Heno ar y rhaglen, mi fydda' ni'n cael hanes Gwyl Taro'r Doc gan Gruff Jones. Yn ogystal a chreu cerddoriaeth dan yr enw Crash.Disco! mae Gruff yn ddrymwir o fri (wedi pasio gradd 8!!!!) felly fe ddylai hynny fod yn hynod ddifyr. Mae Gruff hefyd am ddod a remix Crash.Disco! o Y Gwir gan Kronwall hefo fo i'w chwara'.
Mi fydd 'na fwy o ganeuon newydd gan Sibrydion a Huw Haul hefyd, felly welai chi am 8pm
Lis a'r criw
x
ON mi 'dwi hefyd yn gofyn i chi ddisgrifio eich wythnos mewn dim mwy na 3 gair!! Gyrrwch neges!
Gobeithio fod pawb yn mwynhau'r haul!
Ma' 'na lot o gerddoriaeth hafaidd ar y rhaglen heno, gan gynnwys can newydd sbon gan Wibidi - band newydd Cian, Daf Ieuan a Guto o'r Super Furries. Hefyd, mi fydd yna ddwy gan arall newydd sbon gan y Sibrydion.
Mi fydd Rhydian o'r Creision Hud yma am 8pm yn dewis Caneuon I... ac ar ol 9pm, Iwan Standley fydd yn dod a newyddion y sin.
Welai chi am 8pm gobeithio
Lis a'r criw
x
Rhaglen Lisa Gwilym - Criw Gwyl y Felin a Chriw Gwyl Bro Dinefwr fydd yn cymryd rhan yn y cwis heno.
Bydd cyfle i chi glywed mwy o ganeuon newydd gan y Sibrydion hefyd - oddi ar eu albym newydd 'Uwchben y Drefn'.
Cyffro mawr yn y swyddfa bore 'ma - 'da ni wedi derbyn copi o albym newydd y Sibrydion "Uwchben Y Drefn". Fe wnawn ni drio rhoi mwy o fanylion ar y blog yn fuan, ond am rwan, 'da ni gyd am fynd yn ol i wrando a dewis caneuon at heno.
Felly cofiwch - caneuon newydd Sibrydion heno gen i am 8pm!!!
Haia! Ar ddiwedd wythnos arall, dyma i chi ambell uchafbwynt:
- EP Jen Jeniro, "Swimming Limbs", wedi ein cyrraedd o'r diwedd, ac mae'n wych. Band arbennig arall yn nhraddodiad cerddorol Dyffryn Conwy.
- Chwarae traciau oddi ar EP newydd Trwbador, "Sun in the Winter"", hyfryd o swynol ac arbrofol. Pob lwc i Owain ac Angharad efo taith y Selar (ac i Creision Hud a Sensegur wrth gwrs), a gwellhad buan i Angharad efo'i llygad.
- Griff Lynch wedi fy nghyffroi efo'r newyddion bod yr Ods 'di bod mewn stiwdio recordio am ryw ddeg diwrnod - dwi methu aros i glywed pa swn sy'n dod nesa ganddyn nhw.
- Wedi cael rhagflas o EP newydd Masters in France, "Inhale", sydd allan mis Medi. Y trac "Control" yn swnio'n arbennig o dda, ac mae modd lawrlwytho am ddim o soundcloud y band.
- Poket Trez, triawd newydd o'r gorllewin sy'n rhyddhau cynnyrch ar label MC Mabon, a dwi'n edrych 'mlaen gymaint i gyfarfod a chlywed mwy gan Coco, Dr Feelgood a Lenki!
- Newyddion da am y label newydd "Recordiau Lliwgar", sy'n rhyddhau albym o'r enw "Y Record Goch" fydd yn cynnwys traciau gan Cowbois Rhos Botwnnog, Sensegur a Dau Cefn.
- Dyfyniad yr wythnos gan Geraint Pickard o Clinigol (ein cwmni nos Fercher yn dewis "caneuon i") - "cruises are for the newly wed or the nearly dead"! Tydi Geraint ddim yn hoffi hedfan, felly mwynha dy foradith Ger, a brysia efo'r ail albym "Disgopolis".
- Ac i gloi, mawr ddiolch i bawb am gysylltu heno efo caneuon llawn "wmff" ar gyfer nos Wener, wedi mwynhau lot!
Mwynhewch y penwythnos! Dwi'n mynd i osod pabell yn y lolfa o flaen y bocs a gwylio Glastonbury, gen i gymaint o atgofion spesial o fod yne llynedd yn yr heulwen braf!
