Archifau Medi 2011

Anabledd a'r Cyfryngau

Categorïau:

Nia Medi Nia Medi | 20:18, Dydd Mercher, 28 Medi 2011

Sylwadau (0)

Mae Nia wrthi yn trafod sut ma' pobl ifanc ag anabledd yn cael ei portreadi yn y cyfryngau.

Ffion Miles yn cwestiynnu pam fod CYW ddim yn dilyn esiampl CBEEBIES dryw gyflwyno plant ag anabledd fel bod hyn yn dod yn rhwybeth cyffredin iddynt mewn oed ifanc. Yn trafod yn stiwdio mae Ynyr Wiliams o'r BBC a Elfyn Penny Jones o S4C.

Gwefan Amrywiaeth BBC

Gwefan Amrywiaeth S4C

Tina a Clebran

Categorïau:

Nia Medi Nia Medi | 20:04, Dydd Mercher, 28 Medi 2011

Sylwadau (0)

Newydd glywed fod Tina, sy'n ferch mewn cadair olwyn wedi cael ei gwrthod am dacsi wrth iddi baratoi am noson allan.

Os ydy chi wedi profi hyn, neu os oes gennych unrhyw fater arall o rhan trafnidiaeth nanableddsy'n effeithio arna chi yna dyma gyfarwyddiadau gan y llywodraeth o be I wneud nesa:

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd sicrhau eu bod yn hygyrch i bobl anabl.

"Corff statudol yw'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a'i rôl yw diogelu, gorfodi a hyrwyddo cydraddoldeb a chynnig cyngor ar achosion penodol o wahaniaethu posibl. Llinell gymorth y Comisiwn yng Nghymru yw 0845 604 8810 rhwng 8:00 am a 6:00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener neu gallwch anfon e-bost i waleshelpline@equalityhumanrights.com

CLEBRAN

Mae Clebran yn rhan o wasanaeth Barnardo's ar gyfer plant a phobl ifanc anabl rhwng 12 a 25 oed yng Ngwynedd i leisio eu barn ar y gwasanaethau maent yn eu defnyddio. Mae Clebran yn cyfarfod unwaith y mis ar ddydd Sadwrn fel arfer yn ardal Arfon, Dwyfor a Meirionydd.

Ma' criw clebran yn son am y materion sy'n ei wynebu nhw o ddydd I ddydd o rhan addysg, gwaith ac agwedd.

Dyma'I gwefan nhw os ydy chi a diddordeb neu am gymorth wrthynt:

Clebran

@ebion heno

Categorïau:

Nia Medi Nia Medi | 14:06, Dydd Mercher, 28 Medi 2011

Sylwadau (0)

Byw gyda anabledd ydi pwnc y rhaglen heno am 10 ar C2.

Ymysg y cyfranwyr heno bydd :

Criw Clebran



Tina a Sarah



Gerallt Gymro

Gerallt - cyfle i glywed Nia yn sgwrsio gyda Morfudd Mam Gerallt yn y rhaglen heno.



Heno ar raglen Lisa Gwilym....

Categorïau:

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 12:07, Dydd Mercher, 28 Medi 2011

Sylwadau (0)

Helo!

Ar y rhaglen heno - am 8 - Sion o Masters in France fydd yn dewis 'Caneuon i...' a Dr Rock fydd yn cadw cwmni i Lisa ar ol naw.

Lewis o Ysgol y Berwyn fydd yn dewis can gwaith cartref ac albym yr wythnos ydi albym newydd Colorama - Llyfr Lliwio.

Hwyl fawr Alvy Singer

Criw C2 Criw C2 | 17:55, Dydd Gwener, 23 Medi 2011

Sylwadau (0)

Heno ar raglen Huw Evans bydd cofnod olaf Dyddiadur Cerddorol Alvy Singer am y tro.

Dros y chwe wythnos dwethaf mae Alvy wedi rhannu ei feddyliau a'u syniadau gyda ni a heno bydd yn dweud ta-ta tan toc mewn cân hyfryd.

