Archifau Gorffennaf 2010

Mynd o Steddfod i Steddfod

Categorïau:

Huw Stephens Huw Stephens | 22:18, Dydd Iau, 29 Gorffennaf 2010

Sylwadau (1)

Wel mae hi bron yn amser yr Eisteddfod. Cyffrous ynde?

Fi erioed wedi colli Eisteddfod Genedlaethol, a fi'n edrych mlan i weld be sy'n digwydd yng Nglyn Ebwy wthnos nesa. Fyddai'n fyw ar C2 nos Lun, Mawrth, Iau a Gwener o Maes B ar C2 gyda hynt a helynt be sy'n digwydd yn y Steddfod.

Fi'n edrych mlaen i brynu'r CDs newydd sy' allan a phrynu llyfr fyddai siwr o fod byth yn darllen.

Fi'n 29 nawr, a llynedd ro'n i'n teimlo'n hen yn Maes B. Fi flwyddyn yn hyn eleni, felly fydd hi'n waeth siwr o fod. Ond fi'n edrych mlaen i weld rhai o'r bandiau yn chware. Fi'n colli gig olaf Y Promatics; pob lwc ir band a diolch am y gerddoriaeth dda. Roedd gweld nhw yn Maes B llynedd yn bleser pur. Fi'n edrych mlaen i glywed be mae nhw'n neud yn y dyfodol.

Gobeithio eich gweld chi yng Nglyn Ebwy os chi yn y Steddfod.

Huw.

Cowbois yn y Sioe

Categorïau:

Criw C2 Criw C2 | 11:48, Dydd Llun, 26 Gorffennaf 2010

Sylwadau (0)

Wythnos diwethaf, mi aeth Criw C2, draw i Lanelwedd ar gyfer y Sioe Frenhinol. Mi oedden ni gyd draw yn y Pentre Ieuenctid ar y nos Sul ar gyfer gig Cowbois Rhos Botwnnog.

Dyma dipyn o luniau:

cowbois2.jpg

cowbois3.jpg

cowbois4.jpg

cowbois5.jpg

cowbois6.jpg

Gwyl Plastaf

Categorïau:

Criw C2 Criw C2 | 11:56, Dydd Gwener, 16 Gorffennaf 2010

Sylwadau (0)

Ddoe, mi aeth Glyn a Magi a chriw C2 draw i gaeau ysgol Plasmawr ar gyfer gwyl Plastaf.

Yn perfformio eleni oedd Nos Sadwrn Bach, Osian Hedd a Catrin Herbert. Mi gafon ni 'bnawn arbennig. Dyma ychydig o luniau:

plastaf1.jpg

plastaf2.jpg

plastaf3.jpg

plastaf4.jpg

plastaf5.jpg