Archifau Medi 2009

Cyfweld a Cerys Matthews

Hefin Thomas Hefin Thomas | 14:08, Dydd Mercher, 30 Medi 2009

Sylwadau (0)

Odd hi'n bleser ddoe i gael sgwrsio a Cerys Matthews unwaith eto ar gyfer fy sioe ar C2, gan recordio sgwrs fydd i'w glywed ar fy rhaglen nos Lun nesaf - Hydref 5ed.

Ma hi yn un o'n artistiaid mwya dylanwadol ni dros y pymtheg mlynedd diwethaf ac erbyn hyn yn plethu perfformio yn unigol a chyflwyno ar BBC 6 Music gyda bod yn fam i ddau o blant.

Ma'i halbym newydd hi 'Paid Edrych Lawr' allan ar y 5ed o Hydref ac mi fydd albym Saesneg (Don't look down), sy'n cynnwys fersiynnau o rhai o'r traciau fydd yn gyfarwydd i wrandawyr C2 fel 'Y Corryn a'r Pry' ac 'Awyrennau', yn cael ei ryddhau ar yr un diwrnod.

Ar ol arbrofi a gwahanol steiliau ers ddechrau perfformio'n unigol, ma'r albym hwn yn mynd a'r swn i gyfeiriad sy'n gweddu mwy i'w llais hi yn fy marn i. Ma'r caneuon newydd yn swno'n gret gyda naws sydd yn hamddenol ac eto yn cyfleu egni llais Cerys.

'Sinematig' oedd disgrifiad Cerys o'r swn a ma na sain 'mawr' i'r cynhyrchu a'r gerddoriaeth gefndirol yn sicr. Fy hoff albym Catatonia oedd 'Way beyond blue' a dwi'n credu fod rhai o'r traciau yn atgoffa rhywun o rai o uchelfannau'r albym honno. Ma'r daith o gwmpas theatrau Cymru a Lloegr i gyd fynd a'r albym yn cicio bant yn Theatr Mwldan Aberteifi ar y 17eg o Hydref.

Cofwch felly y bydd y cyfweliad i'w glywed ar fy sioe ar C2 am 11yh nos Lun nesa y 5ed o Hydref - a bydd clipiau fideo lan ar wefan C2 hefyd.

DSCF9091.JPG

Hwyl tan hynny,

Hefin.

Clasuron coll - awgrymiadau plîs!

Hefin Thomas Hefin Thomas | 14:04, Dydd Mercher, 30 Medi 2009

Sylwadau (0)

"Ma'r gan na'n o-sym ond dwi byth yn ei glywed ar y radio".

Mae gan y rhan fwyaf o ni hoff draciau sydd ddim yn cael eu chwarae ar y radio yn aml. Felly mewn ymgais i ddod o hyd i'r caneuon hynny sydd wedi syrthio lawr gefn soffa C2 dwi di bod yn chwarae 'clasuron coll' ar y sioe, bob nos Lun a nos Fawrth ers dechrau 2009.

Y bwriad yw rhoi sylw i draciau sydd ddim yn cael eu chwarae gymaint ag y dylen nhw ar y radio ac yn aml ry'n ni'n gofyn i artistiaid Cymraeg i awgrymu un o'u traciau nhw fel Clasur Coll. Weithiau bydd bandiau yn dewis trac llai amlwg oddi ar albwm, trac oedd yn arfer bod yn ffefryn mawr ond sydd erbyn hyn di cael ei anghofio neu gan o flwyddyn arbennig.

Ymysg y clasuron coll diweddar ry'n ni di chwarae'r traciau yma sydd yn golygu rhywbeth arbennig i'r band neu'r artist....

