Archifau Awst 2010

Dewi Llwyd ag Arfon Haines Davies

Categorïau:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 13:31, Dydd Sul, 29 Awst 2010

Sylwadau (0)

Am 35 o flynyddoedd roedd Arfon Haines Davies yn gyflwynydd teledu hynod brysur a oedd yn boblogaidd ymhlith gwylwyr Cymraeg a Saesneg fel ei gilydd.

Arfon Haines Davies

Mae'n ddigon parod i gyfaddef ei fod yn colli'r gwaith hwnnw ac yn arbennig felly'r wefr o ddarlledu'n fyw.

Yn ei sgwrs â Dewi mae'n dwyn i gof ddyddiau anhapus ei gyfnod yn yr ysgol, yn ogystal â rhai o'r rhaglenni y bu'n gysylltiedig a nhw a rhai o'r enwogion y bu'n cydweithio a nhw.

Fel mab i weinidog mae mynychu'r oedfa ar y Sul yn dal bwysig iddo, ac yn un o gapeli Caerdydd mae'n cadw at arferiad oes o eistedd yn y sedd gefn!

Darlledwyd y sgwrs 29.08.10

Aled ap Dafydd a Tudur Owen

Categorïau:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 15:40, Dydd Sul, 15 Awst 2010

Sylwadau (0)

Ffermwr blin yn Sir Fon fasa Tudur Owen pe na bai'n gomediwr!

Aled ap Dafydd sy'n cael y cyfle i'w holi am ei Sul delfrydol, yr amrywiaeth o fewn y gwaith a be ddigwyddodd i PC Leslie Wynne?!

Hoffai Tudur weld mwy o bwyslais ar gomedi yn y Gymraeg, a byddai wrth ei fodd gweld nosweithiau llawen eto yn ein cymunedau er mwyn meithrin talent newydd.

Mae'n rhannu'r profiad o 'farw' ar lwyfan, ei hoffter o Gymru ond yn gresynu fod y Cymry mor barod i gwyno!



Aled ap Dafydd a John Hardy

Categorïau:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 14:51, Dydd Sul, 15 Awst 2010

Sylwadau (0)

Aled ap Dafydd sy'n holi'r cyflwynydd a'r sylwebydd John Hardy am effaith marwolaeth ei nai ar y teulu, yn ogystal a son am ei waith cyflwyno ar raglenni Wedi 3 a Wedi 7.

Cawn glywed cymaint mae'n mwynhau sylwebu ar gemau pel-droed a chymaint mae'n colli'r teithio tramor gyda thim pel-dreod Cymru.

Mae hefyd yn cael boddhad mawr o gyflwyno rhaglen Cofio ar Radio Cymru ac yn un sy'n mwynhau bod yn brysur, er yn cyfaddef ei fod yn ddiog yn y bon!

Mae o'n gwylltio yn niffyg hyder y Cymry yn eu gallu eu hunain, ond yn ymfalchio ei bod yn genedl anhygoel o garedig. Mae'n son yn gyntaf beth yw ei Sul arferol.