Archifau Rhagfyr 2011

Datganiad ar gyfer Streic y Cerddorion

Categorïau:

Newyddion Newyddion | 12:00, Dydd Llun, 19 Rhagfyr 2011

Sylwadau (0)

Mae’r BBC yn siomedig iawn bod protest y cerddorion yn parhau am y tridiau nesaf a hynny er waetha ymdrechion i sicrhau bod yna amserlen a chyfarfod gyda uwch swyddogion y cyrff perthnasol, yn cynnwys prif weithredwr PRS, wedi ei gynnig yn gynnar yn y flwyddyn newydd gyda’r bwriad o ddatrys yr anghydfod yma cyn diwedd Chwefror. Dyma’r tro cyntaf y byddai cyfarfod o’r fath wedi cael ei drefnu ers i’r cerddorion ddechrau eu hymgyrch - a byddai’r agenda yn un cwbwl agored.

 

Dros yr wythnosau diwethaf felly mae BBC Cymru a’r BBC yn ganolog wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i geisio cael cynllun allai arwain at ddatrys yr anghydfod yma.



Er mai y PRS sy’n gosod lefelau taliadau’r breindal barn y BBC ydi na all y sefyllfa yma barhau ac yn ystod y dyddiau diwethaf mae’r BBC wedi  datgan eu bod yn gwbwl ymroddedig i geisio datrys y problemau a chwilio am atebion. Mae hynny’n dal i fod yn wir, er waetha’r ffaith bod y brotest yn parhau.



Mae’r BBC hefyd yn cydnabod pwysigrwydd y diwydiant cerddoriaeth Cymraeg i BBC Radio Cymru a’r cyfraniad aruthrol ma nhw’n ei wneud i ddiwylliant Cymru. Mae’r BBC yn ganolog hefyd yn ymwybodol o ba mor unigryw a gwerthfawr ydi’r cyfraniad yma i’n gwasanaethau a phwysigrwydd hyn oll i’n cynulleidfaoedd.  



Yn ôl Siân Gwynedd, Golygydd Radio Cymru, “Rydym fel gorsaf yn gefnogwyr pybyr i gerddorion Cymraeg ac yn ymhyfrydu yn y bartneriaeth greadigol sydd ganddon ni gyda cherddorion yng Nghymru. Mae’n bwysig bod y diwydiant yn ffynnu a dyna pam ein bod wedi rhoi gymaint o ymdrech dros yr wythnos ddiwethaf i geisio cynnig cynllun gweithredol allai ddatrys yr anghydfod. Mi ydw i yn teimlo yn wirioneddol siomedig bod y cyfle yma i ateb y broblem wedi ei wrthod ond yn gobeithio y byddwn yn gallu parhau fel gorsaf i gefnogi’r diwydiant yn yr un modd yn y dyfodol.” 

Dewi Llwyd yn holi Cleif Harpwood

Categorïau:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 16:37, Dydd Sul, 18 Rhagfyr 2011

Sylwadau (0)

Edward H Dafis oedd un o fandiau mwyaf poblogaidd y 70au . Canwr y grwp, Cleif Harpwood oedd gwestai arbennig Dewi fore Sul 18.12.11. Yn gyfarwyddwr a chynhyrchydd teledu erbyn hyn, mae ei ddiddordeb yn y byd cerddorol cyfoes yn fawr o hyd. Yn ystod y cyfwelid bu'n rhannu â Dewi ei obaith o gael pedwar o hen aelodau Edward H at ei gilydd er mwyn helpu bandiau ifanc y presennol.

 

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Manylu: Ydi'n werth protestio?

Categorïau:

Criw Manylu Criw Manylu | 09:00, Dydd Llun, 12 Rhagfyr 2011

Sylwadau (0)

Mi gafodd ei disgrifio fel y brotest fwya ers cenhedlaeth. Ddeng niwrnod wedi'r streic undydd gan weithwyr cyhoeddus, mae rhifyn yr wythnos yma o Manylu yn gofyn ydi hi werth protestio ? Oes yna rhywun yn gwrando ac ydi ysbryd y chwedegau yn dychwelyd i ymdrechion gwrthdystwyr  ?
Manylu, gyda Sian Pari Huws, nos Lun am 6.03pm ar Radio Cymru.


