Archifau Awst 2009

Dyn Gwyrdd Hynod o Dda

Categorïau:

Huw Stephens Huw Stephens | 05:27, Dydd Mercher, 26 Awst 2009

Sylwadau (0)

blog_huw.jpg

Ar ol cwpl o flynyddoedd o law a cherddoriaeth wych roedd hi'n braf cael haul a cherddoriaeth wych yng Ngwyl y Dyn Gwyrdd eleni. Fel falle clywsoch chi ar raglen Aled nos Lun, roedd yr wyl eleni yn un hynod o lwyddiannus. Nes i fwynhau'n fawr. Roedd y maes wedi newid dipyn, a mae'r gwahaniaeth ma tywydd da yn neud i wyl yn enfawr. Roedd mwy o deuluoedd yno eleni, a llai o hipis, o be allen i weld.

Nes i fwynhau:

Cate le Bon! Mae ei halbym cyntaf 'Me Oh My' yn hynod o dda a nath hi gig gwych. Nath Richard James hefyd neud gig arbennig o dda gyda tiwns newydd, a'r ddau yn dod at ei gilydd am gwpl o ganeuon hefyd. Roedd Jonny, band Euros Childs a Norman Blake wedi dennu lot mewn i'r babell Far Out i weld y ddeuawd yn neud eu gig cynta yng Nghymru.

Nath bandie fel Peggy Sue, Le B, Gentle Good, Sweet Baboo a Martin Carr neud yn dda ar y llwyfan lleia yn yr wyl, oedd gyda cynulleidfa enfawr yno drwy'r amser. Roedd Strangeboys o Texas, Vetiver a Wooden Shijps yn uchafwbyntiau i fi, a Beth Jeans Houghton sy'n ferch eitha newydd i'r sin, ac yn 19 mlwydd oed. Mae'n edrych fel Lady Gaga ac yn swnio fel cantores o'r 60au. Gwych.

Dwy flynedd yn ol pan roedd Devendra Banhart yn headlinio'r prif lwyfan fe ofynodd i rywun o'r gynulleidfa ddod lan i ganu un can. Nath y ferch yma ddod lan a chanu gyda gitar, a do'n i ddim yn meddwl fod hi'n wych. Beth Jeans Houghton oedd hi. Doniol sut ma pethe'n newid.

Ar y prif lwyfan, (gweler llun hynod o broffesiynnol a gwych fydd yn bownd o ennill gowbrau yn y dyfodol, isod) Bon Iver nath ennill y penwthnos. Mae'r canwr o'r Unol Daleithiau wedi creu swn arbennig a dilyniant enfawr yn ddiweddar, ac roedd gweld e yng Nghrughywel yn brofiad arbennig.

Mae'r wyl yn parhau i fod yn un angenrheidiol i ffans o gerddoriaeth werin, seicadelig, newydd ag artistiaid, fel 9Bach yn enghraifft perffaith, sydd yn ail recordio a newid tiwns traddodiadol i fod yn fwy cyffrous a diddorol. Mae'r wyl yn falch o'i gwreiddiau Cymraeg a Chymreig hefyd, sydd i'r rhan fwyaf o bobl sy'n mynd iddi (o Loegr), yn gneud hi'n wyl hyd yn oed yn fwy pleserus a chyffrous. Mae hi'n debygol fydd hi'n tyfu tipyn yn y dyfodol; fi'n edrych mlan i'r penwythnosau dros y blynyddoedd nesa yn barod.



Sesiwn Masters in France, a Gwyl y Dyn Gwyrdd

Categorïau:

Huw Stephens Huw Stephens | 13:50, Dydd Gwener, 21 Awst 2009

Sylwadau (0)

Os oeddech chi'n gneud eich Lefel A a wedi cael canlyniadau ddoe; stopiwch darllen ag ewch allan i gael parti!

Roedd sesiwn Masters in France yn un hynd o dda nos Lun; mae'n nhw'n bwerus a ma gyda nhw arddull sy'n atgoffa fi dipyn o fand fel Kasabian. Gwrandewch ar y sesiwn

fan hyn i weld be golloch chi.

Heddiw fi'n mynd i Wyl y Dyn Gwyrdd yng Nghrughywel. Fi di bod i bob un ers yr ail un erioed, a mae wedi tyfu mewn i un o'r gwyliau mwya poblogaidd ers hynny. Fyddai'n gwylio Bon Iver, band newydd Euros Childs a Norman Blake o Teenage Fanclub; Jonny, Richard James, Rodriguez o'r 70au, Animal Collective a Unicorn Kid sy'n fachgen 18 mlwydd oed o'r Alban sy'n gwisgo lane fel llew i chware electro gwyllt.