Sidan - Yr haf (di ddewis gan Caryl Parry Jones)

Y Cyrff - Y Boddi (di ddewis gan Mark Roberts)

Big Leaves - Henffych (di ddewis gan Mei Gwynedd)

Kentucky AFC - Rhwng y Gwir a'r Gwirion (di ddewis gan Endaf Presli)

Topper - Gwefys Melys Glwyfus (di ddewis gan Dyfrig Evans)

MC Mabon - Riff Pynci Priodas Prysor (Sesiwns Radio) (di ddewis gan Gruff Meredith)

Anweledig - 6/5/99 (di ddewis gan Ceri Cunnington)

Tystion - Meddwi Dros Gymru (di ddewis gan Steffan Cravos)

Maharishi - Tony (di ddewis gan Gwilym Maharishi)

Tan Y Tro Nesa - Diffiniad (di ddewis gan Ian Cottrell)

Hei MR DJ - Skep (di ddewis gan Dai Lloyd)

Os oes da chi awgrymiadau am glasuron coll bydde'n gret i glywed gennych felly danfonwch awgrym ynghyd a pham ei fod yn glasur coll i chi at

Edrych ymlaen i glywed eich awgrymiadau,

Hefin.

Gwyl Swn, Bang Bangor a Mastermind Cymru!

Huw Stephens Huw Stephens | 13:58, Dydd Llun, 28 Medi 2009

Sylwadau (0)

Wel helo. Chi'n edrych yn neis heddiw.

Dwi wedi bod yn rhedeg o gwmpas fel dyn gwyllt yn ddiweddar yn trefnu gwyl Swn sy'n digwydd diwedd mis Hydref. Fi 'di cyffroi yn lan hefyd fod Gwyl Bang Bangor yn digwydd ym Mangor (wrth reswm) ym mis Hydref. Mae'r gwyliau yma mewn dinasoedd a trefi yn lot fawr o hwyl, a mae gwybod eich bod yn mynd i gysgu mewn gwely yn hytrach nag ar lawr oer yn un pleserus.

Cyn hynny mae genai ddau drip i'r Alban i djo yn Aberdeen a Dundee (oes ne wrandawyr C2 yn fanne tybed?), a digon o gigs i fynd i i gadw fi'n brysur.

Fi hefyd yn adolygu yn ffrantig braidd. Pam adolygu? Wel, fi mynd i fod ar Mastermind Cymru. Mi fydd y rhaglen mlaen Dydd Nadolig, ond mae'r ffilmio yn digwydd yn eithaf buan. Fy mhwnc? John Peel. Y dj gorau fuodd erioed. Pleser ydi darllen amdano eto a dysgu mwy am y dj oedd ar Radio 1, a ffan enfawr o fandiau Cymraeg ar hyd y blynyddoedd, o Datblygu i Melys, Texas Radio Band i'r Tystion.

Mastermind Cymru! Pwy se'n meddwl...

Taith C2 Ciwdod 2009

Categorïau:

Magi Dodd Magi Dodd | 09:55, Dydd Gwener, 25 Medi 2009

Sylwadau (0)

Ma Taith C2 Ciwdod yn dechre ddydd llun ac allai ddim aros! Dros y mis nesa, fydda i a Sian a Meic a Trev ac Ed Holden a chriw Ffeil, mas ar y lôn ac yn dod i gwrdd â chi!.

Ma rhestr o'r holl ysgolion ryn ni'n ymweld â nhw i'w gweld fan hyn

Mi fyddwn ni hefyd yn cynnal gig ar ddiwedd bob wythnos - lle fydd na fandie gwych yn chware a Dj arbennig iawn yn troelli. (Wel - ddim mor arbennig â hynny - achos fi fydd wrthi!)

Gewch chi'r hanes i gyd ar c2 gyda'r nos ac wrth gwrs, yma, ar y safle gwe.

Gobeithio welai chi'n fuan!

Magi x

O.N. Dyma'r gan nethoni recordio heddiw yn Ysgol David Hughes - da iawn chi i gyd! xx

Y Niwl

Categorïau:

Criw C2 Criw C2 | 10:57, Dydd Llun, 21 Medi 2009

Sylwadau (0)

Be da chi'n feddwl o syrf band cynta Cymru? Mi fedrwch chi glywed y band yn rhoi 'chydig o'i hanes nhw ar raglen Lisa nos Wener Hefyd ar y rhaglen, newyddion BBC Introducing gan Bethan Elfyn, a chaneuon newydd sbon gan Lembo a Mr Phormula; dyma weddill y rhestr chwarae.

