Helo bawb!
Newydd adael stiwdio chwyslyd C2 am wythnos arall, ac yr wythnos yma - yn ogystal a'ch cyflwyno i fand 'Gwyliwch y Gofod' newydd sbon - mi oedd yna ail-bit newydd ar y rhaglen.
Beth yw'r ail-bit newydd yma? Wel bob wythnos ar raglen Magi ar C2, mi fydda'i yn son rhywfaint am fideo gan fand Cymraeg sydd i'w wylio ar y wê - fideo gwahanol bob wythnos. Fel mae'r llygoden-beth bach yn yn ei ddweud yn yr hysbyseb yna ar y teledu... "Simples!"
Y fideo gafodd y fraint o fod y cyntaf un yn y slot newydd yma, oedd Genod Droog - Dal Ni Lawr. Rhaid i fi gyfaddef mai hwn yw un o'n hoff fideos i gan fand Cymraeg ERIOED! Mae o dal yn neud i fi chwerthin yn uchel wrth ei wylio fo, ac mae'n dangos ffraethineb a hiwmor y band i'r dim - band oedd mor hynod o cŵl, ond eto ddim yn cymryd eu hunain rhy o ddifri.
Ges i sgwrs efo Ed Holden o'r band ar y rhaglen, a mi soniodd o ychydig am gefndir y fideo - gath o ei ffilmio ar gyfer cyfres 'Bandit ar S4C' nol yn 2007 - un o fideos cyntaf y band, os na Y fideo cyntaf, ac fe gafodd ei gyfarwyddo gan Daf Palfrey (o Hanner Pei).
Cafodd ei ffilmio mewn canolfan hamdden yn Sblot, Caerdydd, ac yn dangos stori y band mewn twrnament badminton o'r 80au - tydw'i wir ddim yn llwyddo i gyfleu pa mor wych yw'r fideo yma drwy sgwennu amdano, felly pam na ewch chii draw i'w wylio drostoch eich hunain:
Fideo Genod Droog - Dal Ni Lawr RHYBUDD IAITH!!
Nos Fawrth nesaf, bydd gen i fand 'Gwyliwch y Gofod' newydd sbon, a mi fydda'i yn rhoi sylw i fideo arall sydd i'w weld a'r y wê. O, a gyda llaw - dwi'n rhoi rhybudd iaith ar y fideo yma, gan fod yr iaith ychydig yn gref mewn mannau.
Tan y tro nesa,
Rob.
Wel nawr, roedd Glastonbury yn lot o hwyl a sbri. Ro'n i'n gweithio ar lwyfan y BBC drwy'r penwythnos. Roedd ne fandie hynod o dda yn chware, yn cynnwys Colorama. Bydd tracs byw o set y band oedd yn cynrhychioli C2 yno ar raglenni arbennig nos iau a nos wener wythnos yma. Roedd y Rogues yn dda hefyd, a fydd Sam James hefyd ar y rhaglen. Mae modd gweld fideos o bawb wnaeth chwarae ar y llwyfan ar www.bbc.co.uk/introducing
Nes i bownsio i Blur, a bloeddio gyda Bruce. Roedd Bon Iver yn bleserus, a Tom o Drefforest yn tremendys. Roedd Neil Young yn ifanc ei ysbryd a Status Quo yn sili. Roedd High Contrast o Benarth yn chware drwm a bas boncyrs o uchel, a Bloc Party yn berffaith.
Mae'n wyl anhygoel. Os chi heb fod a'n gallu mynd; ewch. Unwaith yn eich bywyd, mae'n werth e. I ffwrdd o'r llwyfannau mwy mae gymaint i'w weld. Allech chi fynd drwy'r penwthnos heb weld yr un band a chael amser da. Mae pawb yn yr un cwch.
Clywsom ni newyddion trist iawn heddiw. Bu aelod o Colorama, David Fletcher, farw nos Sul, wedi iddo gyraedd adre o berfformio yng ngwyl Glastonbury. Mae ein cydymdeimlad gyda aelodau Colorama, ei ffrindiau a'i deulu i gyd.