Mwynhewch eich penwthnos.

Y Selar

Categorïau:

Criw C2 Criw C2 | 15:03, Dydd Mawrth, 18 Awst 2009

Sylwadau (2)

Mae rhifyn mis Awst o'r Selar allan rwan, ar gael yn ddigidol yn fama

Norwy, Dyn Gwyrdd a Meistri yn Ffrainc

Categorïau:

Huw Stephens Huw Stephens | 15:14, Dydd Llun, 17 Awst 2009

Sylwadau (0)

Ar ôl hwyl y Steddfod yn Bala, nes i neidio ar fy ngheffyl dychmygol a mynd draw i Norwy. Do'n i heb fod yno o'r blaen, a nes i fwynhau mynd draw i Oslo i weld be oedd yn mynd mlaen. Roedd gwyl Oya mlaen, am yr unfed mlynedd ar ddeg. Amser hir i wyl, ac mae'n un o'r gorau yn Norwy gyda ryw bymtheg mil o bobl yn mynd draw i weld bandie o Norwy (rhan fwyaf) ond hefyd o amgylch y byd.

Roedd Wilco, Band of Horses, Arctic Monkeys a Lilly Allen ymysg y bandie mwy, ond mae bandiau fel Datarock, Ungdomskulen, The New Wine a I Am King o Norwy yn ennu cynulleidfaoedd mawr yno. Mae'r wyl yn para PUMP diwrnod; o nos Fawrth tan ddydd Sadwrn. Amser hir i fod yn gwylio bandiau drwy'r dydd.

Fyddai'n chware rhai o'r uchafbwyntiau ar y rhaglen heno am 10pm, a bydd band newydd Owain Ginsberg, Masters in France, ar y rhaglen heyfd gyda seshwn newydd i'w ddarlledu. Wedyn, pentwythnos yma, gwyl y Dyn Gwyrdd yng Nghrughywel! Fi'n edrych mlaen yn fawr. Drychwch ar y llyn yma yn yr wyl Oya yn Oslo!



photo.jpg

C2 a BBC Introducing... In Wales

Categorïau:

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 14:54, Dydd Llun, 17 Awst 2009

Sylwadau (0)

Helo bawb

Cyn i mi fynd ar fy ngwylia, dyma gyfle sydyn i son am rywbeth newydd digon cyffrous fydda i'n ei wneud o ddechrau mis Medi ymlaen. Bob nos Fercher ar raglen BBC Introducing... hefo Bethan Elfyn ar Radio1 yng Nghymru, mi fydd gen i becyn o ryw 5 neu 6 munud i son am be' sy'n digwydd yr wythnos honno yn y sîn Gymraeg. Fe allai fod yn gig/gwyl newydd, yn fand ar fin rhyddhau CD neu am fynd i'r stiwdio, neu unrhywbeth fydda o ddiddordeb. Mae'n gyfle da i roi sylw i gerddoriaeth Gymraeg ar orsaf wahanol, felly os da chi mewn band, neu'n trefnu gigs, gadewch i mi wybod am unrhyw newyddion sydd ganddoch chi.

Fel nes i son, dwi ar wyliau am bythefnos, a Steffan Cravos fydd yma yn fy lle i, felly cofiwch amdano fo am 10pm nos Iau a nos Wener

Hwyl, Lis

x

Jakokoyak, Yr Ods, Cerrig Melys, Georgia Ruth...

Categorïau:

Criw C2 Criw C2 | 10:41, Dydd Llun, 17 Awst 2009

Sylwadau (0)

Helo 'na bawb

Nos Wener dwetha mi gawsom ni raglen anarferol o brysur 'tu ol i'r lleni'. Fel arfer mi fydd Lisa (a finna) wedi dewis y gerddoriaeth a rhoi trefn ar y rhaglen o leiaf awr ymlaen llaw, ond nos Wener ges i ddwy alwad hwyr yn cynnig tracia newydd sbon.

Diolch i ebost ac mp3s, fe ddaeth 'na ganeuon newydd gan Jakokoyak. Roedda ni wedi gwirioni a bod yn onest - fe chwaraeodd Lisa y 'demos' gwreiddiol o'r tracia yma nol yn Nhachwedd 2007, felly mae Rhys Edwards wedi bod yn gweithio arnyn nhw er o leiaf dwy flynedd... Hefyd ar yr ebost fe ddaeth na fersiwn newydd o Gloria Tyrd Adre (Eryr Wen) gan Yr Ods - oedd ddim ond wedi gorffen cael ei gymysgu awr cyn i'r rhaglen gychwyn. Technoleg!!

