Ddeng mlynedd ar hugain yn ol roedd Naomi Jones yn un o gyflwynwyr y rhaglen deledu i blant, Bilidowcar. Am gyfnod wedi hynny bu'n actio yn y gyfres boblogaidd Dinas. Ond bellach, ar ol bod yn gyfrifol am raglenni cartwn enwog fel 'Gwr y Gwyrthiau', hi ydi un o gynhyrchwyr mwyaf llwyddiannus Cymru ym maes animeiddio.
Yn ei sgwrs a Dewi mae Naomi'n rhagweld y bydd gwylio rhaglenni teledu a ffilmiau gyda sbectol 3D yn gyffredin iawn cyn bo hir.
Yn fam i ddau o blant, Daniel sy'n gerddor proffesiynol a Seren sy'n chwech oed, mae Naomi wedi ymgartrefu yn y Mwmbwls ar ol blynyddoedd o fyw yng Nghaerdydd.
Ond yn Eifionydd y'i magwyd yn ferch i'r artist Jonah Jones, a'r awdur o Israel Judith Maro.
Ac eto, er bod Cymru a'r Gymraeg yn bwysig iawn iddi, mae hi'n dal i boeni ei bod yn cael trafferth gyda rhai treigladau ac na fydd hi bydd yn deall y grefft o gynganeddu!
Mae'n cychwyn drwy son am sut mae hi'n treulio'r Sul.
Wrth nesau at ei benblwydd yn 40 oed mae'r cyn glo rhyngwladol Derwyn Jones mor brysur ag erioed.
Yn ogystal a bod yn sylwebydd rygbi ar S4C a Radio Cymru, mae'n gyfarwyddwr ar ddau gwmni, ac yn asiant i rai chwaraewyr amlwg gan gynnwys James Hook a Jonathan Thomas.
Ar ol ymddeol o'r gem bu hefyd yn athro ymarfer corff am gyfnod mewn ysgol fonedd yn Lloegr, lle bu'n hyd yn oed yn dysgu gymnasteg!
Oherwydd ei daldra mae Derwyn (6'10") yn dal i orfod dygymod ag ambell sylw ansensitif, ac yn sicr fe fydd ganddo ddigon o gyngor i'w dri o fechgyn sydd eisoes yn bur dal er eu bod ill tri o dan ddeg oed.
Yn naturiol mae'r cof am ei gap cyntaf yn erbyn De Affrica yn dal yn fyw, ond dydy Derwyn ddim yn debygol o anghofio gem arall yn erbyn yr un wlad pan gafodd ddwrn yn ei wyneb gan Kobus Wiese.
Cafodd fodd i fyw wrth chwarae am flwyddyn i glwb Beziers yn Ffrainc, gan roi blas iddo o'r math o dywydd y byddai'n dymuno ei weld yng Nghymru.
Bu'r digrifwr Ifan Gruffydd yn sgwrsio a Dewi chwarter canrif union ers i'w gyfres 'Ma' Ifan 'ma' ymddangos ar y teledu.
Mae'n parhau o hyd i gymryd rhan mewn nosweithiau llawen a chyngherddau ac mae'n hynod ddiolchgar am y cyfle a gafodd gan S4C.
Wrth edrych yn ol mae'n cofio'r cyfnod fel un prysur tu hwnt, ac anodd iawn ar adegau wrth iddo geisio cyfuno doniau'r diddanwr a'r amaethwr.
Ffermio wrth gwrs yw ei briod waith ar gyrion Tregaron, ac mae'n cyfaddef yn onest fod yn gas ganddo wneud hynny ar adegau, ond ei fod yn cael pleser aruthrol dro arall.
Mae Ifan hefyd yn egluro pam y priododd yn hwyr, ac fel un a fu'n gapelwr ffyddlon ar hyd ei oes, mae'n pwysleisio fod ei ffydd yn dal yn hynod bwysig iddo.
Ond efallai mai'r modd y mae'n gallu byw ei fywyd yn gyfangwbl drwy gyfrwng y Gymraeg sy'n rhoi'r boddhad mwyaf iddo.
Mae'n cychwyn drwy son am sut mae'n treulio'r Sul.
Bob Sul bydd Angharad Tomos yn mynd i ddau gapel gan geisio sicrhau bod y diwrnod cyntaf yn dra gwahanol i weddill yr wythnos.
Mae'n cyfaddef nad oes rhyw lawer o strwythur i'r dyddiau eraill, er ei bod yn dal i baratoi erthygl wythnosol i'r Herald fel y mae wedi gwneud ers 17 mlynedd.
A hithau'n awdur toreithiog mae'n datgelu y bydd yn cael ambell syniad wrth eistedd mewn caffi'n gwrando ar sgyrsiau pobl eraill!
Mae'n codi braw arni fod un o'i nofelau bellach yn rhan o faes llafur TGAU, yn arbennig felly gan na fydd hi'n ail ddarllen ei gwaith. Mae'n son hefyd am y cyfnod o iselder a gafodd wedi geni ei mab,
Hedydd, ac am ei bod yn fam, mae'n ychwanegu na allai hi, un o ymgyrchwyr amlycaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, fyth fynd i garchar eto.