Nes i gyraedd gwyl Glastonbury eleni ar y nos Iau, mewn amser i ddal Gareth Bonello, y Gentle Good. Nath e chware i babell llawn o bobl ( o leiaf mil, os nad mwy) ym mhabell y Queens Head. Nath e set hyfryd, gyda llinynnau yn ymuno gyda fe. Wedyn ath e i Washington ar gyfer wthnos o gigs Smithsonian; mwy am hynny ar C2 wthnos nesa.
Roedd yr Ods yn gwylio Gareth hefyd, cyn eu gig nhw heddiw, ddydd Gwener.

Nes i weld back o Jamie T, a mwynhau set llawn Golden Silvers. Mae nhw'n fand gwych, a'r prif leisydd Gwilym yn amlwg wrth ei fodd gyda'r ymateb; cannoedd tu allan i'r babell methu mynd mewn.
Wedyn, yn y nos, fe ddaeth y glaw. Wedyn, nath Michael Jackson farw. Heddwch i'w lwch.
Helo 'na.
Mi fydd Lisa Gwilym heno rhwng 10pm ac 11pm yn cyflwyno rhaglen arbennig ar gerddoriaeth Michael Jackson. A dyna'r oll dwi'n wybod ar hyn o bryd!! Ddim yn siwr pa drywydd i fynd, pa westeion... Unrhyw awgrymiadau?
Cofion a diolch
Gar
Helo bawb
Maddeuwch i mi os dwi'n dod a newyddion ma pawb wedi ei glywed yn barod, ond rhag ofn nad yde chi'n gwybod.... mi fydd y Super Furries yn chwara gig arbennig i ddathlu penblwydd Prifysgol Bangor yn 125 oed, a hynny yn Neuadd P-J. Dwi'n credu mai ryw 800 o docynnau sydd ar gael - o swyddfa docynnau Galeri.
A bydd Dafydd Ieuan o'r SFA ar raglen Lisa nos Wener i son am y peth!
Cofion
Gar
Dyna lle na'i gysgu. Fi wedi bod yn teithio eitha tipyn yn ddiweddar. Gynta', roedd Caracas, Venezuela ddim yn rhywle ro'n i erioed yn disgwyl mynd iddi. Ro'n i yno i wneud gweithdai radio drwy'r British Council, ac i djo mewn clwb a gwyl enfawr ar y stryd. Roedd y gweithdai yn hwyl ac yn digwydd yn y 'barrios', ardaloedd tlawd iawn gyda gorsafoedd radio wedi talu amdanynt gan y lywodraeth arlywydd Chavez. Roedd un dj yn ffan mawr o reggae felly nes i adael CD Llwybr Llaethog a Geraint Jarman iddo. Roedd djo i 3000 o bobl yn y nos yn brofiad boncyrs i ddeud y lleia.
Ges i ryw 30 CD o gerddoriaeth newydd o Venezuela, yn cynnwys dubstep. Mae'r genre yma yn parhau i ffynnu, ac mae llwyth o gynhyrchwyr diddorol yn torri drwodd. Yn Sonar, gwyl yn Barcelona, yn fwy diweddar, roedd dubstep i'w glywed bob man. Joker, Martyn a'r Gaslamp Killer oedd yr uchafbwyntiau ag ro'n i yna gyda BBC yn cyflwyno.
Fyddai yn Glastonbury ar y pewnthnos - 'twitterwch' fi os chi yne hefyd. O Gymru fydd Colorama, Yr Ods, Gentle Good, Rogues (band newydd Sam o'r Poppies gynt), Gwibdaith Hen Fran a Georgia Ruth Williams yn chware; wthnos nesa fydd fy rhaglenni wedi eu recordio yn Glasto.
Hei,
Mae'n braf.
A phan ma' hi'n braf, ma ton o gynnwrf yn rhedeg drwyddo fi achos dwi'n edrych mlaen gymaint at wylie cerddorol yr haf.