Hefyd ar y rhaglen, trac gan Cerrig Melys gafodd ei recordio yn '95, ond erioed ei rhyddhau, a chan newydd gan Georgia Ruth Williams. A thrac gan artist electroneg newydd sy'n perthyn i Phil Bradley o'r Brodyr.

Dyma drefn orffenedig y rhaglen - mi oedd hon yn un o fy hoff raglenni fi ers sbel, felly gobeithio gwnewch chi fwynhau gwrando eto!

Hwyl

1 Plant Duw - Byw Ar Gwmwl

2 Cerrig Melys - Hud a Lledu

3 Cymdeithas Yr Hobos Unig - Be Ydy Hyn I Gyd

4 Eitha Tal Ffranco - Sali Ty Gwydr

5 Jakokoyak - See Me Out

6 Sibrydion - Clustiau Cwn

7 Georgia Ruth Williams - Changes

8 Derwyddon Dr Gonzo - Tomi Yn Y Goedwig

9 Cowbois Rhos Botwnnog - Cadfridog Cariad

10 Soft Hearted Scientists - Effervesce

11 Yr Ods - Gloria Tyrd Adre

12 Jakokoyak - Arkangelsk

13 White Overtone Wizard - Plastered

Pencampwriaeth Gitar Awyr!

Glyn Wise Glyn Wise | 10:33, Dydd Mawrth, 11 Awst 2009

Sylwadau (0)

Yn syth ar ôl darlledu'n fyw o gefn Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala fe wnes i yrru adref i ddal y tren bore i Lundain. Roeddwn wedi anghofio fy mod i'n mynd lawr yno i gymeryd rhan mewn cystadlaetaeth 'air guitar'. Dwi wastad yn edrych ymlaen i fynd i Lundain, ond y tro yma, roedd cael chwarae gitar awyr ar lwyfan a gwneud bob math o giamocs yn swnio'n hwyl - pa mor anodd all hynny fod?

Cefais ymarfer chwarae gitar gyda Peredur y gitarydd o Pendelum. Roedd o'n foi hilariws a rhoddodd gitar a plectrwm aer i mi, funny - dwi'n gwybod! Ond, roedd cyrraedd yr O2 yn Llundain yn brofiad od. Od yn y ffaith fod pobl yn cystadlu mewn cystadleuaeth chwarae gitar hud, ac od fod cymaint o bobl yn talu i ddod i weld y fath beth. Roedd o fel talu i fynd i Bedlam yn yr oes Victoria! Dynion a merched mewn oed yn cogio chwarae gitar ar lwyfan roc! Doeddwn i methu credu'r peth! Roedd rhai ohonynt wedi ymarfer ers misoedd a wedi gwisgo fel seren roc, gyda enw ffansi fel 'y diafol' a' Miss rock.' Fe cgrddais i ar y llwyfan dan yr enw Glyn Thomas Wise - roc a rol ta be! Rhoddais fy mag dychmygol ar y llawr, tynnu y gitar dychmygol ai rhoi o fy amgylch a rocio i'r anthem genedlaethol mewn fflag Cymru. Roedd booian y dorf yn ofnadwy, a mi oedd pobl yn lluchio poteli cwrw atai- roedd yn brofiad bythgofiadwy!

Cefais 4 allan o 10 gan y beirniaid, roedd yr holl beth yn od! Mae yno adloniant i bawb, ond roedd hyn yn rhywbeth gwallgo. Roeddwn yn cael fy booian ar lwyfan ac roeddwn i yn ceisio chwarae gitar doedd ddim yno. Pwy ddyfeisiodd y gystadleuaeth - plentyn?

Fi ddaeth yn olaf o'r 16 oedd yn cystadlu, ond mwynheais y diwrnod, roedd yn rywbeth newydd nad oeddwn erioed wedi dychmygu gwneud. Gallaf ddweud wrth bawb mai fi yw'r 16eg chwaraewr gitar awyr gorau ym Mhrydain - dyna yw fy claim to fame, hahahahahahahahahahaha! xx

The Last Republic

Nia Medi Nia Medi | 16:03, Dydd Llun, 10 Awst 2009

Sylwadau (0)

Helo!



Pawb yn iawn ar ol 'Steddfod?!



Nes i wario dau ddiwrnod yno a joio mas draw chware teg!



Ac ar ol cael amser da, nes i ddod adre i newyddion ffantastic - bod band o Bontardawe o'r enw 'The Last Republic' wedi enill cystadleuaeth 'Road to V' yn ddiweddar a nhw fydd yn agor V festival leni!



Ma' nhw'n hollol wych ac wedi gweithio'n galed i ennill y gystadleuaeth. Ma' Johnny (y prif leisydd) wedi bod ar yn rhaglen i a Magi yn son am y daith ac o'r diwedd, ma'r newyddion da o lawenydd mawr wedi cyrraedd ei bod nhw wedi ennill!