Welai chi eto am 8 nos Lun! Lis xx
Bore da bobol
Ar Twitter a Facebook C2 bore 'ma, 'da ni wedi bod yn holi am ganeuon hefo "wmff" hy caneuon hapus, hwyliog, i ddawnsio a chanu iddyn nhw ar nos Wener. Diolch i bawb am yr awgrymiada'. Dyma restr chwara' ANHYGOEL heno Lisa Gwilym 8pm - 10pm
1 Mr Huw - Petha Bach
2 Mr Huw - Ar Dan
2 SFA - Focus Pocus
3 Foster The People - Pumped Up Kicks
4 Derwyddon Dr Gonzo - Chaviach
5 Masters In France - Yn Y Nos
6 Polarsets - Sunshine Eyes
7 Lladron - Cymeryd Gwyliau
8 Frizbee - Heyla
9 CRB - Os Ti'n Dod Nol
10 Swnami - Mwrdwr Ar Y Manon
11 Beastie Boys - Intergalactic
12 Y Cyrff - Trwy'r Cymylau
13 Cate Le Bon a Plant Duw - Byw Ar Gwmwl
9pm
1 Franz Ferdinand - This Fire
2 Clustiau Cwn - Byw Ar Y Radio
3 Jen Jeniro - Mafall
4 Bon Iver - Album
5 Hanner Pei - Parti
6 Sibrydion - 9 Bywyd
7 Jonsi - Boy Lilikoi
8 Al Lewis - Pryfed Yn Dy Ben
9 Y Rei - rebal Heb Achos
10 Violas - Coeden Deulu
11 The Thrills - Don't Steal Our Sun
12 Edward H Dafis - Rosi
Helo bobol
Pa ddanteithion cerddorol sy' gen i heno? Wel, tracie newydd gan Masters In France, Trwbador a Poket Trez; albym yr wythnos ydy albym newydd Bon iver; ac fe gawn ni olwg ar Goeden Deuluol Gerddorol Cylchgrawn Y Selar.
Hefyd ynde, mi fydd y Cadwyn Coleg yn cyrraedd Prifysgol Caerdydd, ac mi fydd Catrin Mara yma hefo Clwyddau Catrin
Welai chi mewn ryw 10 munud ar bbc.co.uk/c2
Lis
x
Heno 'da ni'n chwilio am eich atgofion chi yn Glastonbury - da neu ddrwg!
Hefyd heno - Geraint o Clinigol yn dewis Caneuon i.... a Bethan Lloyd yn trafod Newyddion y Sin.
Dilynwch ni ar Twitter a Facebook
Mae Y Bandana yn mynd i fod yn brysur iawn o hyn tan Eisteddfod Wrecsam.
Bydd y band yn perfformio mewn nifer o wyliau yn ystod Mehefin a Gorffennaf gan gynnwys Gŵyl Cefni, Gŵyl Tân Tanat, Taran Tudweiliog, Y Sesiwn Fawr, Gŵyl y Gwachel, a Gŵyl y Ffin.
Mae'r band hefyd wedi trefnu taith o amgylch Cymru ac yn gobeithio cael amser dros yr haf i recordio caneuon newydd.
- 15 Gorffennaf - Sesiwn Fawr Dolgellau
- 16 Gorffennaf - Gŵyl y Gwachel, Pontardawe
- 17 Gorffennaf - 10 Feet Tall, Caerdydd
- 20 Gorffennaf - Clwb y Bont, Pontypridd
- 21 Gorffennaf - Tafarn Y Ship, Llangrannog
- 22 Gorffennaf - Tafarn Y Fic, Llithfaen
- 23 Gorffennaf - Gŵyl y Ffin
Meddwl fod fersiwn Rapsgaliwn o Hei Mr Urdd yn bling-tastig?
Gwrandewch ar Dodd Com heno pan fydd Ysgol Glan-y-Môr, Pwllheli ac Ysgol Maes-yr-Yrfa, Cefneithin yn gneud fersiynau mwy unigryw fyth o'r gân yn y Cwis Pop heno.... bbc.co.uk/c2 yn fyw am 7
Band Gwyliwch y Gofod yr wythnos yma ar Dodd com yw The Deadly Saith.
Band newydd arbennig o gyffrous o ardal Caerfyrddin. 7 aelod yn cyfansoddi a recordio caneuon sydd yn gymysgedd o ska, roc, seicadelia, cerddoriaeth y byd, drwm a bas... Wedi cael adolygiadau gwych am eu perfformiadau byw eisioes, mae nhw'n fand sydd werth cadw llygaid arnyn nhw.
Mi fydda nw'n gigio dros y misoedd nesaf yn ogystal a recordio rhagor o ganeuon, felly cadwch eich llygaid a'ch clustiau ar agor!
ar Dodd Com heno! Sarah Louise Jones o flwyddyn 12 Ysgol Cymer Rhondda fydd mewn da Magi heno bbc.co.uk/c2 yn fyw am 7! Cym hona!
Yn dilyn EP cyntaf VVOLVES yn mis Chwefror, mae'r band wedi rhyddhau dau sengl newydd i'w lawrlwytho am ddim.
Mae'r traciau 'People' a 'Strange Blood' ar gael rwan o wefan bandcamp y band neu o wefan soundcolud peski.
... gan fandiau newydd. Heno ar Dodd com cyfle i glywed caneuon gan y bandiau nath gystadlu yng Nghystadleuaeth Roc a Phop yr Urdd gan gynnwys Y Gwirfoddolwyr, Fast Fuse, Bromas a Nebiwla. Dodd Com heno am 7 - bbc.co.uk/c2