Mae cantorion opera o bob cwr o’r byd wedi eu dethol i gystadlu yn BBC Canwr y Byd Caerdydd eleni. Cyhoeddwyd enwau a chenedligrwydd yr 20 o gantorion llwyddiannus heddiw (Mercher, Chwefror 20).
Bydd llygaid y byd opera ar Gaerdydd ar gyfer pen-blwydd 30ain y gystadleuaeth wyth diwrnod sy’n cael ei chynnal pob dwy flynedd, ac sydd yn cael ei chydnabod gydol y byd cerddoriaeth glasurol fel prif lwyfan i gantorion opera a chyngerdd ar gychwyn eu gyrfaoedd.
O Milan i Efrog Newydd, Buenos Aires a thu hwnt, cynhaliwyd clyweliadau mewn naw lleoliad , yn chwilio am 20 o gantorion rhagorol i gymryd rhan yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd 2013. Ymgeisiodd dros 400 o gantorion opera a chyngerdd, sydd ar gychwyn eu gyrfaoedd. I’r 20 sydd wedi cael eu dewis, bydd yr amlygrwydd o flaen cynulleidfaoedd mawr, yng Nghaerdydd ac ar draws gwasanaethau teledu, radio ac ar-lein y BBC, yn rhoi hwb unigryw i’w gyrfaoedd.
Clive Timms, Pennaeth Opera yn Ysgol Gerddoriaeth y Guildhall a’r cyfeilydd enwog, Ingrid Surgenor, daeth a’r rhestr fer o 52 o gantorion at ei gilydd o’r ceisiadau DVD.
Dywedodd Elaine Padmore, cyn Gyfarwyddwr Opera yr Opera Brenhinol ac un o’r tri beirniad a deithiodd ledled y byd i glyweliadau ar gyfer yr 20 olaf:
“Mae gwrando ar gantorion bob tro yn broses diddorol - lleisiau nad ydych wedi eu clywed o’r blaen. Mae pob llais yn unigryw, ac rydych chi’n chwilio am y canwr yna sy’n rhoi ‘ias’ i chi neu sy’n neud i chi feddwl - mae hwn yn llais gwahanol ac arbennig - gobeithio fod hwn yn llais BBC Canwr y Byd Caerdydd.
“Mae’r 20 canwr yma ar y llwybr i fod yn gantorion proffesiynol da. Maen nhw ar y trothwy ac yn edrych ymlaen at Gaerdydd - y wobr ddisglair. Mae’n gystadleuaeth sy’n rhoi gymaint o hwb ymlaen i’ch gyrfa gan ei bod yn cael ei gweld o gwmpas y byd. Yr hyn mae’r cantorion yn ei wneud, trwy gael cyfle byd-eang mor wych, ydi ceisio datblygu eu gyrfaoedd yn fawr iawn.
“Mae gan gystadleuaeth fel BBC Canwr y Byd Caerdydd enw da iawn ac mae hi wedi ei chynnal bellach ers 30 o flynyddoedd. Pan rydych chi’n edrych yn ôl dros yr enillwyr blaenorol, fel yr enillydd gyntaf un Karite Mattila, rydych chi’n sylweddoli bod hyd yn oed y cantorion na enillodd bellach yn enwau mawr, yn arbennig y rhai a datblygodd wedyn. Daeth cantorion Wagner fel Nina Steme a Michael Volle i enwogrwydd wrth i’w lleisiau aeddfedu.”
Bydd y cantorion a fydd yn perfformio yng Nghaerdydd o ddydd Sul 16 – Sul 23 Mehefin 2013, yn cael yr anrhydedd o berfformio o flaen Y Fonesig Kiri Te Kanawa, y gantores enwog a Noddwr BBC Canwr y Byd Caerdydd am yr eildro.
Mae’n gefnogwr brwd a mentor cenhedlaeth newydd o gantorion. Y Fonesig Kiri yw sylfaenydd y Kiri Te Kanawa Foundation a'i Noddwr Anrhydeddus Artistig. Fel y prif athro gwadd o’r Solti te Kanawa Accademia di Bel Canto, mae hi’n mynd ati’n weithgar i drosglwyddo ei phrofiadau amhrisiadwy fel aelod o’r rheithgor. Yn ymuno â hi bydd Elena Obraztsova, Neil Shicoff, Brend Weikl, Maren Hofmeister, Per Boye Hansen a’r cadeirydd, Nicholas Payne.
Bydd y cantorion yn perfformio eu rhaglenni eu hunain o weithiau operatig a chyngherddol yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, gyda chyfeiliant Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC dan arweiniad Jun Märkl a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru dan arweiniad Graeme Jenkins.
Ymhlith enillwyr blaenorol BBC Canwr y Byd, a sefydlwyd yn 1983 gan BBC Cymru Wales, mae’r enillydd cyntaf Karita Mattila , Dmitri Hvorostovsky, Anja Harteros ac enillydd 2011 Valentia Naforniţă.
Bydd yr enillydd yn derbyn £15,000 a Thlws Caerdydd. Yn ogystal cynhelir Gwobr y Gân, sy’n cael ei rhoi i’r canwr gorau o ganu Lieder a chanu celf, yn neuadd wych Dora Stoutzker yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru am y tro cyntaf. Mae’r holl gantorion yn gymwys i gymryd rhan yng Ngwobr y Gân i ennill gwobr o £5,000 a thlws.
Trefnir BBC Canwr y Byd Caerdydd gan BBC Cymru Wales mewn cydweithrediad ag Opera Cenedlaethol Cymru a gyda chefnogaeth Dinas a Chyngor Caerdydd.
Mae holl fanylion BBC Canwr y Byd Caerdydd ar gael o bbc.co.uk/cardiffsinger, yn ogystal â ffurflen archebu i’w lawr lwytho.
Gwefan BBC Canwr y Byd Caerdydd 2013