Ei mentors oedd y band indie o'r 90'au 'The Charlatans' sydd wedi cefnogi nhw yn frwd drw'r gystadleuaeth.



Felly os chi'n mynd i V festivsal leni, cofiwch checo nhw mas - ma' nhw'n amaaaaaazing yn fyw!



Tan nos Iau



Nia xxxx

'Steddfod

Categorïau:

Huw Stephens Huw Stephens | 10:48, Dydd Llun, 10 Awst 2009

Sylwadau (0)

Diolch Bala am gael ni yno wthnos dwytha. Mae'r Eisteddfod yn wych yn dydi? Yn wir, does dim byd tebyg iddo yn y byd i gyd, ag roedd ne lwyth mlaen yn Steddfod 09. Roedd darlledu o gefn llwyfan Maes B nos Iau yn lot fawr o hwyl, ag roedd hi'n eitha cyffrous cal cyfweld a Bryn Fon hefyd. Roedd gigs bandiau newydd Nos Sadwrn Bach a Y Bandana yn hynod o dda, nes i fwynhau gweld nhw, a sets gwych gan Race Horses, Sibrydion, Yr Ods a Cate le Bon. Roedd Derwyddon Dr Gonzo yn llawn haeddu headlinio nos Sadwrn Maes B hefyd yn fy marn i, naethon nhw roi gig a hanner mlaen gyda tiwns rhyngwladol cyfarwydd a caneuon gwych nhw eu hunen. Roedd y dawnswyr a llyncwyr tan dim ond yn ychwanegu at yr holl beth. Roedd gig ola Eitha Tal Ffranco yn dda ar y Maes dydd Sadwrn olaf, a roedd sticers Y Bandana bob man.

Nes i gal albyms Bob a Promatics ar label Sbrigyn Ymborth yno, felly fydd rheina ar y rhaglen heno.

Welai chi am 10pm!

Bywyd braf y Bala

Categorïau:

Magi Dodd Magi Dodd | 17:24, Dydd Iau, 6 Awst 2009

Sylwadau (0)

Dyma fy mywyd dros y chwech diwrnod diwethaf:

Gweithio. Gigio. Bwyta bwyd brown (ee sglodion, bara, byrgyrs...) Cysgu. Chwech diwrnod gorau fy mywyd!

Bala'n braf a'r croeso'n gynnes. Y gerddorieath wedi bod yn wych a Brwydr y Bandiau Maes B yn uchafbwynt.

Ar y fford i'r maes i weld Colorama, Derwyddon a Daniel Lloyd, tra'n cael diod gyda fy ffrindiau yn yr haul.

Popeth yn daa.

hwyl a fflag

Magi

Cyrraedd Steddfod - o'r diwedd!

Categorïau:

Robin Owain Jones Robin Owain Jones | 16:16, Dydd Mercher, 5 Awst 2009

Sylwadau (0)

Dwi'n sgwennu hwn tu allan i'r garafan yn y maes carafanau.

Nesh i gyrraedd Seddfod ddoe - ond mi oedd gweddill criw C2 yma ers ddydd Gwener. Wedi methu cwpwl o nosweithiau da - a lot o waith dal fyny!

Dwi'n bwriadu mynd i wefan C2 i weld lluniau a fideos o ddechrau'r wythnos.

Heno mi fydd C2 yn darlledu rhwng 12 a 2 y bore, a bydd cyfle i glywed set byw gan Derwyddon Dr Gonzo.

Tywydd yn lyfli heddiw, ond hynny'n golygu fod y plant yn y maes carfannau i gyd allan ar ei beics. Ma swn y beics yn mynd dros y tracs metal sydd ym mhob man ddim y ffordd gorau o ddeffro.

Neithiwr mi oeddwn i yn gig CYIG yn y Plas Coch yn gwylio Gareth Bonello a Al Lewis Band, a mi oedd hi hefyd yn noson meic agored - rhai ohonyn nhw yn dda iawn, eraill fel deuawd Trystan Mosgito a El Parisa angen mwy o ymarfer!

Nes i alw draw i Maes B neithiwr hefyd, a weles i rai o'r bandiau oedd yn perfformio yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau Maes B.

Llongyfarchiadau mawr i After an Alibi o Lanberis a wnaeth ennill. Edrych ymlaen i glywed sesiwn C2 ganddyn nhw yn fuan.

Ar y ffordd i'r maes rwan i gael dipyn o ginio a gwylio Al Lewis, Brigyn a Pwsi Meri Mew.

Ella welai chi yna.