Archifau Tachwedd 2011

Manylu: Ifanc, heb waith a heb obaith?

Categorïau:

Criw Manylu Criw Manylu | 17:00, Dydd Llun, 28 Tachwedd 2011

Sylwadau (0)

Wrth i'r nifer o bobl ifanc sy'n ddi-waith ym Mhrydain basio miliwn mi fydd Manylu yn mynd tu ôl i'r ystadegau a'n clywed profiad pedwar unigolyn sy'n chwilio am waith.

 

Mi raddiodd Gwenllian Haf Wyn o Brifysgol Aberystwyth yn 2010, ond mae wedi methu dod o hyd i waith parhaol ers hynny.

 

“Mae o’n cael person lawr, mae’n tynnu eich ysbryd chi lawr fel person, chi’n teimlo’n ddi-werth bod neb eisiau cyflogi chi achos bod chi ddim yn ddigon da, er nad ydy nhw yn eich adnabod chi a rili fi’n gwybod hynny.”

 

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf mae dros 49,000 o bobl ifanc rhwng 16-24 oed yn ddi-waith yng Nghymru. Mae hynny yn cynrychioli 22.4 y cant, sydd yn uwch na’r cyfartaledd y Deyrnas Gyfunol.

 

Un arall sy’n chwilio am waith ydi Louis Ryan, sy’n byw gyda’i fam a’i chwaer yng  Nghaerdydd. Mae’n 17 oed ac yn astudio yn y coleg.  Bu farw ei dad yn gynharach eleni ac ers hynny mae wedi bod yn edrych am waith rhan amser i geisio helpu sefyllfa ariannol ei deulu.

 

”Mae fy mam mewn gwaith ond dyw e ddim wir yn ddigon o arian oherwydd y mortgage, oherwydd yr angladd, oherwydd mae ganddi ddau o blant i ofalu amdano a does dim wir arian rhydd i ni ac rwy'n teimlo bach o gyfrifoldeb drosom ni”

 

Oes digon yn cael ei wneud i daclo diweithdra ymysg yr ifanc?

 

Cewch glywed mwy am brofiadau’r bobl ifanc sy’n chwilio am waith yn MANYLU, Nos Lun, 18.03 BBC Radio Cymru.

Teyrnged i Gary Speed

Categorïau:

Newyddion Newyddion | 09:03, Dydd Llun, 28 Tachwedd 2011

Sylwadau (0)

Rhaglen deyrnged arbennig yn cofio Gary Speed gan Dylan Jones.

 

Er mwyn gweld y cynnwys hwn rhaid bod Javascript ymlaen a Flash wedi'i osod ar eich peiriant. Ewch i BBC Webwise am gyfarwyddiadau pellach.

 

 

 

 

Dewi Llwyd yn holi Eirlys Parri

Categorïau:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 15:11, Dydd Sul, 27 Tachwedd 2011

Sylwadau (0)

Cyn dathlu ei phenblwydd y gantores sy'n wreiddiol o Forfa Nefyn oedd gwestai arbennig Dewi Llwyd. Yn ogystal a chyfnod fel cantores ac actores bu'n gweithio ym maes marchnata ac addysg ac er ei bod bellach wedi ymddeol mae hi mor brysur ac erioed ac yn parhau i ganu!

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

 

 

 

Meuryn newydd y Talwrn

Categorïau:

Newyddion Newyddion | 09:48, Dydd Mawrth, 22 Tachwedd 2011

Sylwadau (0)

Y Prifardd Ceri Wyn Jones yw Meuryn newydd Y Talwrn ar BBC Radio Cymru.

Mae Ceri Wyn yn olynu Gerallt Lloyd Owen, sy’n ymddeol wedi 32 mlynedd wrth lyw’r Talwrn. Yn enillydd Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol (1997), ac yna’r Goron (2009), mae’n llais a wyneb cyfarwydd ym myd talyrnau ac ymryson.

Ceri Wyn Jones

Ceri Wyn Jones

Cyrhaeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi, sef Dauwynebog, restr fer Llyfr y Flwyddyn 2008, ac fe’i disgrifiwyd gan y beirniaid fel "un o feirdd gorau ei genhedlaeth". Bu’n Fardd Plant Cymru ac yn feirniad cystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfodau Cenedlaethol 2006 a 2009. Mae’n Olygydd Llyfrau gyda Gwasg Gomer ac yn byw yn Aberteifi gyda’i wraig a thri o feibion.

