn storm o bits techno am mae hi oedd yn dewis y gerddoriaeth - ma chwaeth ffantastic gyda hi ac roedd yn rheswm brill i fi chware pethe fel Ben Folds, Killers, Hanner Pei ac wrth gwrs, lot o stwff techno hollol 'Bangin''! Na gyd o'dd angen o'dd cwpwl o glowsticks er mawr ddiflastod i Robin y cynhyrchydd - does dim chwaeth da fe o gwbwl!

Bu Mared yn son am ei gwaith hi gyda Cwmni theatr Dirty Protest neu Protest Fudur - dyma un o gwmniau theatr mwyaf cyffrous y wlad ar hyn o bryd. Pa gwmni arall chi'n nabod sydd yn dechrau ei nosweithiau gyda DJ yn chware stwff techno/electro/dawns tra bod chi'n cael cwpwl o beints, yna perfformiad theatrig o ryw awr gan awduron newydd ac actorion profiadol, ac yna parti mawr i gloi - a'r cyfan yn llai na phris peint! Felly os chi wedi diflasu ar dalu ffortiwn fach am docyn theatr ac eistedd trwy berfformiadau hirfaeth - dyma'r cwmni i chi!

Ma nhw hefyd yn edrych am awduron newydd i weithio ar brosiect datblygu sydd gyda nhw ar y funud, felly ewch i www.myspace.com/dirtyprotestnight am fwy o fanylion ac i glywed cerddoriaeth gwych lleol ma'r cwmni yn defnyddio.

Yna..fe gyrhaeddodd pnawn dydd gwener, yr awr fawr, lle am 2pm roedd tim c2 yn ymgynull yng ngorsaf drenau Caerdydd a gwneud ein ffordd i Lundain fawr ar gyfer Gig ICA gwyl swn Huw Stephens...ac o'n i'n gwbod bydde bywyd byth cweit yr un peth eto....

Er mwyn hwyluso'r daith fe wnaeth Owain Llyr baratoi cwis, a'r thema oedd 'Underground Llundain' ac o'dd y cwis yn rili rili RILI galed - fydde chi'n gwbod yn union faint o orsafoedd underground sydd yn Llundain neu pa linell yw'r hynaf yn y byd??? (Nes i drio googlo'r ateb ar fy ffon symudoll, ond na'th robin ddal fi)

Owain oedd y cwis feistr, ac ar ein tim ni oedd fi, Magi, Sian Alaw a Glyn Wise. Ar y tim arall oedd Huw, Robin a Sioned.Y tim arall enillodd, er roedd Sian yn brilliant ac mae'n rhaid dweud yr unig un oedd yn cynnig atebion hanner call ar ein tim ni. Ond...roedd Owain y cwis feistr yn biased llwyr am y tim arall - mae'n drueni nad Owain oedd dyfarnwr Cymru V Ffrainc nos wener - bydden ni'n sicr wedi ennill!

Ar ol cyrraedd Llundain a dympio'n stwff yn y gwesty dyma ni'n neud ein ffordd draw i gwrdd a BB Aled mewn bwyty gyfagos. Er bod BB yn gynhyrchydd ar rhaglen Chris Moyles ar Radio 1, mae'n rhaid fi weud mai 'Heels' Magi Dodd wnaeth yr argraff fwyaf arno fi - bydde unrhyw berson normal methu hyd yn oed cerdded ynddyn nhw, ond fe lwyddodd magi neud i fy ngen i syrthio i'r llawr wrth i fi weld hi'n rhedeg ar escalator ynddyn nhw!

Serch hynny, roedd cyfarfod BB Aled yn gret a da oedd gallu trafod Lady Ga Ga mewn manylder gyda fe a Magi!

Wedi cyrraedd y ICA roedd y gig wedi cychwyn ac roedd Derwyddon Dr Gonzo yn brilliant gyda set gyffrous oedd yn amlwg wedi paratoi yn graff - joio mas draw. Sibrydion yn gret hefyd, ond braidd yn fyr oedd y set yma - neu falle oedd Cymru wedi colli erbyn hynny a fi wedi colli pob gobaith!

Trip gwych, edrych mlaen at yr un nesa!



Cwestiynnau i Cian SFA

Categorïau:

Gareth Iwan | 10:32, Dydd Mawrth, 3 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Helo bobol

Dwi'n cael wythnos brysur iawn, ond wythnos hynod o ddifyr. Bnawn Sul nes i recordio sesiwn hefo Mr Huw oedd yn lot o hwyl! Mi oedde nhw'n amlwg wedi bod yn ymarfer (a gigio) yn aml achos mi oedde nhw'n hynod broffesiynol ac yn gret gweithio hefo nhw. Mae na dair can, fydd ar raglen Lisa nos Wener. Bydd y caneuon hefyd ar wefan C2, gyda fideo fach o'r recordio. Ma nhw'n ganeuon tywyll o ran y geirie, ond fel arfer hefo Mr Huw, mae'r

Heno, dwi'n recordio ail raglen Steffan Cravos, a'r gwesteion fydd Hoax a Dybl-L, a da ni'n gobeithio cael rywfaint o free-steilio gan y ddau!

Nos Iau, mae Dyl Mei am ddod i mewn am awr ra raglen Lisa i edrych yn ol ar ei gyfnod yn Stiwdio Blaen y Cae, ac mi fydd o'n dewis ei ffefrynnau o'r CDs recordiwyd yno.

Nos Wener, fel dwi di son, bydd na na sesiwn gan Mr Huw nos Wener, ond HEFYD, bydd Cian o'r SFA hefo ni yn son am yr album newydd. Os oes ganddoch chi gwestiynnau i Cian gadewch nhw fel sylwadau yn fama plis, ac fe driwn ni ofyn un neu ddau wrth Cian ar y rhaglen.

Cofion

Gar

Milch, Milch, Limonade. Um die Ecke Schokolade

Categorïau:

Daniel Glyn | 09:23, Dydd Mawrth, 3 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Helo i fy ffrindiau Almaeneg. Mae wedi bod yn gyfnod prysur, wrth i mi wneud fy ngorau glas i osgoi y rygbi. Am unwaith yn fy mywyd, fi oedd y Cymro mwya rhamantus ar ddydd San Ffolant, achos i mi fynd i ffwrdd am benwythnos gyda'r missus, a chadw'n glir o'r rygbi. Nos Wener dwetha, teithiais yn ôl yn y car o "Uned 5" yn ystod gêm Cymru a Ffrainc. Diolch byth am y diffyg signal radio ar yr A470 dduda'i! Ymunais â grwp 'I hate Welsh rugby' ar Facebook, cyn i mi sylweddoli ei fod wedi ei greu gan ffans chwerw peldroed Cymraeg, a ma rheina'n medru bod yn waeth na ffans rygbi. Felly ymunwch â fi bob nos Fercher, lle fyddai ddim yn trafod rygbi o gwbl. Nos Fercher yma, fydd y gitarydd a'r 'living legend' Myfyr Isaac yn y stiwdio, yn trafod ei yrfa yn y ffurfafen sioe fusnesol, gan gynnwys fod yn gyfarwyddwyr cerddorol i Dewi Pws. A wythnos nesa? Wel, dyma ichi gliw. Yr Arglwydd yw fy mugail....