Fi'n edrych mlaen i fynd i Wyl Bedd-llwynnog dros y penwythnos. Bandie gwych yn chware' fel Yucatan, Eitha Tal, Plant Duw, Al Lewis Band, Y Diwygiad a .... drrrrrrrr.... (drym rôl)... Jess! Pa mor cool yw hwna? Fi'n caru Jess - ond dim gymaint a ma Hefin Thomas yn caru Jess. Ma Hef yn rili caru Jess, felly fi'n siwr fydd e yna hefyd. Fydda i a Hef reit yn y blaen, yn gwaeddi canu "Duw fi' moyn giiiitttâr.. fel Jiwliaaaaaa gitâr..."
Llwythi o wylie gwych yn digwydd yr haf hwn - ....co'..... Tudalen Gwyliau'r Haf ar wefan C2
Ma Steddfod Bala yn mynd i fod yn ffab, wrth gwrs. Ma criw c2 mewn Winabegos eleni Ond nid ym Maes B. Ni'n rhy hen. Ni'n gwersylla gyda'r bobol barchus - ond i fod yn onest - ma'r Maes Carafanau yn fwy gwyllt na Maes B. Tu ôl ir bbq's parchus mae'n secs, drygs a roc a rol! (** gyda llaw - fi ond yn jocan)
Os dych chi ddim cweit mor ecsited â fi am y steddfod - gwyliwch y fideo yma, gafodd ei ffilmio yn Steddfod Wyddgrug 2007. Os dyw hwn ddim yn rhoi chi yn y mwd am barti Eisteddfodol - sa i'n gwbod be neith!
Welai chi 'na!
Magi x
O.N - diolch i Owain Rhys, Curadur Bywyd Cyfoes Amgueddfa Werin Cymru am adel i fi roi'r fideo gwych lan ar fy mlog!
Neithiwr, mi oedd 'na raglen ddiddorol ar S4C - O Flaen Dy Lygaid hefo David R Edwards a'r actores Ree Davies.
Dyma'r disgrifiad o wefan S4C: "Beth yw'r cysylltiad rhwng iechyd meddwl a chreadigrwydd? Dau artist, y cerddor David Edwards o'r grwp Datblygu, a'r actores Ree Davies, sy'n siarad yn onest a chignoeth am eu profiad..."
A heno am 10pm ar C2 Radio Cymru, bydd Emyr Glyn Williams yn edrych yn ol ar gyfnod Datblygu a'r effaith gafodd Dave ar y sin yma yng Nghymru.
Fel allwch wrando yn ol yn fama neu ddarllen y sgript yn fama
Helo,
Wel, dim ond un arholiad sydd gen i ar ôl yn y brifysgol, mae'r flwyddyn gyntaf wedi mynd yn andros o sydyn. Mae'n teimlo fel dim ond ddoe y wnes i ddechrau yno.
Cymaint o brofiadau gwych megis, noson roller-disgo'r 60au, mynd allan fel bin-bag, achubwr bywyd, morleidr, seren porn, milwr etc. Gwych!
Mor braf yw adolygu yn yr haul, mae gen i linell mawr yn lle mae siap fy siorts a fy fest ar fy ngorff sy'n edrych yn wirion.
Mwynheais barti pen blwydd Daniel Glyn yn nhy Caryl Parry Jones ddydd Sadwrn.
Dwi erioed wedi gweld cymaint o bobl sy'n gwethio yn y cyfryngau Cymraeg mewn un lle. A na, nid oedd yno ffraeo o gwbl. Gwelais Rhys Ifans yno a dywedais fy mod in ffan mawr o 'The Boat that Rocked' a dywedodd yn ôl 'dyle chdio weld fwy o ffilmiau' haha! Roeddwn i yno gyda criw c2 sef Magi, Robin a Siân. Ond, fe wnes ffwl o fy hun gan eistedd ar gadair pren yn fler a'i thorri'n ddarnau. Roedd o fel golygfa mewn ffilm gomedi, lle mae rhywun tew yn malu'r gadair gan fod gormod o bwysau arno. Er hynny, roedd o'n ddiwrnod arbennig, Penblwydd Hapus mawr Daniel Glyn, gobeithio wnest di fwynhau!