Wrth gyhoeddi’r newyddion heddiw (Dydd Llun, Tachwedd 21) dywedodd Sian Gwynedd, Golygydd BBC Radio Cymru:

"Rydw i yn hynod falch o allu cyhoeddi mai Ceri Wyn Jones yw Meuryn newydd Y Talwrn, sy’n rhaglen mor bwysig yn amserlen Radio Cymru. Mae Ceri yn frwd, yn ffraeth ac yn feistr yn ei faes ac rydyn ni yn hyderus y bydd yn ddewis poblogaidd ymysg dilynwyr y gyfres. Mae’n uchel iawn ei barch o fewn byd y beirdd eu hunain hefyd ac mae’n siwr o ddod â’i syniadau a’i arddull ei hun i’r gyfres."

"Bydd dilyn ôl troed trysor cenedlaethol yn her," meddai Ceri Wyn am olynu Gerallt Lloyd Owen, "ond mae’n her sydd hefyd yn anrhydedd enfawr a chyffrous, yn gyfle i feithrin cenhedlaeth newydd o feirdd a gwrandawyr, yn ogystal â sicrhau bod y selogion yn para’n rhan ganolog o lwyddiant y gyfres."

Bydd Ceri yn recordio'i Dalwrn cyntaf fel Meuryn yn ei filltir sgwâr, yng Ngwesty'r Emlyn, Tanygroes nos Fawrth, Ionawr 10, a hon fydd rhaglen gynta’r gyfres, gaiff ei darlledu ar Ionawr 15 am  6.45pm.



Os oes cymdeithas neu glwb yn dymuno croesawu’r Talwrn i'w hardal yn y flwyddyn newydd, mae croeso iddyn nhw gysylltu â ytalwrn@bbc.co.uk neu Y Talwrn, BBC Cymru, Brynmeirion Bangor Gwynedd LL57 2BY.

Gwefan y Talwrn

Dewi Llwyd yn holi Gwynoro Jones

Categorïau:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 19:58, Dydd Sul, 20 Tachwedd 2011

Sylwadau (0)

Cyn dathlu ei benblwydd yr wythnos hon y cyn Aelod Seneddol Llafur Gwynoro Jones oedd gwestai Dewi Llwyd fore Sul 20.11.11. Ar ol ei gyfnod yn Nhy'r Cyffredin mae wedi bod yn brysur yn y byd addysg gan arwain tim o arolygwyr yn y blynyddoedd diwethaf, ond mae mor barod ac erioed i ddweud ei farn ar amryw o bynciau gan gynnwys gwleidyddion heddiw!

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

 

 

Ocsiwn Plant Mewn Angen Radio Cymru

Categorïau:

Newyddion Newyddion | 13:17, Dydd Iau, 17 Tachwedd 2011

Sylwadau (0)

... gyda'r arwerthwr  Stifyn Parri! yn dechrau ar raglen Dafydd a Caryl ac yn parhau hyd at raglen Geraint Lloyd yn y prynhawn.

Pecyn Cwpan Rygbi'r Byd

 

Mae'r eitemau fydd yn mynd o dan y morthwyl yn cynnwys:
  • Sgidiau pêl-droed wedi eu llofnodi gan Aaron Ramsey
  • Pêl, poster a rhaglen swyddogol Cwpan Rygbi'r Byd wedi ei llofnodi gan sgwad Cymru
  • Crys wedi ei lofnodi gan dîm pêl-droed Abertawe
  • Pecyn rygbi - rhaglen wreiddiol o gêm Llanelli v Crysau Duon 1972 lle curodd Llanelli, rhaglen arall wedi ei llofnodi gan y tîm buddugol hwnnw, dwy set o docynnau teulu y Scarlets
  • Arwydd Cwmderi wedi ei lofnodi gan gast y gyfres ddrama
  • Cân wedi ei chyfansoddi yn arbennig gan Caryl Parry Jones
  • Gwely a brecwast am ddwy noson i ddau yn y King's Head yn Llanymddyfri
  • Diwrnod yn RAF Fali
  • Englyn wedi ei sgrifennu yn arbennig i'r derbyniwr gan Rhys Iorwerth
  • Diwrnod yn pysgota gyda Julian Lewis Jones
  • Safle carafán efo trydan ym maes carafannau Eisteddfod Genedlaethol 2012 - gwerth £250.
  • Poster o'r reslwr Mason Ryan.



