Eisteddfod 2009
Mae gen i deimladau cymysg am Eisteddfod yr Urdd flwyddyn yma. Ei leoliad sy'n fy mhoeni fwy na dim. Rwyf wedi arfer cael yr Eisteddfod mewn cae mwydlyd yng nghefn gwlad, ond mae'r ffaith ei fod yn y ddinas, yn amgylchynnu canolfan y mileniwm, yn gwneud i'r wyl fod yn wahanol.
Ar y llaw arall, mae'r ffaith fod y cyatadleuwyr yn perfformio ar lwyfan y theatr gora' yng Nghymru yn arbennig.
Roeddwn yno ddydd Mawrth er mwyn hybu ymarfer corff ac i reidio beic gyda helmed. Cefais hwyl yn adran y Cynulliad yn dawnsio gyda 'Gary y crocodeil'. Haha! Roedd o'n teimlo fel bod nôl yng ngwersyll Llangrannog yn dawnsio i Hei Mr.Urdd. Gwych! Mae llawer o atgofion yn dod nol i mi am yr Eisteddfod. Rwy'n cofio straen y cystadlu, yr athrawon difynadd ar mamau oedd yn gwylltio pan oedd eu plentyn yn dod yn ail yn lle cyntaf.
Llwyfan yn Eisteddfod Sir oedd y pella; yr es (ac roedd hynny oherwydd fy mod i mewn deuawd, gyda partner gyda llais arbennig.) O ie, mae hwyl Eisteddfod yr Urdd yn ôl!