Glyn x
Fel rhyw fath o Saint n Greavsie i'r dimdegau, bob nos Fawrth ar C2 yn ystod y pum mis dwetha dwi di cael y pleser o gwmni Dylan Ebeneser yn trafod y diweddara o'r byd chwaraeon! Yn ogystal a gosod her trivia chwaraeon wythnosol iddo fe â chi'r gwrandawyr (y gwrandawyr sydd fel arfer yn ennill!), ry' ni'n gwobrwyo rhai o bersonoliaethau chwaraeon yr wythnos a hefyd ceisio darogan yr hyn sy'n digwydd dros y penwythnos ar y meysydd chwarae (gyda llwyddiant cymysg!).
Uchafbwynt bob nos fawrth yw sgorgasms yr wythnos, sef y darnau gorau o sylwebaeth ar goliau'r penwythnos oddi wrth tim Camp Lawn ar Radio Cymru. Dros y tymor ni di cael clasuron gan sylwebwyr profiadol fel Nic Parri ac Ian Gwyn Huws, rhai hollol gwyllt a dwl gan sylwebwyr ifanc fel Iwan Roberts a Malcolm Allen a hyd yn oed un "Ceffyl-gasm" o'r Grand National !
Nos fawrth yma nath Dylan ddewis ei ddeg ucha o sgorgasms y tymor, ac I ddwyn term sy'n cael ei ddefnyddio lot gan sylwebwyr, ma nhw I gyd yn 'glincars'!
Nath Dylan a minnau ddewis rhai Malcolm Allen, Idris Charles (y dyn nath ddyfeisio'r sgorgasm ma'n debyg!) ac Ian Gwyn Huws (gyda help rhywun yn sgrechen yn y cefndir) fel ein tri uchaf ond ma'r dewis terfynol I fyny I chi.
I ddewish sgorgasm y flwyddyn felly gwrandewch ar y clipiau fan hyn a cysylltwch a ni ar c2@bbc.co.uk gyda'ch dewis.
Cofiwch wrando nos fawrth nesa I glywed pwy fydd yr ennillydd!
Helo bawb
Ar Orffennaf y 4ydd, mi fydd Mike Peters unwaith eto'n dringo'r Wyddfa ac yn perfformio ar y copa i hel arian tuag at ei elusen LoveHopeStrength. Mae o wedi gofyn i Lisa Gwilym ei helpu, drwy awgrymu 4 band/artist fysa'n hoffi perfformio ar y daith i fyny. Setiau acwstic, syml fydd eu hangen, gan nad oes modd cael PA na trydan yn hawdd iawn i fyny'r Wyddfa!! Ni fydd tal am berfformio, gan mai casglu arian ydy'r nod, ond dwi'n siwr y bydd yn brofiad gwych, ac efallai'n gyfle i artistiaid ddod i gysylltiad hefo cynulleidfa wahanol/newydd.
Os yrrwch chi neges, neu adael sylw yn fama, fe wnai basio eich manylion ymlaen i Mike.
Hwyl
Helo
Nos Fercher am 10pm ma na raglen newydd ar C2 - Emyr o gwmni recordiau Ansktmusic yn "edrych ar y gerddoriaeth a rhyddhawyd yn Nghymru rhwng y ddau refferendwm i weld os oes modd taro goleuni ar be ddigwyddodd i droi y 'NA' yna nol yn 1979 i fewn i'r 'IE' yna yn refferendwm 1997."
Mae Emyr yn un o'r bobol oedd yng nghanol cerddoriaeth Cymru yn y cyfnod, ac mae ei atgofion yn ddifyr, a'i farn yn ddiddorol a dadleuol. Fel rhagflas, ac efallai fel pwnc trafod, dyma ddarn o'r sgript Y rhaglen gyntaf, sy'n edrych ar y cyfnod yn syth ar ol refferendwm '79:
"Wrth gwrs yn y siop leol hefyd mae 'na lot fwy o recordiau dwi ddim isio prynu na recordiau sydd yn denu fy sylw. Ma' unrhyw record Gymraeg sy'n cynnwys dyn efo barf neu fwstas ar y clawr neu offeryn traddodiadol neu griw mewn 'neckerchief' yn instant turn off.