Os fethoch chi unrhyw rai o ddyddiaduron Alvy yna peidiwch poeni - bydd y cyfan ar gael i'w glywed ar wefan www.amrwd.com yn fuan!

Cadwyn Coleg ac Adam Walton heno....

Categorïau:

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 11:20, Dydd Iau, 22 Medi 2011

Sylwadau (0)

Ar y rhaglen heno - fe fydd y gadwyn coleg yn parhau, ac ar ol naw, fe fydd Adam Walton yn agor ei gwpwrdd cerddorol.

Ioan o Ysgol Bro Myrddin fydd yn dewis can gwaith cartref, ac fe gawn ni gan arall o albym newydd Texas Radio Band - Blue Screen.

A heno - gan fod na gannoedd o fyfyrwyr newydd yn cychwyn ar eu tymor cyntaf yn y coleg...sgynnoch chi gyngor iddyn nhw ar sut i ymdopi oddi cartref?

Rhaglen Huw Stephens

Categorïau:

Criw C2 Criw C2 | 11:18, Dydd Iau, 22 Medi 2011

Sylwadau (0)

Nos Lun diwethaf ar raglen Huw Stephens darlledwyd sesiwn gan Y Trydan.

Y Trydan

Recordiwyd y sesiwn gyda Curig Huws yn Street Level Stiwdios yng Nghaerdydd.

Er mwyn creu swn gwahanol defnyddiodd y band nifer o synths; Korg poly 6, microKorg, Alesis micron, Mini moog, Ms-10 a Megaphone.

Gwrandewch ar y sesiwn yn ei chyfanrwydd ar wefan C2.

Heno ar raglen Huw Stephens bydd Ifan Dafydd yn trafod ei brosiect cerddorol ôl-dub-step newydd.

@ebion

Categorïau:

Nia Medi Nia Medi | 23:11, Dydd Mercher, 21 Medi 2011

Sylwadau (0)

Dr Dai wedi bod yn trafod anorexia ar y rhaglen heno.

Mae cymorth ar gael o Beat Cymru

@ebion heno

Categorïau:

Nia Medi Nia Medi | 20:41, Dydd Mercher, 21 Medi 2011

Sylwadau (0)

Cyfle i weld fideo o'n gwestai Clayton Reid yn ymbincio

Gai Toms yn dewis 'Caneuon i ....' heno

Categorïau:

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 11:30, Dydd Mercher, 21 Medi 2011

Sylwadau (0)

Ar y rhaglen heno - Gai Toms fydd yn dewis Caneuon i... a Gwyn Eiddior fydd yn trafod Newyddion y Sin.

Lleucu o Ysgo Bro Myrddin fydd yn dewis Can Gwaith Cartref, ac fe gawn ni gan arall oddi ar albym Texas Radio Band - Blue Screen.

Ac fe fydd Gareth Rhys Owen yn y gem beldroed rhwng Caerdydd a Chaerlyr.

Rhaglen brysur iawn!!

@ebion: Clayton yn ymbincio

Categorïau:

Criw C2 Criw C2 | 14:56, Dydd Mawrth, 20 Medi 2011

Sylwadau (0)

Ar @ebion nos fory am 22.00, mi fydd Nia Medi yn holi Clayton Reid o'r Barri, am ei brofiad fel bachgen yn dechrau gwisgo colur tra yn yr ysgol.

Dyma gyfle i weld fideo o Clayton yn ymbincio.

 

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Mwy am y rhaglen.

Angen @ebion?

Categorïau:

Criw C2 Criw C2 | 13:18, Dydd Llun, 19 Medi 2011

Sylwadau (2)

Mae cyfres newydd ar wasanaeth C2 BBC Radio Cymru yn cynnig lle i bobol ifanc drafod pethau sy’n effeithio ar eu bywydau nhw yn onest a di-flewyn ar dafod.



