Archifau Ebrill 2011

Tair Sesiwn ar C2

Categorïau:

Criw C2 Criw C2 | 15:25, Dydd Iau, 21 Ebrill 2011

Sylwadau (0)

Fel rhan o wledd gerddorol Ebrill ar Radio Cymru fe fydd yna 3 sesiwn ar C2 heno.

Ar Dodd com bydd Magi'n clywed sesiwn fyw gan Yr Angen.

Bydd Dan Griffiths yn ôl i son am ei wythnos ar raglen Lisa Gwilym a bydd sesiwn arbennig gan y cerddor Dyfrig Evans.

Sesiwn fyw gan Llwybr Llaethog a'r newyddion diweddara o L.A. gan Elain Edwards ar raglen Daniel Glyn.

Siom y penwythnos ond rhaglen llawn dop

Categorïau:

Ifan Evans Ifan Evans | 20:57, Dydd Mawrth, 19 Ebrill 2011

Sylwadau (0)

Helo bobol annwyl.Pawb yn iawn? Gobitho bo chi di cal penwythnos gwell na fi. Dwi wedi stopi llefen erbyn hyn ar ôl i Man Utd golli yn rownd gyn-derfynol Cwpan Lloegr yn erbyn Man City o bawb. A rhywun sydd wedi cal penwythnos trist iawn fel fi yw fy ngwestai arbennig i heno, sef Geraint Hardy un o gyflwynwyr Stwnsh, achos ma deryn bach di gweud wrthai i fod en gefnogwr brwd o Man Utd hefyd, felly bydd gyda ni ddigon i'w drafod heno rhwng 10 a 11.

Ac yna rhwng 11 a 12, bydd Meilyr Emrys yn ymuno â fi am y tro cyntaf i edrych nôl ar chwaraeon y penwythnos, ac wrth gwrs i ddyfarnu y sgorgasms wthnosol.

Cofiwch wrando felly rhwng 10 a 12.

Finyl a Mwy o Finyl

Huw Evans Huw Evans | 11:55, Dydd Llun, 18 Ebrill 2011

Sylwadau (0)

Nos Wener ar C2, mi wnes i Dyl Mei a Gary Melville recordio rhaglen o lyfrgell recordiau'r BBC.



I'r rhai sydd a diddordeb, dyma restr o'r caneuon wnaethon ni ei chwarae yn ystod y rhaglen:

AD73 - Jerusalem

Huw Jones - Gwylltiaid Cochion Mawddwy

Janet Rees - Do Dos a Dinasours

Ann Morris - Machlud

Freedom of Rapsodia - Freedom

Triban - Dilyn y Ser

Triban - Y Glowr

The Startlets - Rhoi Fy Mhen i Lawr

Talcen Crych - Branwen

Cher - I Walk on Guilded Splinters

The Good Vibrations - Over To You

Endaf Emlyn - Dwynwen

Iola a Nia - Pwy a Wyr

Carmen Bwrana Jones - Mae'n Fy Ngharu I

The Left Bank - Barterers and Their Wives

Awelon Haf - Cwm Tawelwch

Ann Morus - Machlud

Geraint Jarman - Pan ddaw'r Dydd

Archangel's Thunderbird - Amon Duull 11

Rhian Rowe - Paham y Gadewaist

Treflyn - Can Yswistir

Dick Allen - Love's Question

Edward H Dafis - Gwrandewch

Os oeddech chi allan nos Wener a heb glywed, mae'n bosib ail wrando ar yr iplayer yma

Bandiau Maes B 2011!

Categorïau:

Criw C2 Criw C2 | 20:00, Dydd Iau, 14 Ebrill 2011

Sylwadau (0)

Ar raglen Dodd Com heno (14 Ebrill), fe gyhoeddodd Guto Brychan, trefnydd Maes B enwau'r bandiau y gallwn edrych ymlaen at eu gweld yno eleni. Am un wythnos un unig, bydd campws Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam yn gartref i Faes B a bydd dau lwyfan i'r maes eleni, sef llwyfan Undeb y Myfyrwyr a llwyfan Neuadd William Aston.

