Archifau Gorffennaf 2011

Ffrwydriad o Ffestiniog

Categorïau:

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 08:37, Dydd Mawrth, 26 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Erwyn J oedd fy ngwestai arbennig neithiwr. Mae Erwyn yn arbennigwr ffrwydron yn chwarel lechi Blaenau Ffestiniog - fo ydy y "Bomb o Blaenau" neu'r "Ffrwydriad o Ffestiniog"! Dyma lunie gan Erwyn o un o'i ffrwydriadau mwya'.

Cofion

Lis a'r criw

x





lynie gan Erwyn o un o'i ffrwydriadau mwya'

lynie gan Erwyn o un o'i ffrwydriadau mwya'

Tracie byw Gwyl Gardd Goll ar C2 heno (25/07)

Categorïau:

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 13:32, Dydd Llun, 25 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Mi ges i benwythnos hyfryd yng Ngwyl Gardd Goll - tywydd perffaith, lleoliad bendigedig, a lot fawr iawn o fandie gwych. Heno rhwng 8pm, mi fydda' i'n chwara' tracie byw o'r wyl gan Yr Ods, Creision Hud a Land Of Bingo - a nos fory mi fydd gen i 'chydig o set vvolves.

Hwyl

Lis a'r criw

x

Albwm newydd Plant Duw

Categorïau:

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 09:34, Dydd Gwener, 22 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Helo!

O'n i'n falch iawn o gael 'anrheg' bach ar fy nesg bore 'ma - copi o albym newydd Plant Duw, hwre!

Lis

x

Plant Duw -

Plant Duw - "Distewch, Llawenhewch"

Newyddion Am Castell Rock

Categorïau:

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 08:55, Dydd Gwener, 22 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Newydd gyrraedd gwaith, a dyma ebost sydd newydd ein cyrraedd!

Lis

x

Mae dyddiad newydd ar gyfer Castell Rock, sef Dydd Sadwrn Awst 6ed 2011, yn dilyn y gohirwyd ar Gorffennaf 16 yn sgil y rhubydd o dywydd gwael .

Cynhelir yr ŵyl deuluol hon, a fydd yn fwrlwn o fiwsig di-baid a gweithgareddau i'r plant, ar safle bendigedig Castell Aberystwyth gyda golygfeydd gwych dros Fae Ceredigion. Ar ben hyn oll mae popeth yn rhad ac am ddim. Bydd y canwr-cyfansoddwr Meic Stevens yn cloi'r noson eleni a fydd llwyth o fandiau cyfroes yn berfformio yn ystod y dydd.

Bydd y cyngerdd yn dechrau am un o gloch ac yn gorffen gyda machlud yr haul gyda cymaint o fandiau a phosib yn perfformio yn ystod yr amser hynna - bydd un band yn gadael y llwyfan a'r nesaf yn barod i berfformio o fewn amser byr iawn.



Am ragor wybodaeth Ebostiwch info@castellrock.co.uk

www.castellrock.co.uk

www.myspace.com/castellrock

Cyfweliad blog gan Gruff Rhys

Categorïau:

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 13:14, Dydd Iau, 21 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Haia!

Edrych ymlaen ar Gwyl Gardd Goll erbyn hyn! O'n i'n meddwl bysa chi'n licio darllen cyfweliad wnaeth Dyl Mei hefo Gruff Rhys ar gyfer rhaglen yr wyl eleni. Dyma fo!

Lis

x

1.Yn 1976, rhyddhawyd ffilm o'r enw "One Hour to Zero" wedi ei leoli mewn pentref ffug o enw "Llynfawr", ond wedi ei ffilmio yn Nhrawsfynydd.

Mae'r ffilm yn dilyn criw o blant sy'n ceisio ffoi'r ardal ar ol rhybudd y bydd y pwerdy niwclear lleol yn chwythu fyny. Os bysa chdi yn Nhrawsfynydd

neu "Llynfawr"(... o bosib yno i drwsio sgidia) y diwrnod yna, be fysa chdi'n neud hefo dy awr olaf?

Efallai ymweliad a'r fferyllfa leol, neu'r dafarn gymunedol newydd yn Llanffestiniog, eistedd yn ol, a mwynhau'r olygfa; Apocalypse dros Ardudwy.