Hefyd ma'r ochr werin 'ma i ddiwylliant cerddoriaeth Cymraeg wedi bod yn ddirgelwch llwyr i mi erioed - mae o'n rhy debyg i jazz - steil o gerddoriaeth sy'n codi'r artist llawer uwch na'r gynulleidfa - y teimlad 'na fod nhw'n rhan o rhyw clwb ecscliwsif sy'n ymestyn yn nôl i berfeddion amser a waeth byth yw'r ffaith fod y cerddorion i weld yn mwynhau eu hunain llawer mwy na'r gynulleidfa - tydi hyn ddim yn wir am ganu pop a roc a dyna lle ma'r gyfres yma yn mynd i ganolbwyntio.
So sori o flaen llaw i'r rhai allan yna sy'n credu mai'r gitâr acwstig a'r canwr sensetif efo'i galon waedlyd yw gwir ddrych artistic ein cenedl - not in my book it ain't. Jarman said it best - wrth gwrs - 'y rocars ar gwalltie cyrliog yw dyfodol Gwalia nawr.'
Hefyd ma' 'na rywbeth sinister i mi am rai o'r artistiaid sensetif gwerin ma, pobl fel Hergest,Tecwyn Ifan, Dafydd Iwan,Mynediad am Ddim a llawer mwy. Rhyw deimlad fod nhw yn trio indoctrinatio fi efo eu cerddoriaeth adferol hudolus sy'n adleisio rhyw oes aur yn y gorffennol - bypassing my pleasure zones and brain and heading straight for some imaginary Celtic heart beating inside me."
Yn amlwg mae'r dyfyniad yma allan o'i gyd-destyn, ond gadewch eich sylwadau, a cofiwch am y rhaglen am 10pm nos Fercher!
Cofion
Gar
Ro'n i a Huw Evans yn feirniad Cystadeluathau Roc a Phop yn yr Urdd wthnos dwytha. Llongyfarchiadau i Da'n Gilydd, Y Gwirfoddolwyr o Aberystwyth a Y Dynion Gwallgo o Faldwyn ddaeth yn fuddugol yn y tri cystadeluaeth gwahanol. Ond wir, llongyfarchiadau i bawb nath gystadlu, achos dydi canu a chware can gyda band byw yn llawn o flaen cynulleidfa ddim yn beth hawdd. Roedd e'n dda gweld talent yn dod at ei ilydd i roi cais arni.
Mae Y Selar newydd yn dda.
Es i weld llwyth o gig dros hanner tymor, llwythi o fandiau o Gymru! Roedd Future of the Left yn Clwb IFor Bach, ac yn chware tracs oddi ar eu hail albym aruthrol o dda a trwm, Travels with Myself and Another. Roedd Super Furry Animals yn chware tracs oddi ar Dark Days/Light Years yn Sub 29, es i weld y cynta o dair noson yn y lleoliad sydd gyferbyn y gorsaf dren. Roedden nhw'n dda, ma nhw wastad yn, ond ddim y gig gore i fi weld nhw'n chware dros yr 11 mlynedd dwytha (teimlo'n hen). Er, fi'n clywed fod y tracs newydd di gwella erbyn diwedd yr wthnos. Roedd Joy Formidable yn Wrecsam nos Iau, a mae'r band MOR dda yn fyw. Mae gan Ritzy bersonoliaeth sy'n dod drosodd ar y llwyfan, a tracs gwych. Roedd gweld Manic Street Preachers yn Llunden nos Wener yn bleser, gyda'r albym newydd Journal for Plague Lovers (geirie Richey) yn bwerus tu hwnt. Wedyn dath y 'hits', a sdim modd dadlau gyda rheina.
Wedyn es i i weld Calvin Harris. Mae e o'r Alban.