Archifau Rhagfyr 2010

Tiwns Nadolig

Categorïau:

Huw Stephens Huw Stephens | 12:53, Dydd Mercher, 22 Rhagfyr 2010

Sylwadau (0)

Ar raglen nos Lun nes i chware dwy awr o diwns Nadolig gwych o bob math. Ac un gân ddim byd i neud 'da Dolig gan Catrin Herbert sydd yn dda iawn. Os naethoch chi golli hi mae modd gwrando nôl dros y Dolig:

cliciwch yma.



Hefyd, nos Lun Rhagfyr 27 fyddai mlaen gyda sesiynau'r flwyddyn wedi eu recordio i C2, y Stafell Fyw ag Unnos. Digon o bethe da i fwynhau fane.

Gobeithio gewch chi Nadolig a Blwyddyn Newydd hyfryd.

Trowsus yn tynhau!

Categorïau:

Ifan Evans Ifan Evans | 17:04, Dydd Mawrth, 14 Rhagfyr 2010

Sylwadau (0)

Wythnos arall wedi hedfan heibo a dwi'n barod ar gyfer rhaglen llawn dop arall heno. Ma rhaid gweud dwi mewn hwyliau ardderchog gan fod Man Utd wedi curo Arsenal neithwr a nawr yn eistedd yn bert ar frig y gynghrair, gobeithio allwn ni aros fyna!

O ran fy ngyrfa bêl-droed i, tawel iawn yw hi 'di bod oherwydd y tywydd ers rhai wythnosau bellach, ond i ni (Pontrhydfendigaid) fod chware Aberaeron Dydd sadwrn - felly gobeithio fydd y tywydd mawr sydd fod cyrraedd Dydd Gwener yn cadw draw, achos ma ambell i bâr o jeans yn dechre mynd braidd yn 'snug' yn barod!

Ta beth, yr un fydd y drefn heno gen i - cerddoriaeth dda, digon o nonsens a ddwli gyda Owain Llŷr wrth i ni edrych nôl ar chwaraeon y penwythnos a fy ngwestai arbennig fydd Owain Phillips, un o gyflwynwyr y gyfres Hacio ar S4C, felly edrych 'mlan i fynd ar daith 'da Owain ar Ifan yr Injan! Cofiwch wrando de rhwng 10 a 12. Ciao for now!

Bieber ar y brig, a Saizmundo yn ei ol

Criw C2 Criw C2 | 15:55, Dydd Mawrth, 14 Rhagfyr 2010

Sylwadau (0)

Tatws poeth Dodd com neithiwr...

Mae siart o 10 fideo cerddorol mwyaf poblogaidd y flwyddyn ar wefan YouTube wedi ei gyhoeddi, ac mae'r glaslanc-bopiwr o America yn amlwg iawn yn y siart:

1. Justin Bieber ft Ludacris - Baby

2. Shakira - Waka Waka

3. Eminem ft Rihanna - Love The Way You Lie

4. Eminem - Not Afraid

5. Rihanna - Rude Boy

6. Justin Bieber ft Jaden Smith - Never Say Never

7. Justin Bieber - Never Let You Go

8. Lady GaGa - Alejandro

9. Justin Bieber ft Usher - Somebody To Love (remix)

10. Lady GaGa ft Beyonce - Telephone

Taten arall neithiwr oedd fod y rapiwr Deian ap Rhisiart aka Saizmundo yn rhagweld y bydd canu gwleidyddol yn dod yn fwy amlwg yn Nghymru dros y blynyddoedd nesaf. Mae Saizmundo wedi bod yn eithaf distaw dros y flwyddyn / ddwy ddiwethaf, ond y newyddion da ydi ei fod yn gweithio ar albym newydd ac yn gobeithio ei ryddhau yn fuan yn 2011.



Y car 'di torri!