Y rhif i wneud cynnig ar y dydd yw 03703 500 500*.

Gwefan Ocsiwn Plant Mewn Angen Radio Cymru



*Cyfradd y DU yw 0370 sy'n costio dim rhagor na rhifau daearyddol 01/02. Gellir recordio galwadau at ddibenion hyfforddiant.



 

 

Lansio CD Cân y Babis ar gyfer Plant Mewn Angen

Categorïau:

Newyddion Newyddion | 13:55, Dydd Mawrth, 15 Tachwedd 2011

Sylwadau (0)

Mae CD arbennig iawn gan Caryl Parry Jones wedi cyrraedd y siopau, gyda’r elw yn mynd at elusen y BBC, Plant Mewn Angen.

CD Cân y Babis ar gyfer Plant Mewn Angen

 

Pan gyflwynodd Caryl Parry Jones eitem newydd ar ei rhaglen foreol gyda Dafydd Du ar BBC Radio Cymru, Dafydd a Caryl, roedd yn gyfle iddi gyfuno ei dawn fel cyfansoddwr gyda chyflwyno cyfarchion ddoi  i’r rhaglen i fabis bach newydd anedig. Yr eitem oedd Cân y Babis, sef cân wedi ei chyfansoddi gan Caryl ei hun, yn cynnwys enwau babis bach o’r holl gyfarchion. Mae’r eitem sydd bellach yn un fisol ar y rhaglen, wedi profi mor boblogaidd fel bo CD arbennig wedi ei chreu o’r holl ganeuon hyd yn hyn.



“Pan mae yna geisiadau o’r fath yn dod i mewn, mae Daf a fi yn ecseitio’n lan beth bynnag achos ryden ni’n dau yn licio babis,” meddai Caryl, “ond mi drodd y syniad gwreiddiol o wneud roll-call o holl enwau’r mis yn syniad i wneud cân y mis i groesawu pwy bynnag oedd wedi glanio yn y byd y mis hwnnw.



“I mi mae cyfansoddi’r diwn yn hawdd, ond y peth anodd ydi rhoi’r holl enwau mewn trefn, rhag ofn i ni anghofio rhywun! Roedd na gymaint o bobol yn holi am gopïau o’r caneuon ar CD mi feddylion ni y byddai gwneud CD i’w gwerthu yn ffordd dda o godi arian i Plant Mewn Angen. Dwi’n meddwl bod o wedi gweithio, ac mae’r cynhyrchydd Christian Phillips wedi gwneud gwaith anghoel – dydw i ddim y gitarydd gorau yn y byd ond mae’r caneuon yn swnio’n wych!”



Bydd CD Cân y Babis a gynhyrchwyd ac a ddosbarthir gan gwmni Sain, yn cael ei lansio yn ward mamolaeth Bwrdd Iechyd Hywel Dda Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, ar ddiwrnod Plant Mewn Angen, Dydd Gwener, Tachwedd 18, lle bydd rhaglen Dafydd a Caryl yn  darlledu yn fyw o’r ward. Bydd y caneuon hefyd ar gael i’w prynu ar iTunes a hefyd ar wefan Sain.



Dywedodd Pennaeth Bydwreigiaeth Sir Gâr, Julie Jenkins: “Rydym yn edrych mlaen yn arw at groesawu Dafydd a Caryl i'r ward, gan ein bod yn mwynhau gwrando ar y rhaglen. Rwy'n siŵr bydd sawl un o’n mamau’n awyddus i gymryd rhan ar y diwrnod. Mae tua 1,700 o fabanod yn cael eu geni ar ward Dinefwr bob blwyddyn, ac mae hi wir yn fraint bod yn rhan o bob un o’r genedigaethau hyn.”



Digwyddiad mawr arall ar ddiwrnod Plant Mewn Angen yw Ocsiwn Radio Cymru, ac eleni Stifyn Parri yw’r arwerthwr. Bydd yr Ocsiwn yn dechrau ar raglen Dafydd a Caryl ac yn parhau hyd at raglen Geraint Lloyd yn y prynhawn.



