Blog Ffasiwn Lowri Price
Annwyl Magi,
Mae hi'n brynhawn Iau braf ac yn ddiwrnod olaf 'New York Fashion Week' a dwi'n eistedd mewn hen warws downtown sydd bellach wedi ei drawsnewid i fod yn set ar gyfer sioe 'Japan Fashion Week'. Bydd Japan yn cynnal eu wythnos ffasiwn nhw yn Tokyo yr wythnos nesa ond mae'r sioe heno yn mynd i rhoi blas i ni o'r casgliadau. 
Dwi gefn llwyfan yn helpu hefo'r gwisgo a'r steilio ac wedi cipio 2 funud bach i ysgrifennu atat wrth ddisgwyl i'r modeli gael eu colouro a chael steilio eu gwalltia' - gwynebau gwyn a lot o backcomb-io! Mae yna ganoedd o boteli dwr o gwmpas y lle a phlatiad enfawr o salad i'r modeli gael pigo arno, mae yna hefyd dwmpath o fisgedi siocled, does yna neb ond y fi yn byta rheini! Mae'r tim trefnu wrthi ar eu walkie-talkies yn cyfarth cyfarwyddiadau, mae'r hairspray yn drwch yn yr aer a fflashis y camerau yn ddigon i ddallu rhywun - ar y cyfan awyrgylch fyrlymus a hectic dros ben. Dim syndod fod y modeli yn edrych mor flinedig a phwdlyd!
Wrth feddwl yn ôl dros fy wythnos dwi'n cofio yr adegau fwy glam, y casgliadau anhygoel, y 'gwdi bags', y cyffro wrth i Anna Wintour gerdded heibio a'r hwyl o wylio enwogion - Nigel Barker, Nina Garcia, Sophia Blush a llawer i un arall yn y rhes flaen. 
Mi nesi lwyddo i gael sedd yn yr ail res - tipin o gamp - ac o'r 5 sioe y bues i'n ei weld y trends ar gyfer A/W 10 neu 'Fall' fel mae nhw'n ddeud ydi:
Ysgwyddau miniog - y silwet yma yn dal yn edrychiad blaenllaw gyda'r 'pads' yn pwyntio am i fyny (ac nid i'r ochrau del yn yr 80au).
Lliwiau Metalau - llawer o ddefnyddau a sglein arnyn nhw megis sidan a satin mewn lliwiau pewter, phlatinwm ac arain (llwyd ond heb fod yn llwydaidd).
Dangosa dy gefn - llwythi o'r ffrogiau nos yn ddi-gefn yn ogystal a sawl dilledyn oedd yn gwneud statement o'r cefn drwy dori siapiau allan o'r ddefnydd.
Mi wnes i sylwi ar lawer o ddynion yn ystod yr wythnos oedd yn gwisgo bo-teis neu cravats, tybed y bydd hyn yn datblygu fwyfwy fel trend y stryd? Yn ogystal roedd y modeli gwrywaidd bron i gyd yn gwisgo eu gwallt yn eithaf hir wedi ei gribo yn ôl yn slic a roedde nhw'n edrych yn 'ol'reit' yn fy marn i! Dwi'n edrych ymlaen i ddarllen am sioe ffasiwn Llundain rwan tybed os y gwelwni fwy o hyn?
Am fwy o luniau o'r holl gasgliadau cer draw i'r wefan swyddogol sef www.mbfashionweek.com/newyork/fall2010.
Hwyl am y tro, Cariad Mawr, Lowri xx


























Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.