 

Dewi Llwyd yn holi Syr John Meurig Thomas

Categorïau:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 11:39, Dydd Sul, 11 Rhagfyr 2011

Sylwadau (0)

Y gwyddonydd disglair sydd wedi arbenigo ym maes cemeg ffisegol oedd gwestai arbennig Dewi Llwyd fore Sul 11.12.11. Mae Syr John Meurig Thomas wedi cael anrhydeddau lu mewn gwledydd ar hyd a lled y byd ac mae ei enw wedi ei roi ar fwyn o'r enw 'meurigite'.

 

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Llond cyfres o gyfleoedd yn Cyfle Cothi

Categorïau:

Newyddion Newyddion | 09:15, Dydd Gwener, 9 Rhagfyr 2011

Sylwadau (0)

Yn y gyfres  newydd hon o Cyfle Cothi, Steffan Jones o Gaerdydd yw’r cyntaf i dderbyn cyfle arbennig i dderbyn hyfforddiant a chyfle unigryw i berfformio ar lwyfan cyhoeddus. Yn enw cyfarwydd i lawer gan iddo fod yn un o gystadleuwyr Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2011 ac yn gystadleuwr rheolaidd mewn eisteddfodau amrywiol, astudiodd Steffan yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, a Phrifysgol Rhydychen cyn hynny.

 

Shan Cothi, Steffan Jones, ag Aled Hall

Shan Cothi, Steffan Jones, ag Aled Hall

Fel rhan o’r rhaglen, a gyflwynir gan Shân Cothi, bydd Steffan yn derbyn hyfforddiant gan arbenigwr yn ei faes, Aled Hall, mewn dosbarth meistr.  Ac mae Aled Hall, un o Dri Thenor Cymru, yn rhagweld dyfodol disglair i’r canwr ifanc.

 

"Mae gan Steffan lais arbennig iawn," meddai Aled. "Heb os, yn enwedig am ei oedran, mae ganddo lais arbennig a dyfodol disglair o’i flaen. Roedd yn bleser ei ddysgu, ac roedd yn un oedd yn gwrando arna i. A  dyna sy’n bwysig pan chi’n dysgu, eich bo chi yn gwrando a derbyn cyngor."



Fel rhan o’r rhaglen bydd Steffan yn derbyn her o ganu mewn cyngerdd, a’r her enfawr iddo yw canu yn un o gyngherddau’r Tri Thenor eu hunain.



"Roedd hwn yn ei hun yn brofiad da oherwydd pan ych chi yn cychwyn, mae’n bwysig iawn bo ti yn cael dy weld a dy glywed trwy’r amser," meddai Aled Hall. "Byddwn i wrth fy modd o fod wedi cael cyfle fel hyn. Hefyd, fe wnes i fwynhau rhoi’r dosbarth meistr, y tro cyntaf i mi wneud hynny, ac mae’n rhywbeth y bydden i yn mwynhau ei wneud yn y dyfodol eto."

Cyfle Cothi, Dydd Gwener, Rhagfyr 9, BBC Radio Cymru 1.15pm

 

Manylu: Pop Cymraeg - pa ddyfodol?

Categorïau:

Criw Manylu Criw Manylu | 12:30, Dydd Llun, 5 Rhagfyr 2011

Sylwadau (1)

Mae'r byd pop Cymraeg ar groesffordd yn ol un o hen hoeolion wyth y diwydiant. Yn ol Rhys Mwyn - gynt o'r Anhrefn ac sydd hefyd wedi gweithio fel rheolwr bandiau ac artistiaid unigol, mae'r angerdd wedi diflannu o ganu cyfoes Gymraeg. Ag yntau i raddau helaeth wedi cefnu ar y byd cerddoriaeth I weithio fel archaeolegydd, mae'n dweud bod angen syniadau ac amcanion newydd ar gyfer canu pop Cymraeg.