Mae’r eitemau fydd yn mynd o dan y morthwyl yn cynnwys:

  • Sgidiau pêl-droed wedi eu llofnodi gan Aaron Ramsey
  • Pêl swyddogol Cwpan Rygbi’r Byd wedi ei llofnodi gan sgwad Cymru
  • Crys wedi ei lofnodi gan dîm pêl-droed Abertawe
  • Pecyn rygbi - rhaglen wreiddiol o gêm Llanelli v Crysau Duon 1972 lle curodd Llanelli, rhaglen arall wedi ei llofnodi gan y tîm buddugol hwnnw, dwy set o docynnau teulu y Scarlets
  • Arwydd Cwmderi wedi ei lofnodi gan gast y gyfres ddrama
  • Cân wedi ei chyfansoddi yn arbennig gan Caryl Parry Jones
  • Gwely a brecwast am ddwy noson i ddau yn y King’s Head yn Llanymddyfri
  • Diwrnod yn RAF Fali
  • Englyn wedi ei sgrifennu yn arbennig i’r derbyniwr gan Rhys Iorwerth
  • Diwrnod yn pysgota gyda Julian Lewis Jones
  • Safle carafán efo trydan ym maes carafannau Eisteddfod Genedlaethol 2012 - gwerth £250.
  • Poster o’r reslwr Mason Ryan.

Mae'r eitemau i gyd ar wefan Radio Cymru.



Trwy gydol wythnos nesaf bydd Hywel Gwynfryn yn ymweld ag elusennau sydd wedi elwa o arian Plant Mewn Angen, gan gyfrannu eitemau ar amrywiol raglenni Radio Cymru.

Linc: Ocsiwn Radio Cymru

Linc: Gwefan Sain - CD Can y Babis

 

Dewi Llwyd yn holi Robat Arwyn

Categorïau:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 15:19, Dydd Llun, 14 Tachwedd 2011

Sylwadau (0)

Y cerddor amryddawn Robat Arwyn oedd gwestai arbennig Dewi fore Sul 13.11.11 cyn dathlu ei benblwydd yn 52 oed. Yn gyfansoddwr, canwr, pianydd ac arweinydd Cor Rhuthun mae cerddoriaeth yn rhan fawr o'i fywyd ond wrth ei waith bob dydd mae'n brif Lyfrgellydd i Gyngor Sir Ddinbych. 

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Manylu: Dim cysgod dros y gaeaf

Categorïau:

Criw Manylu Criw Manylu | 14:39, Dydd Llun, 14 Tachwedd 2011

Sylwadau (0)

Yr wythnos hon mae'r rhaglen yn dilyn hynt a helynt pedwar o bobl yng ngogledd Cymru sydd wedi treulio degawdau yn cysgu allan ar y stryd. Does na ddim ffigyrau swyddogol ar gyfer y nifer o bobl sy'n gwbwl ddi gartref ond amcangyfrifir gan elusennau ac awdurdoau lleol bod na rai cannoedd.

Ond mae profiadau dirdynol Idris, Liz, Dafydd a "Sion" yn dangos pa mor hawdd y mae hi'n bosib i fynd i'r fath drybini emosiynol a phersonol a pa mor ddi-hid y gall cymdeithas fod tuag atynt.

Manylu, heno, nos Lun 14 Tachwedd, am 1803.



Cerdd Dant Iwan Huws

Categorïau:

Newyddion Newyddion | 08:19, Dydd Gwener, 11 Tachwedd 2011

Sylwadau (0)

Wel dyma'r foment fawr!

Fis yn ôl fe osodwyd her arbennig iawn gan BBC Radio Cymru i Iwan Huws fynd ati i ddysgu'r grefft o osod cerdd dant, ac yna canu ei osodiad ei hun.



Y dasg a osodwyd iddo oedd gofynion cystadleuaeth yr unawd cerdd dant dros 21 oed yn yr Wyl Gerdd Dant eleni yng Nghwm Gwendraeth - sef 'Rhyfel' gan Hywel Griffiths ac Eurig Salisbury ar y gainc 'Cymerau- gan Nan Elis.