Bydd @ebion, sy’n dechrau nos Fercher, Medi 21, 10pm, yn gyfres o wyth rhaglen fyw fydd yn taclo themâu amrywiol ac anodd yn aml, yn eu mysg delwedd, anabledd, rhywioldeb, bwlio ac alcohol a chyffuriau. Bydd hefyd yn cynnig llwyfan i bobol ifanc rannu profiadau ac ymateb yn uniongyrchol i’r pynciau a’r trafodaethau trwy decst, ffôn, e-bost a rhwydweithiau cymdeithasol. Nia Medi sy’n cyflwyno @ebion.

 

Nia Medi - cyflwynydd @ebion

Nia Medi - cyflwynydd @ebion

 

"Rydym yn croesawu’r gyfres yma sydd yn torri tir newydd i C2," meddai Sian Gwynedd, Golygydd BBC Radio Cymru.



"Bydd Nia Medi yn trafod rhai o’r materion sydd yn poeni bobol ifanc ar hyd a lled Cymru ac yn clywed nifer o storïau personol cryf iawn ganddyn nhw. Mi fydd yna gyngor ar gael a chyfle i ymateb yn fyw ar y rhaglen - ond mi fydd ‘na hefyd ddigonedd o gerddoriaeth a hwyl."



Bydd arbenigwr hefyd yn cymryd rhan ymhob rhaglen er mwyn cynnig cyngor ynglyn â phwnc penodol y rhaglen honno, gan ddechrau gyda delwedd, lle bydd Dr Dai Samuel yn siarad am ei brofiad o anorecsia a chynnig cyngor ar fyw a delio gyda’r cyflwr.



"Mae’r gyfres yma wedi bod yn agoriad llygad mawr i mi gan mod i wedi bod yn rhan o’r gwaith ymchwil hefyd," meddai Nia Medi, sy’n byw yng Nghaerdydd ond yn wreiddiol o Gwm Gwendraeth.



"Y gobaith ydi y bydd y rhaglen yn fath o ‘stafell ddiogel’ lle gall pobol ifanc deimlo’n rhydd i ddweud eu barn am yr hyn sy’n eu poeni nhw. Mae eu lleisiau nhw yn bwysicach nag erioed a dwi wedi dysgu gymaint yn eu cwmni yn barod a ‘dyw’r rhaglen heb hyd yn oed ddechrau eto! Mae’r rhaglen hon yn dangos cyfeiriad cyffrous newydd i C2 Radio Cymru a dwi’n hynod falch o fod yn rhan ohono."

@ebion ar wefan C2.

 

Wythnos ARALL i'w chofio o ran cerddoriaeth newydd....

Categorïau:

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 10:37, Dydd Gwener, 16 Medi 2011

Sylwadau (0)

Helo!

Sori os 'dwi fel tiwn gron, ond mae hi wedi bod yn wythnos anhygoel arall yma ar C2, a dwi mor ddiolchgar i'r holl artistiaid am ddanfon cynyrch newydd draw ata ni.

Nes i son yr wythnos dwetha ei bod hi wedi bod yn wythnos gofiadwy, ond mi oedd y caneuon gawsom ni yn y dyddia' dwytha llawn cystal os nad gwell!

  • Can newydd sbon gan Richard James!
  • Trac Yr Angen oddiar yr album newydd Gorffen Nos
  • Sesiwn newydd Swnami i raglen Y Lle ar S4C
  • EP gynta Candelas....
  • ... a heno am 8pm, y geiriosen ar ben y gacen, traciau newydd sbon gan Texas Radio Band a Dan Amor
.

Mae hyn i gyd yn ychwanegol i bethe'r wythnos dwetha sef:

  1. Albym MC Mabon
  2. Colorama yn gyrru yr albym fer newydd i ni
  3. Caneuon Cymraeg newydd Threatmantics
  4. Copi o CD/EP newydd Masters In France ar fy nesg
  5. Derbyn EP newydd vvolves
  6. Traciau newydd Truckers Of Husk
  7. "Demo" gan Cowbois Rhos Botwnnog fel anrheg!
  8. Huw Evans yn gyrru mp3s o'i albym newydd H.Hawkline
  9. Los Campesinos yn rhoi can newydd i'w lawrlwytho am ddim
  10. Cyfle i glywed albym newydd Girls

Dyddia da bobol!