Mae'r bobl sy'n cefnogi agor atomfa newydd yn ynys Mon yn hollol wallgo! Yn enwedig os ydynt yn poeni am ddyfodol yr iaith! 'Bydd neb ar ol i adrodd yr hanes' mewn gair: 'Fukushima'



2.Faenol ta Finyl?

Yr hen gwestiwn, beth ydi Stad y Finyl?

3.Wyt ti ychydig yn siomedig na fydd Bryn Terfel yn ymuno hefo chi ar y llwyfan i berfformio, fel oedd yn digwydd mewn gŵyl arall oedd arfer digwydd yma?

Dwi'n caru Bryn Terfel, felly, ydw, Siomedig iawn.

4.Os fysa rhywun ddigon gwallgo' i ail neud y ffilm "Gwaed ar y Ser", pa sêr fysa chdi'n hoffi eu gweld yn serennu? Fel y dioddefwyr ac fel y llofrudd? A fysa'n bosib lladd rhywun mewn ffordd fwy anhygoel na rhoi Trydan trwy delyn?

Syniad Gwych! Efallai gallai arwr or byd chwaraeon gael ei gywasgu gan do symudol stadiwm y mileniwm. (mewn CGI 3-D)

5.Wedi llwyddiant y gigs hefo'r Niwl, oes bwriad i recordio unrhyw ddeunydd hefo'r grŵp?

Da ni wedi recordio soundtrack gyda'n gilydd i ffilm gan Phil Collins (go iawn!)

6. Ti'n ymddangos fel gwenynwr yn fideo i'r sengl "Honey All Over". Oes gen ti unrhyw gyngor i fynychwyr Gwyl Gardd Goll ar sut i osgoi cael eu pigo gan wenyn?

Peidiwch gadael eich pabell!

7.Sut brofiad oedd perfformio ac aros yn y gwesty Tony ac Aloma y Gresham yn Blackpool?

Ysgytwol! Does neb yn gresynu ymweliad a'r Gresham.

8. Yda ni'n debygol o weld cerddoriaeth y ffilm Seperado yn cael ei rhyddhau?

Gobeithio, main glamp o albwm; Mae o i gyd yn barod iw ryddhau unwaith dwi'n cytuno gyda dosbarthwr. Mae ynddi 8 can newydd, 10 darn offerynol a caneuon ychwanegol gan Kerdd Dant a gwesteion eraill.

9.Be fysa'r News of the World yn debygol o glywed os fysant nhw'n torri mewn i dy negeseuon ffôn symudol?

Dim byd o lawer o bwys.

10. Ac yn olaf, dwi ar ddallt mai hwn fydd y tro gyntaf i Echo and the Bunnymen a Badly Dawn Boy perfformio mewn gwyl yng Ngogledd Cymru. Oes gen ti unrhyw gyngor sa chdi'n pasio blaen iddynt ar sut i blesio cynulleidfa llawn Cymru?

Perfformio o flaen union jack anferthol.

Rhaglenni arbennig o'r daith disgos...

Categorïau:

Criw C2 Criw C2 | 12:37, Dydd Mercher, 20 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

A hithau'n ddydd Mercher rydyn ni bellach bron a dadflino ar ol taith disgos diwedd tymor wythnos dwethaf!

Diolch i Ysgol Bro Ddyfi, Ysgol Dyffryn Teifi ac Ysgol Maes Yr Yrfa am ddyddiau gwych - gobeithio eich bod chi wedi cael cymaint o hwyl a ni!

Dros yr wythnosau nesaf bydd rhaglenni arbennig yn cael ei darlledu ar C2 yn dilyn hanes ein dyddiau yn eich ysgolion - cafodd y gyntaf o Ysgol Dyffryn Teifi ei darlledu nos Wener dwethaf (15.7.11) a mae modd gwrando eto yma:

Bydd rhaglen arbennig o ysgol Maes yr Yrfa i'w clywed nos Wener nesaf (21.7.11) am 7 yn fyw ar y we ac yna ar gael ar yr iPlayer am saith diwrnod.

Diolch eto a mwynhewch yr hâf hiiiiiiiiiiiiiiiiiir!

Criw C2

Rhaglen niwlog heno....

Categorïau:

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 10:22, Dydd Mercher, 20 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Helo! Gruff Ab Arwel o Y Niwl sydd yn dewis 'Caneuon i...' heno a Ceri Phillips fydd yn trafod y newyddion cerddorol diweddaraf.