Nid fe yw'r unig berson arferai fod yn flaenllaw yn y byd roc a phop sydd wedi rhoi'r gorau i wneud bywoliaeth ohono. Mae Gai Toms - sy'n perfformio fel unigolyn ac sydd wedi bod yn aelod o Anweledig yn ddiweddar wedi bod yn gweithio fel athro rhan amser - am nad oes digon o incwm i'w wneud o'r byd cerddoriaeth. Mae e yn rhoi y bai yn blwmp ac yn blaen ar newidiadau yn y system freindaliadau ar gyfer cerddorion. Mae 'na ostyngiad mawr yn y tal mae'r PRS - y cwmni sy'n gyfrifol am gasglu breindaliadau yn ei roi i gyfansoddwyr pan mae un o'u caneuon yn cael ei chwarae ar Radio Cymru - ac mae hynny, meddai yn golygu fod ei incwm wedi gostwng yn sylweddol.

Mae 'na ffactorau eraill fodd bynnag sy'n effeithio ar gerddorion - yng Nghymru a thu hwnt. Yn eu mysg mae datblygiad y We - a'r ffaith nad oes raid prynu cryno ddisgiau mwyach er mwyn gwrando ar gerddoriaeth. Tra bod rhai pobol yn defnyddio gwefannau cyfreithlon - ac yn talu am lawrlwytho cerddoriaeth - mae llawer mwy yn gwneud hynny'n anghyfreithlon, heb dalu'r un geiniog.

Dywed rhai artistiaid fodd bynnag fod y byd pop Cymraeg yn dal yn fyw ac yn iach. Un o'r bandiau fu'n siarad a Manylu yw Cowbois Rhos Botwnnog. Gan dderbyn mai ychydig o arian sydd i'w wneud ohono, mae rhai o'u haelodau nhw yn ceisio byw yn llawn amser oddi ar eu cerddoriaeth, gan ddibynnu ar gyngherddau byw ar gyfer y rhan fwyaf o'u hincwm. Hyd yn oed yn y dyddiau yma o gynni economaidd, maen nhw'n dweud bod safon ac amrywiaeth y grwpiau Cymraeg sy'n brysur ar hyn o bryd gystal ag erioed.

Mae'r Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn rhan o drafodaethau i geisio datrys problem breindaliadau isel ar gyfer cerddorion Cymraeg. Er nad yw John Hywel Morris o'r PRS yn derbyn bod eu system newydd nhw'n anheg, mae e'n cydymdeimlo gyda sefyllfa cerddorion, ac yn dadlau y dylai arian cyhoeddus gael ei roi ar ffurf grantiau i'w galluogi i barhau i weithio ym myd cerddoriaeth.

Ond nid pawb sy'n cytuno a hynny. Does dim pwrpas rhoi grantiau i fandiau nad oes neb eisiau gwrando arnyn nhw meddai Rhys Mwyn. Mae e yn galw ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru yn comisiynu ymchwil i ddarganfod be yn union ydi diddordebau diwylliannol pobol ifanc - a pha fath o gerddoriaeth maen nhw eisiau ei glywed. Mi allai hynny, meddai, roi cyfeiriad newydd i'r byd pop. Gyda thechnoleg yn galluogi pobol ifanc i gael eu diddanu mewn nifer o ffyrdd newydd, mae'r "dyfodol" eisoes wedi cyrraedd meddai. Y peryg yw fod y byd pop Cymraeg yn dal yn sownd yn y gorffennol.

Manylu nos Lun 5ed o Ragfyr am 1803 ar Radio Cymru.

Dewi Llwyd yn holi'r Dr Carl Clowes

Categorïau:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 11:35, Dydd Sul, 4 Rhagfyr 2011

Sylwadau (0)

Cyn iddo dathlu ei benblwydd fe fu Dewi Llwyd yn trafod Lesotho, Nantgwrtheyrn, Antur Aelhaearn, Iechyd Cyhoeddus, Ynni Niwclear a Top of the Pops gyda Dr Carl Clowes.

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

 

 

 

 

Cân y Babis Mis Tachwedd

Categorïau:

Newyddion Newyddion | 14:25, Dydd Iau, 1 Rhagfyr 2011

Sylwadau (0)

Dyma'r gân gan Caryl Parry Jones yn arbennig i fabanod Mis Tachwedd.

 

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

 

Cofiwch gysylltu â Dafydd a Caryl os am sicrhau fod enw aelod diweddara'r teulu neu fabi i ffrind yng nghan "Babis mis Rhagfyr!".

Gwefan Dafydd a Caryl