Lis

x



Uchafbwyntiau Eisteddfod Genedlaethol 2011

Criw C2 Criw C2 | 22:37, Dydd Mercher, 14 Medi 2011

Sylwadau (0)

Heno ar C2 cafwyd rhaglen arbennig yn edrych nol ar uchafbwyntiau C2 yn gigs Maes B a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol 2011.

Cafwyd caneuon byw gan Colorama, Masters In France, Jen Jeniro, Cowbois Rhos Botwnnog, Gai Toms a Sibrydion!

Cofiwch am fideos o Stafell Werdd C2 yn yr Eisteddfod yma:

'Stafell Werdd C2 2011

Edrych 'mlaen at Eisteddfod 2012 yn barod!

Chweched dosbarth Ysgol Syr Huw Owen.....

Magi Dodd Magi Dodd | 18:25, Dydd Mercher, 14 Medi 2011

Sylwadau (0)

fydd yn tywys ni drwy eu "Lle Chwech" nhw - h.y eu stafell y chweched neu'r Crwm fel ma nhw'n lico galw hi.

Un or chweched, Sion Alun Williams fydd yn gadel ini wbod am y partis gwyllt, y reslo a pham ma na lun arnferth ohono fe lan ar y wal!

Chweched dosbarth Ysgol Syr Huw Owen fydd yn y "Lle Chwech" heno

bbc.co.uk/c2

Lle Chwech Ysgol y Preseli

Magi Dodd Magi Dodd | 17:52, Dydd Llun, 12 Medi 2011

Sylwadau (0)

Yr wthnos 'ma ar Dodd Com ryn ni an roi sylw haeddiannol i bobol bwysica unrhyw ysgol - Y Chweched Dosbarth!

Ryn ni 'di cael ein gwahodd i stafell y chweched 5 ysgol wahanol ac erbyn diwedd yr wthnos mi fyddwn ni yn coroni chweched dosbarth gore Cymru.

Pwy sy â'r soffas gore? Oes na gegin neu beiriant coffi yn y stafell? Pa tiwns sy'n cael eu chware a faint o bartis sy'n cael eu trefnu gan y Pwyllgor Adloniant? A'r cwestiwn pwysica oll... sut dai bach/lle chwech sy gan y chweched? Chweched dosbarth Ysgol y Preseli, Ysgol Maes Garmon, Syr Huw Owen, Ysgol Bryn Tawe ac Ysgol Rhydywaun fydd yn ateb y cwestiynau yma a LLAWER MWY.

Heno - NIa, Sara, Ffion, Tegid, Tomos a Gwion fydd yn arwain ni drwy ddrws stafell y chweched Ysgol y Preseli, Crymych.

Bbc.co.uk/c2 yn fyw am 7

Mae'n nos Lun - felly peidiwch a chwyno...

Categorïau:

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 11:58, Dydd Llun, 12 Medi 2011

Sylwadau (0)

Mae'n debyg mai dydd Llun ydi diwrnod mwyaf diflas yr wythnos a'r diwrnod pan fydd pobl yn cwyno fwyaf!

Felly i osgoi unrhyw ddiflastod - gwrandewch ar Raglen Lisa Gwilym heno rhwng 8 a 10.

Ar y rhaglen heno - Rhodri Ap Dyfrig fydd yn trafod ei wythnos ac Elen Pencwm fydd yn rhoi trefn ar y dyddiadur.

Criw o Ysgol Maes Garmon sydd yn dewis caneuon gwaithcartref yr wythnos yma.

A 'da ni isio i chi ddewis tri gair i ddisgrifio'ch penwythnos.

Cysylltwch drwy Facebook neu Twitter



Wythnos i'w chofio o ran cerddoriaeth newydd...