I helpu Lisa - sgynnoch chi gwestiwn i Gruff...?!

Cysylltwch ar Facebook neu Twitter.

Neges gan Griw Nyth / Gwyl Gardd Goll

Categorïau:

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 19:39, Dydd Mawrth, 19 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Haia!

Meddwl bysa ambell un hefo diddordeb yn y neges yma dwi newydd gael gan Gwyn Eiddior am Gwyl gardd Goll

Lis

x

Shwmai?

 

Oes gan raglen Lisa 'Slot Prynnu a Gwerthu a Adfyrteisio am Gaethweision'?

 

Fysa modd holi'r gwrandawyr os hoffen nhw ddod i helpu criw Nyth i greu addurniadau ar gyfer yr wyl? Da ni angen help a gawn nhw helpu i neud blodau anferth a efallai ymweld a ynys bellenig [honna ar ganol y llyn!]

 

 ''Os oes na unrhywun ffansi dod i ymuno a chynhorthwyo yn hwyl a sbri a chydig o waith caled o greu a gosod addurniadau ar gyfer Gwyl Gardd Goll penwsos yma, cysylltwch a fi! Fyddwn ni wrthi yng Ngaernarfon o 5 nos fory [Mercher] a'r Faenol nos iau. Fysa ni'n ddiolchgar iawn a gewch chi beint a byrgyr oleia!

 

Da ni ddim angen degau o bobol obfiysli, mond ambell un efo mymryn o dalent creadigol/peirianyddol.

allan nhw gysylltu a grwp Nyth ar gweplyfr/twitter

 

 

Diolch

Cymry a Gwobrau Mercury

Categorïau:

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 12:15, Dydd Mawrth, 19 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Llongyfarchiadau mawr i Gwilym Simcock ar gael ei enwebu ar restr fer Gwobr Cerddoriaeth Mercury. Newyddion gwych!

Llongyfarchiadau hefyd i Dave Wrench, wnaeth recordio album Everything Everything, sydd hefyd ar y rhestr!

Hwyl am y tro

Lis a'r criw

x

Can newydd sbon Race Horses - am ddim!

Categorïau:

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 11:27, Dydd Llun, 18 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Newyddion da o lawenydd mawr!

Mae Race Horses wedi rhoi 3 trac i'w lawrlwytho am ddim ar safle we Soundcloud y band.

Edrych ymlaen i chwarae'r gan newydd ar y rhaglen heno!

Lis

x

Rhoi trefn ar yr wythnos!

Categorïau:

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 10:01, Dydd Llun, 18 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Ar raglen Lisa Gwilym heno, fe fydd Elliw Dafydd o Silian ger Llanbedr Pont Steffan yn trafod ei wythnos, ac fe fydd Mari Emlynyn rhoi trefn ar y dyddiadur.

A heno - gan ei bod hi'n wythnos y Sioe yn Llanelwedd, da ni isio i chi rannu eich atgofion chi am y Sioe hefo ni! Cysylltwch drwy Facebook, Twitter neu ar y testun.

Gohirio Castell Roc

Categorïau:

Criw C2 Criw C2 | 11:26, Dydd Iau, 14 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Roedd 4 gwyl i fod ymlaen y penwythnos yma - Gwyl Arall, Gwyl y Gwach, Sesiwn Fawr a Castell Roc. Yn anffodus, dim ond 3 fydd - mae Castell Roc wedi ei ohirio. Mae son am ail-drefnu'r wyl mis Awst, ond dim cadarnhad...

Peldroed a lawr ar lan y mor heno....

Categorïau:

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 10:00, Dydd Iau, 14 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Rhaglen Lisa Gwilym heno am 8 - Ioan Gwilym fydd yn trafod ei swydd haf, a Gareth Blainey sydd yn gem y Seintiau Newydd yn erbyn Mtjylland o Ddenmarc yn ail rownd ragbrofol Cynghrair Europa.

Iestyn o Ysgol Botwnnog fydd yn dewis can gwaithcartref.

A heno ... da ni isio gwybod be ydi'ch swydd haf chi??? Ydach chi'n neud rhywbeth go wahanol i lenwi misoedd yr haf??? Neu be oedd y swydd haf waethaf gawsoch chi??!!

Nôl ar y Lôn!