Ac ar  ôl cael dwy wers gerdd dant gan Menai Williams, a thrafod y gerdd a'r gainc hefo Hywel Griffiths a Nan Elis - fe ddaeth hi'n amser i Iwan recordio ei osodiad ei hun i gyfeiliant telyn.  Meinir Llwyd Jones sydd yn cyfeilio iddo...

 

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

 

 

Manylu:

Categorïau:

Criw Manylu Criw Manylu | 15:51, Dydd Llun, 7 Tachwedd 2011

Sylwadau (0)

Diogelu Cyflogau yn costio £700,000 y flwyddyn i'r Gwasanaeth Iechyd  

Mae’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn gwario bron i dri chwarter miliwn o bunnoedd y flwyddyn ar weinyddwyr y diddymwyd eu swyddi yn ystod ad-drefnu’r Gwasanaeth Iechyd yn 2009. Dyma fydd Manylu yn ei ddatgelu ar y rhaglen ddydd Llun 7fed o Dachwedd.  Dyma’r tro cynta i’r ffigurau gael eu cyhoeddi, yn dilyn cais gan y rhaglen o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

 

Yn ystod ad-drefnu’r Gwasanaeth Iechyd yn 2009, unwyd saith Ymddiriedolaeth GIC a 22 bwrdd iechyd lleol i greu saith bwrdd iechyd wedi eu hintegreiddio, oedd yn cynnwys Cymru gyfan. Y bwriad oedd cwtogi ar fiwrocratiaeth yn y system. Ond, yn ôl gwybodaeth a  gasglwyd gan Manylu, cafodd tua 120 o reolwyr a gollodd eu swyddi eu cadw mewn gwaith a diogelwyd eu cyflogau.

 

Mae ffigyrau gan y saith Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru yn dangos bod cyflogau wedi eu diogelu gan 52 rheolwr ar gyflog uwch na £40,000, bod 40 yn ennill dros £50,000 a 24 dros £80,000.

 

Mae cyfanswm diogelu cyflogau yn costio tua tri chwarter miliwn o bunnoedd i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, swm sy’n annerbyniol yn ôl AC Plaid Cymru Llŷr Huws Gruffydd. Meddai ar y rhaglen:

 

"Rwy wedi cael fy mrawychu o glywed y ffigyrau yma. Yn yr hinsawdd economaidd bresennol, mae'r byrddau iechyd lleol yn wynebu toriadau ac mae'n rhaid i bob ceiniog o'r arian weithio. Mae'r ffaith bod dros hanner miliwn o bunnau yn cael ei wario ar bobl sydd ddim mewn swyddi ystyrlon yn codi gwallt fy mhen.”

 

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru roedd diogelu cyflog yn un o’r pynciau a gytunwyd rhwng y gwasanaeth iechyd a’r undebau cyn ad-drefnu’r gwasanaeth iechyd yn 2009.  Yn ôl eu datganiad mae’r polisi yn cael ei adolygu ar hyn o bryd gan fforwm sy’n cynnwys cynrychiolaeth o’r Llywodraeth, y Gwasanaeth Iechyd a’r Undebau. Ond mae gweithwyr meddygol sy’n dweud eu bod yn gweithio o dan bwysau cynyddol yn galw am i’r Gweinidog Iechyd adolygu’r polisi o ddiogelu cyflogau yn wyneb y toriadau i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru. 

 

Manylu heno (nos Lun 7fed o Dachwedd) am 1803.

Dewi Llwyd yn holi Lisabeth Miles

Categorïau:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 15:06, Dydd Sul, 6 Tachwedd 2011

Sylwadau (0)

Cyn dathlu ei phenblwydd Lisabeth Miles oedd gwestai arbennig Dewi Llwyd fore Sul 06.11.11. Yn wreiddiol o Waunfawr ger Caernarfon , mae hi wedi bod yn amlwg ar sgrin ac ar lwyfan ers hanner canrif bellach ond mae'n debyg mai fel Megan ar Bobol y Cwm y mae hi fwyaf adnabyddus.

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

 

 

 

Gerallt yn rhoi'r gorau i'r Talwrn

Categorïau:

Newyddion Newyddion | 11:12, Dydd Iau, 3 Tachwedd 2011

Sylwadau (0)

Mae Gerallt Lloyd Owen wedi cadarnhau na fydd yn dychwelyd ar gyfer y gyfres nesaf o’r Talwrn ar BBC Radio Cymru, a’i fod yn rhoi’r gorau i fod yn Feuryn ar y rhaglen farddoniaeth boblogaidd, ar ôl 32 mlynedd wrth y llyw.