Categorïau:

Ifan Evans Ifan Evans | 18:10, Dydd Mawrth, 7 Rhagfyr 2010

Sylwadau (0)

Wel, dyma fi wedi cyrraedd Caerdydd trwy'r eira a'r rhew o Bontrhydygroes. Yn gynta diolch i Dylan Ebenezer am gadw fy sedd i'n gynnes wthnos dwetha gan fy mod i wedi bod yn cyflwyno i S4C o'r Ffair Aeaf yn Llanelwedd - a bois bach odd hi'n ffres na, -14 gradd yn ystod y dydd cofiwch!

Ers hynny dwi 'di cal wthnos reit drafferthus a dweud y gwir. I ddechre, ma nghar i 'di bod yn gwrthod dechre, a neb yn gwbod pam. Ma'r garej di trio sawl peth i ddatrys y broblem ond mae e dal yn pwdu!

Ond yn waeth na hynny, ma'r tywydd oer di rhoi stop ar unrhyw obaith oedd genai chware pêl-droed ac os yw rhagolygon tywydd Mari Grug yn gywir, fydd na ddim pêl-droed i ni yng nghlwb pêl-droed y Bont (Pontrhydfendigaid) penwythnos yma chwaith, gan fod y cyfan wedi rhewi yn gorn!

Ond stim ots achos mae bron yn Ddolig, dwi nôl ar y radio heno am 10pm tan 12 a fy ngwestai arbennig yw'r cerddor a'r actor amryddawn Ryland Teifi. Felly welai chi gyd bryd hynny gobitho.

Albyms newydd... AM DDIM!

Criw C2 Criw C2 | 14:21, Dydd Mawrth, 7 Rhagfyr 2010

Sylwadau (0)

Cyfarchion yr wyl!

Mae'n edrych fel fod nifer o fandiau ac artistiaid yn teimlo'n hael iawn a hithau'n gyfnod y Nadolig, gan roi eu cynnyrch diweddaraf am ddim i'w ffans.

Euros Childs

Rhyddhaodd Euros ei albym ddiweddaraf, 'Face Dripping', ar Rhagfyr 6ed - ac mae ar gael i'w lawrlwytho am ddim o'i wefan www.euroschilds.com. Os ydych chi'n teimlo'n euog yn lawrlwytho albwm gyfan am ddim mi allwch roi cyfranniad tuag ato, neu brynnu copi caled o'r albym ar ffurf CD.

Mr Huw

Hefyd ar Rhagfyr 6ed rhyddhaodd Mr Huw ei albym ddiweddaraf. 'Gogleddwyr Budur', sydd ar gael i'w lawrlwytho am ddim o www.mrhuw.com.

Huw M

Bydd EP o ganeuon Nadoligaidd gan Huw M ar gael mewn gig arbennig yn y Gwdihw, Caerdydd ar Rhagfyr 15ed, ond gallwch lawrlwytho y caneuon am ddim wedi hynny.

Colorama

Yn ymuno yn yr haelioni Nadoligaidd yma hefyd mae Colorama. Mae eu sengl newydd nhw, 'Cerdyn Nadolig' ar werth ers Rhagfyr 6ed, ond mi allwch chi lawrlwytho y prif drac oddi ar y sengl am ddim - cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Hwyl am y tro, a chadwch yn gynnes!

Taith C2/Ciwdod

Categorïau:

Magi Dodd Magi Dodd | 11:52, Dydd Mercher, 1 Rhagfyr 2010

Sylwadau (0)

Helo! dwi'n sgwennu hwn yn neuadd ysgol Aberteifi heddi.Ni 'ma fel rhan o daith C2 Ciwdod. Y croeso yn gynnes iawn - piti allwn ni ddim dweud r'un peth am y tywydd!

Meic, Gruff, Trev a fi wrthi yn cynnal gweithdy radio - Mei Gwynedd o'r Sibrydion yn gweithio gyda band yr ysgol i gynhyrchu cân newydd sbon!



Mi gewch chi glywed y gân a cheisiade criw Aberteifi heno am 7 ar Dodd com.



Magi x