Adolygiad Catrin Beard o'r llyfrau canlynol
Fy Ffordd fy Hunan - Felix Aubel
Hunangofiant Hugh Griffith - Hywel Gwynfryn
Gareth F Williams - Creigiau Aberdaron
Geraint V Jones - Si Be
Fflur Dafydd - Awr y Locustiaid
Nain / Mamgu - gol Bethan Gwanas
Ychydig ddyddiau ar ol i John Walter Jones ymddeol o'i swydd fel cadeirydd S4C, fe fu'n siarad a Dewi am ei gyfnod helbulus wrth y llyw, gan bwysleisio fod angen i'r sianel ddod yn agosach at ei chynulleidfa.
Cyn ei gyfnod yn S4C roedd John yn was sifil, ac yn brif weithredwr ar Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
Bellach mae'n edrych ymlaen at wneud mwy o waith elusennol gan gefnogi'n benodol elusen Arch Noa sy'n agos iawn at ei galon yn sgil marwolaeth ei unig ferch Beca y llynedd.
Ac yntau'n fab y mans, mae John yn hoff o fynd i'r oedfa yn Salem, Caerdydd ar fore Sul.
Mae hefyd yn datgelu'r hyn sy'n ei wylltio am Gymru a pham y bu'n trafod sut mae gwneud y grefi gorau!
Fe ddaeth Sian Lloyd i'r amlwg yng Nghymru fel un o gyflwynwyr cynnar S4C. Ond ers ugain mlynedd bellach mae'n adnabyddus fel un o gyflwynwyr rhagolygon y tywydd i ITV ac mae'n ymfalchio yn y cymwysterau proffesiynol y mae wedi eu hennill gan y Swyddfa Dywydd.
Yn ferch i athrawon cafodd ei magu yng Nghastell nedd, ac fel disgybl yn Ysgol Gyfun Ystalyfera enillodd goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
Wedi carwriaeth hir gyda'r cyn aelod seneddol Lembit Opik, fe briododd Jonathan Ashman, un o benaethiaid y byd rasio ceir, ym Mhortmeirion yn Rhagfyr 2007.
Mae ei chartref bellach yn Kensington ond mae ganddi dy hefyd ym Maldwyn a does dim yn well ganddi hi a'i gwr na dianc yno am benwythnos.
Mae'n gwneud cryn dipyn o waith elusennol ac er mwyn casglu arian tuag at elusen canser eleni fe ddringodd fynydd Kilimanjaro yn Affrica.
Branwen Gwyn fu'n gweld sioe Mamma Mia! sy'n Nhanolfan y Mileniwm Caerdydd hyd Ionawr 23ain
Sioe gerdd sydd wedi'i hysbrydoli gan 22 o ganeuon mwyaf llwyddiannus ABBA, yn adrodd hanes mam a'i merch ar noswyl priodas y ferch. Stori annwyl a doniol am gariad, chwerthin a chyfeillgarwch, gyda chaneuon oesol ABBA, mae stori Mamma Mia! am deulu a chyfeillgarwch yn digwydd ar baradwys un o ynysoedd Gwlad Groeg.
Yn ogystal mae Branwen yn sôn am ddigwyddiadau eraill sy'n theatrau Cymru yr wythnos hon.