 

Gerallt Lloyd Owen

 

Meddai Gerallt Lloyd Owen:

“Dwi wedi gwneud 32 o flynyddoedd fel Meuryn ac efallai ei bod hi yn bryd rhoi cyfle i rhywun arall, wedi'r cyfan dwi wedi bod yn gwneud y Talwrn am hanner fy oes. Mae wedi bod yn gyfnod rhyfeddol o hapus a dwi wedi gwneud llawer iawn o ffrindiau ledled Cymru dros y blynyddoedd."

Meddai Sian Gwynedd, Golygydd Radio Cymru a Theledu Cymraeg:

“Gerallt Lloyd Owen fu llais Y Talwrn ar BBC Radio Cymru ers y cychwyn cyntaf ac mae’n sicr yn ddiwedd cyfnod wrth iddo ollwng yr awenau. Mae gwrandawyr yr orsaf a’r beirdd niferus y bu’n Feuryn arnynt ar hyd y blynyddoedd wedi elwa o’i sylwadau treiddgar, ei gof toreithiog a’i hiwmor parod. Mae’n wir dweud ei fod ef a’r Talwrn wedi sicrhau bod barddoniaeth yn parhau i fod yn gyfoes a difyr ymysg Cymry Cymraeg.

“Hoffwn i ar ran BBC Radio Cymru ddiolch i Gerallt am y cyfraniad aruthrol a wnaeth ar hyd yr holl flynyddoedd a dwi’n siŵr bod y gwrandawyr hefyd yn ymuno a mi wrth ddiolch a dymuno’r gorau iddo.”

Ewch i wefan Y Talwrn.

Dewi Llwyd yn holi Gary Slaymaker

Categorïau:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 14:46, Dydd Mercher, 2 Tachwedd 2011

Sylwadau (0)

Gwestai arbennig Dewi Llwyd fore Sul 30.11.11 oedd Gary Slaymaker oedd ar fin dathlu ei benblwydd. Yn enwog am ei ddadansoddi treiddgar o ffilmiau o bob math, am ei ddawn arbennig hefyd ym myd comedi ac fel cefnogwr pel-droed brwd .

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

 

 

Cowboi yn cerdd dantio

Categorïau:

Newyddion Newyddion | 10:19, Dydd Mercher, 2 Tachwedd 2011

Sylwadau (0)

Beth allai ddigwydd pan fo cerddor ifanc sy’n fwy cyfarwydd â gigio mewn tafarndai a chyfansoddi ar gyfer ei fand ifanc bywiog, yn ymgymryd â rheolau cymhleth a’r hen grefft gywrain o osod cerdd dant? Fe fydd rhaglen Nia Roberts yn datgelu hynny yr wythnos nesaf, wrth i Iwan Huws o fand Cowboi Rhos Botwnnog dderbyn her i geisio meistroli cerddoriaeth tra gwahanol i’r hyn y mae o a’i fand yn ei chwarae.

 

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

 

Bydd Iwan, sy’n byw yn Llithfaen, Pen Llŷn, ac yn canu a chwarae gitâr yn y band gyda’i ddau frawd, yn adrodd ei hanes ar Radio Cymru bob bore wythnos nesaf (Tachwedd 7-11), wrth i’r orsaf edrych ymlaen at ddarlledu’n llawn o Ŵyl Gerdd Dant Cymru dydd Sadwrn (Tachwedd 12).

Menai Williams, sydd â phrofiad helaeth mewn gosod a dysgu cerdd dant, sy’n rhoi gwersi i Iwan ers dechrau’r mis, a’r wythnos nesaf bydd gwrandawyr Radio Cymru yn clywed sut y bydd yn delio â’r her o osod darn o farddoniaeth, Rhyfel gan Hywel Griffiths ac Eurig Salisbury, ar y gainc Cymerau gan Nan Elis. Dyma’r dasg sydd wedi ei gosod ar gyfer cystadleuaeth yr unawd dros 21 oed yn yr Ŵyl eleni.