Hwyl

1 Texas Radio Band - Chwaraeon

2 Racehorses - Cake

3 Endaf Presli - Y Wawr

4 Lembo - A Las Barricadas 09

Sgwrs + Sesiwn Y Niwl

5 Cate Le Bon - Terror Of The Man

6 Mr Phormula - All Spark

Sesiwn Y Niwl

Pecyn Newyddion Bethan Elfyn

7 Lembo - Nerth Dy Baile Draed

Noson Claddu'r 'Khan

Hefin Thomas Hefin Thomas | 14:54, Dydd Mawrth, 15 Medi 2009

Sylwadau (0)

Wythnos diwethaf ar sioe Magi Dodd fe wnaeth Ashokan gyhoeddi eu fod wedi chwalu ar ôl 12 mlynedd o gigio, dwy albwm a tua mil o wahanol aelodau. Roedd Magi a Jeni Lyn druan yn eu dagrau wrth glywed Rhys 'Donut' Jones yn cyhoeddi fod taith hir teulu'r Khan wedi dod i ben.



Wel, ges i'r pleser neithiwr (14/9/09) o wahodd, Donut Aled Davies a Marc Real i drafod pam eu bod wedi penderfynu rhoi'r gitar yn y to ac i edrych nol ar rhai o uchafbwyntiau Ashokan. Ymysg y perlau oedd y band yn sôn am eu ffrae gyda rocwyr Penllyn NAR ar maes-e ynglŷn a phwy oedd y band trymaf (Gethin yr allweddellydd gafodd y bai gan y lleill), stori am Alun y prif leisydd yn torri ei fraich hanner ffordd drwy ffilmio'r fideo i'r gan 'Dim Coes, Dim Brec' a stori Marc am gystadleuaeth creu cacen ar Uned 5 aeth o'i le (nath Ashokan ddim cael gwahoddiad yn ôl i stiwdio Uned 5!).

Nath Ashokan ryddhau dwy albym yn 2004. Yn gyntaf 'Diolch am ddal y Gannwyll' oedd yn gymysgedd o draciau pop-ffync gyda elfennau trymach adran rhythm y band yn dechrau amlygu eu hunain (a weithiau'n brwydro yn erbyn y melodïau!). Roedd 'Ashokan 2' dipyn trymach ac yr arddangos dylanwadau metal arbrofol y grŵp oedd erbyn hynny yn rhan amlwg o'u set byw. Ymysg uchafbwyntiau y cyfnod yma yn hanes y band oedd cloi gig Rhyng-gol 2004 yn Aberystwyth, chwarae yn y Carling Arena yn Llundain a cael eu chwarae ar sioe roc Radio 1 ar nifer o achlysuron. Cafodd ail albwm y band ei enwebu am albwm y flwyddyn yng Ngwobrau RAP 2005 hefyd.

Roedd y band wedi mynd trwy gyfnod eithaf tawel ers 2005, gyda Alun y canwr a Slug y drymiwr yn gadael Ashokan yn ystod y blynyddoedd diweddar ond roeddent wastad ar eu gorau pan yn herio'r gynulleidfa neu'r bandiau eraill gyda chymysgedd o hiwmor (nad oedd bob tro yn cael ei werthfawrogi) a chymeryd y mic allan o unrhyw fand neu aelod o'r gynulleidfa oedd eisiau cymeryd yr abwyd. Bydd colled ar ei hol ond gobeithio cawn glywed gan yr aelodau eto yn y dyfodol agos!

Gallwch wrando eto ar y cyfweliad ar yr IPlayer.

Beth yn y Byd

Huw Stephens Huw Stephens | 13:19, Dydd Mawrth, 15 Medi 2009

Sylwadau (0)

Shwmae. Mae rhaglen newydd Bethan Elfyn ar C2, Beth yn y Byd, yn un arbennig iawn. Fi ddim yn cofio rhaglen fel hyn ar ein tonfeddi erioed; dyma lle mae Beth yn mynd a ni o amgylch y byd trwy ei chasgliad recordiau o wahanol wledydd. Mae'n gwneud gwrandawiad amrywiol a lliwgar, gyda ieithoedd a melodiau, rhythmau a syniadau diarth a gwych yn llenwi awr bob nos Fercher, gwrandewch YMA os chi heb eto.