Categorïau:

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 16:37, Dydd Gwener, 9 Medi 2011

Sylwadau (0)

Helo bobol

Mae hi wedi bod yn wythnos wirioneddol gofiadwy am gerddoriaeth newydd, a dwi di mwynhau pob eiliad o'i gyflwyno ar C2. Dyma beth sydd wedi ei wneud yn wythnos mor sbesial:

  • Clywed nos Sul fod gan MC Mabon albym newydd, a'i chael yn albym yr wythnos
  • Colorama yn gyrru yr albym fer newydd i ni
  • Caneuon Cymraeg newydd Threatmantics
  • Copi o CD/EP newydd Masters In France ar fy nesg
  • Derbyn EP newydd vvolves
  • Traciau newydd Truckers Of Husk
  • "Demo" gan Cowbois Rhos Botwnnog fel anrheg!
  • Huw Evans yn gyrru mp3s o'i albym newydd H.Hawkline
  • Los Campesinos yn rhoi can newydd i'w lawrlwytho am ddim
  • Cyfle i glywed albym newydd Girls
  • Cael chwarae sesiwn newydd Trwbador

Bydd y cyfle cynta' i glywed caneuon Truckers Of Husk a Threatmantics heno am 8pm

Hwyl

Lis

x

Can newydd gan Cowbois Rhos Botwnnog heno!

Categorïau:

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 11:37, Dydd Mercher, 7 Medi 2011

Sylwadau (0)

Helo!

Mae gen i gan newydd gan Cowbois Rhos Botwnnog ar y rhaglen heno, a hefyd mi fydd Richard Holt o'r grwp CRWYDRO yn dewis 'Caneuon i...' a Griff Lynch fydd yn trafod Newyddion y Sin.

AIDS Trust Cymru

Criw C2 Criw C2 | 22:40, Dydd Mawrth, 6 Medi 2011

Sylwadau (0)

Heno ar raglen Ifan Evans fe gafon ni glywed gan Siwan Morris sy'n lysgennad ar gyfer AIDS Trust Cymru; elusen sy'n cynnig cymorth i unrhywun sy'n dioddef o firws AIDS neu HIV.

Soniodd Siwan am y modd mae pobl yn byw gyda'r cyflwr o ddydd i ddydd, y driniaeth mae'n olygu a pa gymhorth sydd ar gael.

Os hoffech chi fwy o wybodaeth am AIDS neu HIV neu am waith AIDS Trust Cymru ewch draw i wefan elusennau BBC Cymru:

Albym newydd gan MC Mabon!

Categorïau:

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 11:25, Dydd Llun, 5 Medi 2011

Sylwadau (0)

Ar y rhaglen heno - Gethin Evans fydd yn trafod ei wythnos a Leah Owen Griffiths fydd yn rhoi trefn ar y dyddiadur.

Albm yr wythnos ydi albym newydd MC Mabon - STRICT METER.

Heno - da ni isio gwybod be ydi'ch hoff gan MC Mabon chi ??!

Cysylltwch drwy Facebook neu Twitter.

Sgidiau Glas....

Categorïau:

Magi Dodd Magi Dodd | 11:31, Dydd Gwener, 2 Medi 2011

Sylwadau (0)

......fydd yn cyflwyno Dodd Com heno!

Mi fydd aelodau'r band, sy'n ddisgyblion yn Ysgol Dyffryn Teifi, Llandusul yn cyflwyno awr gyfan o Dodd Com heno YN FYW. Felly mi all UNRHYWBETH ddigwydd. Ac o nabod y band, dyn ni ddim yn siwr os fydd stiwdio ar ôl yng Nghaerfyrddin ar ôl iddyn nhw fod yna - ond un peth ryn ni'n hollol siwr ohono - ma'n mynd i fod yn rhaglen fythgofiadwy!

bbc.co.uk/c2 yn fyw HENO am 7

Lisa Gwilym heno am 8...

Categorïau:

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 18:50, Dydd Iau, 1 Medi 2011

Sylwadau (0)

Bydd Lisa yn sgwrsio hefo Dafydd Wyn sydd yn trefnu gigs i godi arian at Eisteddfod Genedlaethol Bro Mrogannwg 2012, a Casi Wyn yn son am Wyl Riley a gynhaliwyd penwythnos diwethaf ar Ynys Mon