Dyma'r bandiau fydd yn cymryd rhan, mwynhewch!

Nos Sadwrn 30 Gorffennaf

Y Niwl

Dau Cefn

Yucatan

Land of Bingo

Nos Lun 31 Gorffennaf

Brwydr y Bandiau

Y Cyfoes

Nos Fawrth 1 Awst

Brwydr y Bandiau

Breichiau Hir

Nos Fercher 2 Awst

Undeb y Myfyrwyr: Meic Stevens, Lleuwen, Gildas

Neuadd William Aston: Elin Fflur, Al Lewis Band, Yr Angen

Nos Iau 3 Awst

Undeb y Myfyrywyr.: Plant Duw, Jen Jeniro, Sensegur

Neuadd William Aston: Yr Ods, Y Bandana, Y Trydan

Nos Wener 4 Awst

Undeb y Myfyrwyr: Acid Casuals, Plyci, Crash.Disco!, Cloud4Mations, DJs Electroneg 1000

Neuadd William Aston: Cowbois Rhos Botwnnog, Gai Toms, Catrin Herbert

Nos Sadwrn 5 Awst

Undeb y Myfyrwyr: Colorama, Huw M, Trwbador

Neuadd William Aston: Sibrydion, Masters in France, Violas



Pregethu am Helyntion

Categorïau:

Criw C2 Criw C2 | 12:17, Dydd Mawrth, 12 Ebrill 2011

Sylwadau (0)

Band Gwyliwch y Gofod diweddaraf C2 yw Helyntion Jos y Ficar - band ska-ffync cyffrous o ardal Porthmadog.

Yn dilyn y newyddion trist fod un o fandiau byw mwyaf poblogaidd Cymru, Derwyddon Dr Gonzo, wedi rhoi eu gitars (a'u dillad ffansi) yn yr atic, mae Helyntion Jos y Ficar yn fand ifanc all helpu i lenwi'r bwlch enfawr sydd wedi ei adael ar ôl yn dilyn ymddeolaid y Derwyddon.

Ska-ffync hwyliog a geiriau ffraeth a doniol - mae hwn yn siwr o blesio cynulleidfaoedd led-led Cymru, a fydd hi'n fawr o dro nes fydd pawb yn dechrau pregethu am Helyntion Jos y Ficar (sori, odd rhaid)!

Gallwch ddarganfod mwy am Helyntion Jos y Ficar ar eu tudalen nhw ar Facebook - a chofiwch fod manylion HOLL gyn-fandiau Gwyliwch y Gofod ar wefan C2.

Hwyl am y tro - dwi off i ddawnsio!

Rob.

Gwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru 2011

Categorïau:

Criw C2 Criw C2 | 11:36, Dydd Mawrth, 12 Ebrill 2011

Sylwadau (1)

Roedd cyffro o fore tan nos (Dydd Iau, Ebrill 7) wrth i BBC Radio Cymru ddatgelu enillwyr Gwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru 2011 ar amrywiol raglenni'r orsaf drwy gydol y dydd.

Yn ogystal â datgelu enillwyr y gwahanol gategorïau, a benderfynir gan banel o arbenigwyr o'r diwydiant cerddoriaeth, darlledwyd sesiynau byw a chyfweliadau gan ddechrau gydag enillwyr cynta'r dydd sef Yr Ods, a enillodd wobr Band Gorau 2010 ar raglen Dafydd a Caryl.

Roedd Steve Eaves eisioes wedi ei gyhoeddi fel enillydd Cyfraniad Arbennig ar yr orsaf dydd Llun.

"Mae Gwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru yn uchafbwynt blynyddol yng nghalendr cerddoriaeth gyfoes yng Nghymru," meddai Sian Gwynedd, Golygydd BBC Radio Cymru a Theledu Cymraeg. "Mae'r gwobrau, sydd yn cael eu dewis gan gynrychiolwyr sy'n cynnwys labeli, hyrwyddwyr a threfnwyr gigs, yn ddathliad o'r holl gerddoriaeth sydd wedi cael ei gynhyrchu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

"Eleni roedd y Gwobrau yn ymestyn drwy gydol y dydd ar Radio Cymru gydag enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar raglenni Dafydd a Caryl, Nia a Geraint Lloyd a bu nifer o sesiynau byw gan wahanol fandiau hefyd.