Criw C2 Criw C2 | 11:23, Dydd Gwener, 8 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Wythnos nesaf bydd criw C2 yn teithio i gynnal gweithdai radio yn rhai o ysgolion Cymru; byddwn yn ymweld ag Ysgol Bro Ddyfi, Ysgol Dyffryn Teifi ac Ysgol Maes yr Yrfa er mwyn croesawy'r gwyliau hâf mewn steil!

Rydyn ni wedi cael blwyddyn brysur iawn yn ymweld â pob rhan o Gymru a mae'r tri dyddiad olaf yn gaddo bod y gorau eto wrth i ni gynal disgos diwedd tymor gwyllt!

Felly os ydych chi'n ddisgybl yn un o'r ysgolion gwysgwch eich glitter a sgidiau dawnsio - mae C2 ar y ffordd!!

Colorama - newyddion

Categorïau:

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 16:10, Dydd Iau, 7 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Newyddion da iawn gan griw Colorama heddiw - mi fydda' nhw yn rhyddhau albym Gymraeg diwedd Medi/dechra Hudref o'r enw Llyfr Lliwiau.

Dwi'n gobeithio cael chwara' tracia ar y rhaglen wythnos nesa. Hwyl!

Lis

x

Elin Fouladi a Lisa Gwilym

Categorïau:

Criw C2 Criw C2 | 08:47, Dydd Iau, 7 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Roedd Elin Fouladi (El Parisa) yn y stiwdio gyda Lisa Gwilym neithwr yn trafod ei dylanwadau cerddorol a'r artistiaid oedd yn cael ei chwarae yn ty tŷ wrth iddi hi dyfu lan.

 

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

 



Gwrandewch ar y cyfweliad yn ei chyfanrwydd ar yr iPlayer.

Twmffat

Categorïau:

Criw C2 Criw C2 | 09:51, Dydd Mercher, 6 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Bore da

Newyddion gan Ceri Cunnington (gynt o Anweledig): mi fydd ei brosiect/band/grwp Twmffat yn rhyddhau albym newydd fydd allan "y diwrnod ar ol i'r steddfod orffen".

Bydd mwy gan Lisa Gwilym heno.

Newyddion Swnami

Categorïau:

Criw C2 Criw C2 | 09:11, Dydd Mercher, 6 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Mae Ifan o'r band Swnami wedi cysylltu â Chriw C2 gyda newyddion am y band.

Recordiwyd y gân "Mwrdwr ar y Manod" yn ddiweddar ac mae ar gael nawr ar wefan souncloud y band.

Ar ôl cael ei chwarae ar raglen BBC Introducing mae'r band wrthi'n paratoi gigs ar gyfer yr Haf ac yn gobeithio mynd yn ôl i mewn i'r stiwdio i recordio.

Gwefan Soundcloud Swnami

Sengl newydd Creision Hud

Categorïau:

Criw C2 Criw C2 | 09:05, Dydd Mawrth, 5 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Mae Creision Hud newydd ryddhau sengl ar gyfer Gorffennaf.

Mae 'Pyramid' ar gael i'w lawr lwytho am ddim oddi ar wefan Soundcloud y Band.

Soundcloud Creision Hud

Haul bob nos o'r wythnos !!

Categorïau:

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 11:31, Dydd Llun, 4 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Albym yr wythnos ydi albym newydd Huw Haul - 'Dyn o'r Coed'

Heno Rhys Llwyd fydd yn trafod ei wythnos, ac Elliw Mai yn rhoi trefn ar y dyddiadur.

A 'da ni isio gwybod be ydi'r fargen orau dach chi wedi ei gael mewn siop elusen??!

Uchafbwyntia' Wythnos Lisa Gwilym

Categorïau:

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 21:50, Dydd Gwener, 1 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Dyma i chi ambell uchafbwynt o'r wythnos sydd wedi bod!

- Albym newydd Huw Haul (sef grwp Huw o Lanbrynmair sy'n astudio'r haul!) o'r enw "Dyn o'r Coed". Edrych 'mlaen i chware mwy o draciau wythnos nesa' achos hon fydd 'Albym yr Wythnos'.