Ers i mi flogio ddiwethaf dwi wedi bod yn Reading, oedd yn hwyl a sbri fel arfer. Os chi'n chwilio am bron i bob band perthnasol o dan yr haul, dyma'r wyl i ddod iddi. Mae Leeds yr un fath wrth gwrs. Roedd ROC o Gymru yn fwy amlwg nag erioed eleni gyda The Blackout, Funeral For a Friend (albym o'u goreuon mas yn fuan), Kids in Glass Houses (yn agor y prif lwyfan) a Lostprophets yn cloi'r wyl ar lwyfan NME/Radio 1. Yr uchafbwynt i fi oedd gweld Enter Shikari, band metal/electro gwych. Es i i Bestival 'fyd, ar Ynys Wyth. Gwyl Rob da Bank ydi hon, sy'n lliwgar ac yn lot o hwyl. Roedd gweld yr Almaenwyr Kraftwerk yn chware yn uchafbwynt yn sicr.



Sesiwn newydd gan Jen Jeniro ar y rhaglen wythnos nesa, nos Lun i fod yn fanwl gywir. Edrych mlaen, achos mae ei albym cyntaf yn un arbennig, ac yn llwyddo i weu melodiau seicadleig gyda offerynnu diddorol a digon o ddychymyg, heb droi yn blentynaidd. Ife fi yw e, neu oes ne ormod o gerddoriaeth plentynaidd o gwmpas ar hyn o bryd? Mae modd bod yn ddoniol yn glyfar ac yn ddiddorol heb wastad droi a mynd am y gerddoriaeth fwyaf syml, syml eu natur.

Albyms newydd

Categorïau:

Criw C2 Criw C2 | 14:43, Dydd Llun, 14 Medi 2009

Sylwadau (0)

Helo

Mae hi'n gyfnod reit brysur o ran albums newydd. Yn ddiweddar ar raglen Lisa, da ni di chwara tracia' exclusive oddiar CD newydd Gwilym Morus, sy'n gymysgedd difyr o ganeuon acwstic, a chaneuon indie hamddenol; "Paid Edrych i Lawr gan Cerys Matthews sy'n albym pop wych hefo caneuon bachog a chynhyrchu anhygoel o gyfoethog; ma albym newydd Cate Le Bon yn hyfryd o dywyll; ac ma tracia Euros Childs hefyd gwerth gwrando arnyn nhw - yn enwedig gan ei bod nhw am ddim! A nos Iau a nos Wener yma am 10pm, mi fydd Lisa'n chwara tracia newydd sbon gan Lembo, sy'n arbennigo mewn mash ups glitch hop/drum 'n' bass o ganeuon Cymraeg hen a newydd.

Hefyd nos Wener, sesiwn newydd gan Y Niwl, "surf band" newydd Alun Tan Lan, Sion Glyn, Pete Richardson a Gruff Eitha Tal Ffranco. Dwi ddim yn siwr be' i'w ddisgwyl, ond yn ol rywun sy' di bod yn y stiwdio hefo nhw, ma' nhw'n anhygoel o dda...

Felly lot o gerddoriaeth dda o gwmpas ar hyn o bryd!

Albym newydd Euros Childs

Huw Stephens Huw Stephens | 12:34, Dydd Mawrth, 1 Medi 2009

Sylwadau (0)

Heb os mae Euros Childs yn un o gerddorion pwysicaf, prysuraf a chreadigol Cymru, Prydain ac Ewrop erioed. Roedd ei fand, Gorky's Zygotic Mynci (os chi heb glywed nhw, ewch i chwilio amdanyn nhw ar y we) yn un wnaeth dorri drwodd i'r sin rhyngwladol a chreu albyms gwych. Ers iddyn nhw chwalu mae Euros wedi rhyddhau tri albym unigol, a mae ei bedwaredd ar fin dod allan. 'Son of Euro Child' yw ei enw, ac mae ar label Euros ei hun, sef National Elf Records. National Elf! Mae'n albym sy'n drwm ar yr allweddellau a synths, melodiau cryf, hyfryd a pynci - dim ond Euros all wneud hyn i swnio fel eu bod nhw fod mewn cân. Unwaith eto, mae'n gampwaith o gerddoriaeth newydd a gwych. Bydd yr albym ar gael i'w lawrlwytho am ddim, ie, AM DDIM, o wefan euroschilds.com o Fedi'r 7fed ymlaen. Felly os oes gennych gyfrifiadur, fi'n meddwl fod gwneud hynny yn synaid