 

 

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

 

Mae Iwan wedi synnu ei hun ei fod yn mwynhau’r gwersi gymaint.



“Mae’n ofnadwy o ddifyr,” meddai. “Mae’n ffordd mor wahanol o gyfansoddi i’r hyn dwi wedi arfer hefo fo o ran sgwennu ar gyfer y band, ond i ddweud y gwir dwi’n meddwl y bydd yna ambell beth y byddai’n cymryd o’r profiad wrth gyfansoddi ar gyfer y band yn y dyfodol.



“Mae’n ddisgyblaeth eistedd i lawr i gael y gwersi, dwi heb gael gwersi piano na dim ers oeddwn i’n tua deuddeg neu un deg tri oed. Mae yna lot o reolau – mae’n rhaid cael un nodyn i bob sill a mae yna bethau defnyddiol a dwi yn cael syniadau am harmonïau  a phethau alla i eu defnyddio ar ôl hyn.”



Trwy gydol wythnos nesaf ar raglen Nia Roberts, (Llun-Gwener, 10.30am) bydd modd clywed am hynt a helyntion Iwan yn dysgu’r grefft. Mae modd ei ddilyn hefyd ar wefan Nia Roberts.



Bydd BBC Radio Cymru hefyd yn darlledu’n fyw o Ŵyl Gerdd Dant Cymru yng Nghwm Gwendraeth ar nos Sadwrn, Tachwedd 12, 7pm a rhaglen uchafbwyntiau ar fore Sul, Tachwedd 13, 10.45am.



Byw a brwydro MS

Categorïau:

Newyddion Newyddion | 15:48, Dydd Mawrth, 1 Tachwedd 2011

Sylwadau (0)

Gweithio i'r Herald Cymraeg yng Nghaernarfon oedd Owain Pennar yn niwedd yr Wythdegau pan sylweddolodd bod rhywbeth o'i le. Doedd Owain ddim yn gallu gweld sgrîn y cyfrifiadur yn iawn. Fe gymerodd hi flynyddoedd i feddygon ac arbenigwyr ddarganfod fod ganddo Sglerosis Ymledol, MS.



Bydd rhaglen yr wythnos hon yng nghyfres ddogfen BBC Radio Cymru, Straeon Bob Lliw yn dilyn hanes Owain, sy’n dad i ddau, gan ddarganfod sut beth ydi byw gyda'r cyflwr. Mae Owain yn gallu cerdded ychydig gyda dwy ffon ond mae'n treulio llawer o'i amser mewn gwahanol fathau o gadeiriau olwyn.  Mae'n dal i weithio'n llawn amser fel swyddog y wasg ac yn defnyddio 'power chair' yn ei waith.



Mae gan Gwern, ei fab ieuengaf pedair oed, Down's Syndrome. Mae Gwern yn rhoi modd i fyw i'w dad.  "Mae'n dda iawn da fi," meddai Owain, "mae'n addasu i fi - mae'n gwybod mod i'n ffaelu gwneud lot o bethau."



Yn ystod y rhaglen fe gawn ni gyfle i gyfarfod ag un o'r nyrsys MS - gwasanaeth sy'n bwysig iawn i Owain a phobol eraill sy'n byw gyda'r cyflwr.

 

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

 

Mi gawn ni hefyd gyfarfod â'i ffrind, Elis. Mae'n cofio un achlysur lle daeth y ddau i lawr yr allt serth o Gastell Dinefwr fel dwy gath i gythraul a gorfod taro i mewn i goeden er mwyn gwneud yn siŵr nad oedd Owain yn mynd tîn dros ben yn ei gadair.

 

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.





Straeon Bob Lliw: Stori Owain - Dydd Mercher, Tachwedd 2, BBC Radio Cymru, 6pm

 

Cân Babis Mis Hydref

Categorïau:

Criw Dafydd a Caryl Criw Dafydd a Caryl | 12:06, Dydd Mawrth, 1 Tachwedd 2011

Sylwadau (0)

Dyma'r gân gan Caryl Parry Jones yn arbennig i fabanod Mis Hydref.



Cofiwch gysylltu â Dafydd a Caryl os am sicrhau fod enw aelod diweddara'r teulu neu fabi i ffrind yng nghan "Babis mis Tachwedd!"

 

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.