Archifau Rhagfyr 2009

Edrych mlaen i 2010

Categorïau:

Huw Stephens Huw Stephens | 14:29, Dydd Llun, 21 Rhagfyr 2009

Sylwadau (0)

Fy mlog olaf am eleni! Fyddai nol ar C2 Llun a Mawrth Ionawr y 4ydd a 5ed gyda rhaglen o recordiau feinyl ar y nos Lun, a tips i 2010 gyda Branwen o ffansin Chwiw, Steffan Cravos o Cerdd Cymunedol Cymru a Owain Schiavone o gylchgrawn Y Selar ar y nos Fawrth.



Nadolig Hapus iawn i chi gyd!

Huw

x

Caneuon y Ddegawd!

Hefin Thomas Hefin Thomas | 16:00, Dydd Mawrth, 15 Rhagfyr 2009

Sylwadau (2)

Wrth i ni ddod i ddiwedd y dim degau, ma na restrau di ri o'r bobl mwya' dylanwadol, y ffilmiau gorau, y gadgets mwyaf cŵl ayyb ym mhob cylchgrawn y gwelwch chi. Felly wythnos hon ma criw C2 wedi holi chi y gwrandawyr, yn ogystal a nifer o leisiau adnabyddus eraill, am eich barn chi ar 'Ganeuon y Ddegawd' fel ein thema cerddorol.



Yn aml y feirniadaeth gyntaf sy'n dod i feddwl wrth greu rhestrau o'r fath yw 'ar ba sail mae dewis?'. Ma'n hoff ganeuon i yn gallu newid yn llwyr yn dibynnu ar lle ydw i, be dwi'n ei wneud, pwy sydd gyda fi, beth yw'r tywydd a sut hwyl sydd arna i heb sôn am pa ganeuon sy'n digwydd dod i'r côf ar y pryd.



Ta waeth am hynny, y peth gorau am restrau o'r fath yw'r ddadl sy'n codi yn sgil y penderfyniadau mae pobl yn ei wneud ac wrth gwrs y cyfle i gofio am ganeuon da chi heb glywed ers sbel! Yn sgil hyn dwi di dod lan a'n hoff ganeuon Cymraeg i o'r ddegawd....

1.Pep le Pew - Y da, y drwg ac yr hyll

2.Texas Radio Band - Chwaraeon

3.4 Wal - Cofi Bach a Tew Shady

4.Gofyn - Frizbee

5.Jakokoyak - Murmur

6.Mozz - Edrych ar y merched

7.Promatics - Colli Cyfle

8.Kentucky AFC - Unarddeg

9.Ashokan - Diolch am ddal y gannwyll

10.Tricky Nixon - Paid a gofyn



Ma croeso i chi anghytuno - mi fydda i di newid fy meddwl erbyn fory ta beth!



Cofiwch hefyd wrando ar sioe arbennig yn edrych nôl ar gryno ddisgiau gorau 2009 gyda Ian Cottrell a Lyndsey Anne ar nos Lun yr 28ain o Rhagfyr am 11 o'r gloch!



Dolig Llawen!

Hxxx

Albyms y flwyddyn rhan 3

Categorïau:

Huw Stephens Huw Stephens | 17:26, Dydd Iau, 10 Rhagfyr 2009

Sylwadau (0)



Super Furry Animals - Dark Days/Light Years

Mae'r ffaith fod un o'r bandiau gorau yn y byd yn dod o'n gwlad ni wedi creu digon o achosion i ddathlu dros y ddegawd dwytha. Wastad yn newid, gwthio, ddim yn cyfaddawdu, sgwennu caneuon mentrus, melodig a moethus mewn agwedd, syniadau a arddull, roedd DD/LY eto yn albym arbennig gan y bonheddigion Rhys, Ieuan, Ciaran, Bunford a Pryce.

Y Promatics - 100 Diwrnod Heb Liw (Sbrigyn Ymborth)

Caneuon cynta' y band ar blastic, ac yn swnio mor dynn, sbeiclyd a mentrus a'u gigs nhw. Gyda dylanwadau mwy modern a pherthnasol na llawer o'u cyfoedion, roedd cael Y Promatics yn gigio yn gyson yn chwa o awyr iach eleni, a'r label Sbrigyn Ymborth yn gneud gwaith gwych gyda albym Bob hefyd.

Huw M - Os Mewn Swn

Yn dawel bach, fe drodd Huw M mewn i gerddor unigol arbennig iawn, diolch i llond albym o ganeuon gwerinol ond gafaelgar oedd yr un mor feddal a phersonol ag oeddent yn felodig a moethus. Nath Mr M ddefnyddio dulliau recordio difyr (oedd yn gweithio'n dda ar lwyfan yn nifer o'i gigs hefyd), a roedd naws diy agos atoch i'r albym hyfryd, trawiadol yma.

Albyms y Flwyddyn (rhan 2)

Categorïau:

Huw Stephens Huw Stephens | 15:42, Dydd Iau, 3 Rhagfyr 2009

Sylwadau (0)



Llwybr Llaethog - Chwaneg (Neud Nid Deud)

Mae grwf Llwybr Llaethog yn un barhaus, gyda phob record a trac mae nhw'n rhoi ar dap yn un diddorol, yn rhan arall o stori gerddoriaeth John a Kev. Gyda gwesteion fel Lleuwen Steffan a Ed Holden yn ychwanegu at y caneuon, roedd dub reggae hop y ddeuawd yn fwy esmwyth a hudolus nag erioed.

Derwyddon Dr Gonzo - Stonc! (Copa)

Chi'n gwasgu 'play' a mae'r parti yn dechre. Dim ers dyddie Anweledig oes 'ne fand gyda cymaint o egni, hwyl, ffync a dwli wedi dod i greu twrw pleserus fel y Derwyddon. Yn wahanol i Anweledig, does dim gwleidyddiaeth yma, dim ond amseroedd da, ac ar adegau, geiriau sili a rapio cyflym, sy'n gweithio'n dda gyda'r ffync bachog.

Clinigol - Melys (Rasp)

Gan wisgo dylanwadau electro pop yn falch ar eu llewys (designer, mae'n siwr), doedd dim modd gwadu mae Clinigol oedd y band mwya' masnachol a dawnsiadwy allan yna yng Nghymru eleni. Digon o diwns, cydweithio diddorol gyda amryw o artistiaid (Margaret Wiliams, Cofi Bach a Heather Jones ymysg eraill); dewr, dwl, dyfeisgar a diddorol.