"Yr wyf yn arbennig o falch fod Gwobr y Cyfraniad Arbennig wedi ei ennill eleni gan Steve Eaves. Mae ei gyfraniad i'r sîn roc yng Nghymru wedi bod yn amhrisiadwy ac mae yna barch mawr tuag ato."



Dyma restr enillwyr Gwobrau RAP BBC Radio Cymru 2011:

Cyfansoddwr y flwyddyn

Gareth Bonello

Can y flwyddyn

Jen Jeniro - Dolphin Pinc a Melyn

Artist Benywaidd y Flwyddyn

Cate Le Bon

Cynhyrchydd y Flwyddyn

Dave Wrench

Gwobr Siart C2 ( y grwp sydd wedi bod ar frig y siart amlaf )

Gwibdaith Hen Fran

Digwyddiad Byw y Flwyddyn

Gwyl Gardd Goll

Artist Gwrywaidd y Flwyddyn

Al Lewis

Sesiwn C2 y flwyddyn

Y Gwylanod

Grwp a ddaeth i amlygrwydd

Crash.Disco!

Band Byw y Flwyddyn

Y Niwl

Albwm y Flwyddyn

Y Niwl - Y Niwl

Band neu Artist y Flwyddyn

Yr Ods

Gwobr Cyfraniad Arbennig

Steve Eaves

Gallwch wrando ar sesiynau o'r noson ar wefan Gwobrau RAP 2011.

Brwydr y Bandiau 2011

Criw C2 Criw C2 | 16:28, Dydd Llun, 4 Ebrill 2011

Sylwadau (0)

Ennill gornest y flwyddyn a'r cyfle euraidd i recordio sesiynau, gwneud cyfweliadau a chael eu gweld a'u clywed mewn gwyliau cerddorol, gan gynnwys Gŵyl Sŵn y DJ Huw Stephens - dyna sydd o fewn gafael y pedwar band sydd ar fin mynd ben ben a'i gilydd yn rownd derfynol Brwydr y Bandiau Menter Iaith Cymru a C2 Radio Cymru 2011 ar Fai 4.

Y pedwar band cyffrous sydd wedi brwydro i'r brig a bachu ar y cyfle i fynychu stiwdio recordio broffesiynol i baratoi ar gyfer y rownd derfynol yw Sian Miriam o Ysgol Gyfun Llangefni; Y Saethau o Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon; Downhill, Ysgol Gyfun Maes yr Yrfa, Cefneithin a Swnami, Coleg Meirion Dwyfor, Dolgellau.

Mae'r wobr derfynol yn cynnwys ymddangosiad yng Ngŵyl Sŵn Huw Stephens yng Nghaerdydd, sesiwn ar C2 Radio Cymru, lluniau proffesiynol o'r band, cyfweliad yng Nghylchgrawn Y Selar, cyfle i berfformio ar Daith Ysgolion C2 2011 a llawer iawn mwy!

Dyma eiriau un o'r beirniad Rhodri Llwyd Morgan, cyn aelod o Cerrig Melys am Sian Miriam



"Mae gyda ni fan hyn dalent newydd - mae'n ddewr . . . llais hynod o aeddfed ac mae'n gymeriad cryf, " meddai Rhodri.

Ysu i glywed rhagor gan Y Saethau wnaiff y beirniad Mei Gwynedd, Y Sibrydion "a gweld be arall sydd ganddyn nhw i fyny eu llawes," meddai Mei. "Mae'r llais yn sefyll allan, mae'r geiriau mor gryf - mae'n smart."

Dywed Rhodri am Downhill ei fod yn "hoffi'r awyrgylch dywyll 'na ac mae'r offerynu yn gryfder i'r gân."

Canmol egni Sunami a wnaiff y trydydd beirniad, y DJ a chyflwynydd Ian Cottrell, sydd o'r farn mai nhw sydd â'r gân "sy'n swnion fwyaf proffesiynol o ran strwythur."