- Cwmni Gruff Jones - Crash Disco - nos Iau i sôn am Wyl Offerynau Taro cynta' Cymru sy'n digwydd yn y Galeri penwythnos nesa. Oedde chi'n gwybod bod gan Gruff radd 8 mewn offerynau taro?! Mae o hefyd yn brysur iawn yn gweithio ar EP, ac wedi gwneud ailgymysgiad gret o "Y Gwir" gan Kronwall

- Can i bobol ar ddeiet (!) - sengl newydd Poket Trez, "Ffati Bwm Bwm"! Ac yn cadw cwmni i Coco, Dr Feelgood a Lenki ar y sengl mae Swci a Mr Phormula (allan yn ddigidol Gorffennaf yr 8fed)

- Ond wrth gwrs, y geiriosen ar ben y gacen fel petai, oedd cyrraedd gwaith dydd Llun a gweld copi o "Uwchben y Drefn" ar fy nesg, llawenydd! Wedi misoedd o edrych 'mlaen at gael clywed pedwerydd albym y Sibrydion, roeddwn i 'chydig bach yn nerfus, achos does dim byd gwaeth na chael eich siomi gan un o'ch hoff fandie. Ond fel fase chi'n ei ddisgwyl gan un o fandie gorau Cymru, mae'r swn yn arbennig iawn. Mae'r albym yn debycach i'r albym ddwetha "Campfire Classics", nac i'r albym gynta "Jigcal". Sglein cynhyrchu, caneuon hynod fachog, rhai llawn gitars roc, eraill yn acwstig ac yn arafach. Mae'r tiwns 'di bod yn mynd rownd a rownd yn fy mhen, ac am hynny, dwi'n deud diolch o waelod calon i'r Sibrydion am gampwaith arall. Methu aros i weld y caneuon yn cael eu chwarae yn fyw !

Lis x

Siart C2 Hanner Cyntaf 2011

Categorïau:

Criw C2 Criw C2 | 21:16, Dydd Gwener, 1 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

S'mai!

Dyma siart fach digon difyr: Siart C2 Ionawr-Mehefin 2011. Does dim gwobr am fod yn rhif un hanner ffordd... ond dyma pwy sy' 'di bod fwya' boblogaidd yn y siart hyd yma

1. Y NIWL

2. STEVE EAVES

3. AL LEWIS BAND

4. YR ODS

5. BRYN FON

6. GWIBDAITH HEN FRAN

7. COWBOIS RHOS BOTWNNOG

8. GWYNETH GLYN

9. LLEUWEN

10. Y BANDANA


Rhestr Caneuon Rhaglen Lisa

Categorïau:

Criw C2 Criw C2 | 16:32, Dydd Gwener, 1 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Bob wythnos ar raglen Lisa, mi yda' ni'n chwara' tua 100 o ganeuon. Ar ddydd Iau mi fydda i a Lisa'n cael golwg ar y "playlist" ar gyfer yr wythnos nesa. Mi fydda' ni'n trio rhoi blaenoriaeth i betha' newydd, ac i fandia' sy'n brysur, a llunio rhestr...

Yn amlwg, nid dyma'r unig fandia' 'da ni'n chwarae - ma' 'na lawer mwy o dracia na hyn, ond dyma'r bandia fydd yn cael 'chydig mwy o sylw...

Cofion

Gar

Album Yr Wythnos - Huw Haul (Wythnos nesa - Jen Jeniro, ac yna Y Record Goch)

Coeden Deulu - Blondie

Artistiaid Cymraeg

Artistiaid Cymraeg Wakestock

Artistiaid Cymraeg Gwyl Y Cenhedloedd Bychain

Artistiaid Gwyl Bro Dinefwr

Artistiaid Gwyl Can Ar Dan

Sibrydion

Crash Disco - remix Kronwall

Plant Duw

Poket Trez

Banc

Sensegur

Creision Hud

Jen Jeniro

Geraint Jarman (Twrw Jarman)

Y Record Goch? - i'w gadarnhau

Awr1

Ed Sheeran - The A-Team

Miles Kane - Inhaler

Coldplay - Every teardrop Is A Waterfall

Noah And The Whale - Life Is Life

Sweet Baboo EP (+ Cate Le Bon)

Jen Jeniro

Arcade Fire - Speaking In Tongues

Awr2

Wibidi

Trwbador

Foster The People - Pumped Up Kicks

The Joy Formidable - A Heavy Abacus

Metronomy - The Bay

Bombay Bicycle Club - The Shuffle

Mr Phormula EP

Sleigh Bells - Rill Rill

Washed Out - Eyes Be Closed